- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
111.—(1) Os bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn iddo, rhaid i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd i'r myfyriwr o dan y Rhan hon sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae ganddo hawlogaeth i'w gael o dan y Rhan hon.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru adennill gordaliad o grant o dan y Rhan hon onid ydynt o'r farn nad yw'n briodol i wneud hynny.
(3) Dyma'r dulliau ar gyfer adennill—
(a)tynnu'r gordaliad o unrhyw fath o grant sy'n daladwy i'r myfyriwr o bryd i'w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf;
(b)cymryd unrhyw gamau eraill i adennill gordaliad sydd ar gael iddynt.
(4) Mae taliad grant o dan y Rhan hon a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordaliad os yw'r myfyriwr yn rhoi'r gorau i'r cwrs cyn y dyddiad perthnasol onid yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.
(5) Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw'r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.
(6) Yn yr amgylchiadau ym mharagraffau (7) a (8), mae gordaliad o grant o dan y Rhan hon onid yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.
(7) Yr amgylchiadau yw—
(a)mae Gweinidogion Cymru yn cymhwyso'r cyfan neu ran o'r grant o dan y Rhan hon i brynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr ôl-raddedig cymwys;
(b)mae cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; ac
(c)nid yw'r offer wedi'i ddanfon at y myfyriwr cyn i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr ddod i ben.
(8) Yr amgylchiadau yw—
(a)mae cyfnod cymhwystra'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben; a
(b)gwneir taliad grant o dan y Rhan hon mewn perthynas ag offer arbenigol i'r myfyriwr ar ôl i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr ddod i ben.
(9) Pan fo gordaliad o grant o dan y Rhan hon, caiff Gweinidogion Cymru dderbyn yn ôl offer arbenigol a brynwyd â'r grant yn fodd i adennill y cyfan neu ran o'r gordaliad os ydynt o'r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: