xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3GWNEUD CAIS AM GYMORTH A RHOI GWYBODAETH

Ceisiadau am gymorth

9.—(1Rhaid i berson (y “ceisydd”) wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i Weinidogion Cymru gais ar unrhyw ffurf a chan ddarparu unrhyw ddogfennau y bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn amdanynt.

(2Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y maent yn credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw'r ceisydd yn fyfyriwr cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth a swm y cymorth sy'n daladwy, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r ceisydd a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth ai peidio ac, os oes gan y ceisydd hawl, ei hysbysu o swm y cymorth sy'n daladwy mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.

Terfynau amser

10.—(1Y rheol gyffredinol yw bod rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na diwedd y nawfed mis o'r flwyddyn academaidd y mae'n cael ei gyflwyno mewn perthynas â hi.

(2Nid yw'r rheol gyffredinol yn gymwys—

(a)os bydd un o'r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 14 yn digwydd ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o naw mis sy'n dechrau gyda'r diwrnod y mae'r digwyddiad perthnasol yn digwydd;

(b)os yw'r ceisydd yn gwneud cais ar wahân am fenthyciad at ffioedd o dan reoliad 21 neu reoliad 22 neu fenthyciad cyfrannu at ffioedd o dan reoliad 20 neu fenthyciad at gostau byw o dan reoliad 38 neu fenthyciad at ffioedd coleg o dan Atodlen 4 neu os yw'n ceisio am swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd o dan reoliad 21(6) neu 21(8), swm ychwanegol o fenthyciad cyfrannu at ffioedd o dan reoliad 20(6), neu swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd o dan reoliad 22(3), neu swm ychwanegol o fenthyciad at gostau byw o dan reoliad 50(3) neu swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd coleg o dan Atodlen 4 paragraff 11(2) ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach nag un mis cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae'r cais yn ymwneud â hi;

(c)os yw'r ceisydd yn gwneud cais am fenthyg swm ychwanegol o fenthyciad cyfrannu at ffioedd o dan reoliad 20(4) neu swm ychwanegol o fenthyciad at gostau byw o dan reoliad 50(1), ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach nag un mis cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae'r cais yn cyfeirio ati neu o fewn cyfnod o un mis sy'n dechrau ar y diwrnod y caiff y ceisydd hysbysiad ynglyn â'r uchafswm wedi'i gynyddu, p'un bynnag yw'r olaf;

(ch)os yw'r ceisydd yn gwneud cais am grant o dan reoliad 24, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol;

(d)os yw Gweinidogion Cymru o'r farn, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau'r achos penodol, y dylid llacio'r terfyn amser, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na'r dyddiad a bennir ganddynt.

Gwybodaeth

11.  Mae Atodlen 3 yn gymwys i roi gwybodaeth.