RHAN 7DARPARIAETHAU CYFFREDINOL YNGLYN Å BENTHYCIADAU

Symiau ychwanegol o fenthyciadau

50.—(1Caiff myfyriwr cymwys wneud cais am fenthyg swm ychwanegol o fenthyciad at gostau byw—

(a)os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu y dylid cynyddu uchafswm y benthyciad at gostau byw sydd wedi'i hysbysu i'r myfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd (gan gynnwys cynnydd i fyny o ddim byd) o ganlyniad i ailasesu cyfraniad y myfyriwr neu fel arall; a

(b)os yw Gweinidogion Cymru o'r farn nad yw'r cynnydd yn yr uchafswm yn digwydd oherwydd i'r myfyriwr cymwys—

(i)methu â rhoi yn brydlon wybodaeth a allai effeithio ar ei allu i fod â hawl i gael benthyciad neu swm y benthyciad y mae ganddo hawl i'w gael; neu

(ii)rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran unrhyw fanylyn perthnasol.

(2Nid yw'r swm ychwanegol ym mharagraff (1), o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm wedi'i gynyddu.

(3Os yw myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am fenthyciad sy'n llai na'r uchafswm y mae ganddo hawlogaeth i'w gael mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm perthnasol sy'n gymwys yn ei achos ef.

Llog

51.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae benthyciadau'n cario llog yn ôl y gyfradd a fydd yn arwain at gyfradd ganrannol flynyddol o dâl a bennir yn unol â Rheoliadau Credyd Defnyddwyr (Cyfanswm y Tâl am Gredyd) 1980(1) sy'n hafal i'r cynnydd canrannol rhwng y mynegai prisiau manwerthu pob eitem a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Mawrth 2008 a'r mynegai a gyhoeddwyd felly ganddi ar gyfer Mawrth 2009.

(2Os yw'r gyfradd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn fwy na'r gyfradd sydd am y tro wedi'i phennu at ddibenion unrhyw esemptiad sydd wedi'i roi yn rhinwedd adran 16(5)(b) o Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974(2), mae benthyciadau'n cario llog yn ôl y gyfradd sydd wedi'i phennu felly.

(3Cyfrifir llog ar y prifswm sy'n weddill bob dydd ac mae'n cael ei ychwanegu at y prifswm bob mis.

(4Y mynegai prisiau y mae adran 22(8) o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw iddo wrth ragnodi cyfradd llog benthyciadau yw'r mynegai prisiau manwerthu pob eitem a grybwyllir ym mharagraff (1).

(1)

O.S. 1980/51, a ddiwygiwyd gan O.S. 1989/596 ac O.S. 1999/3177.