Search Legislation

Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2008

Status:

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

RHAN 1Rhagarweiniad

Enwi

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2008.

Cymhwyso

2.  (1)  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru mewn perthynas ag unrhyw ddaliad mewn parth perygl nitradau sydd wedi'i ddynodi felly yn y Rheoliadau hyn.

(2Yn achos daliad sy'n rhannol o fewn parth perygl nitradau, dim ond yn y rhan o'r daliad sydd y tu mewn i'r parth y mae'r Rheoliadau'n gymwys, ac mae cyfeiriad at ddaliad yn gyfeiriad at y rhan honno.

Dod i rym

3.  (1)  Daw'r Rheoliadau hyn (ac eithrio rheoliad 22(1) a Rhan 7) i rym ar 1 Ionawr 2009.

(2Daw rheoliad 22(1) a Rhan 7 i rym ar 1 Ionawr 2012.

Mesurau trosiannol ar gyfer daliadau nad oeddent gynt mewn parth perygl nitradau.

4.  Mewn daliad neu ran o ddaliad nad yw'n rhan o barth perygl nitradau o dan Reoliadau Diogelu Dŵr rhag Llygredd Nitradau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 1996(1) neu Reoliadau Diogelu Dŵr rhag Llygredd Nitradau Amaethyddol (Diwygio) (Cymru) 2002(2)

(a)ni fydd Rhannau 3 a 4, rheoliadau 19 i 21, 22(2), 23, Rhan 6 a Rhan 8 yn gymwys tan 1 Ionawr 2010, a

(b)ni fydd y gofynion yn rheoliadau 35(1) a 36(1) i gofnodi maint y daliad a'r lle storio yn gymwys tan 30 Ebrill 2010.

Ystyr “dŵr llygredig”

5.  Mae dŵr wedi'i lygru—

(a)os yw'n ddŵr croyw ac yn cynnwys crynodiad nitradau sy'n uwch na 50 mg/l, neu y gallai ei gynnwys pe na bai'r Rheoliadau hyn yn gymwys yno, neu

(b)os yw'n ewtroffig neu y gallai ddod yn ewtroffig yn y dyfodol agos pe na bai'r Rheoliadau hyn yn gymwys yno.

Dehongli

6.  (1)  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “da byw” (“livestock”) yw unrhyw anifail (gan gynnwys dofednod) a bennir yn Atodlen 1;

ystyr “dofednod” (“poultry”) yw dofednod a bennir yn Atodlen 1;

ystyr “ewtroffig” (“eutrophic”) yw dwr sydd wedi'i gyfoethogi gan gyfansoddion nitrogen, sy'n peri i algâu a ffurfiau uwch ar fywyd planhigol dyfu'n gyflymach, gan darfu mewn modd annymunol ar gydbwysedd yr organeddau sy'n bresennol yn y dŵr ac ar ansawdd y dŵr o dan sylw;

ystyr “gwrtaith nitrogen” (“nitrogen fertiliser”) yw unrhyw sylwedd sy'n cynnwys un neu fwy o gyfansoddion nitrogen a ddefnyddir ar dir i wella twf y llystyfiant ac mae'n cynnwys tail organig;

ystyr “gwrtaith a weithgynhyrchwyd” (“manufactured fertiliser”) yw unrhyw wrtaith nitrogen (ac eithrio tail organig) sydd wedi'i weithgynhyrchu drwy broses ddiwydiannol;

ystyr “person penodedig” (“appointed person”) yw'r person a benodwyd gan Weinidogion Cymru o dan Reoliad 8(1);

mae “pridd tenau” (“shallow soil”) yn bridd y mae ei ddyfnder yn llai na 40 cm;

ystyr “pridd tywodlyd” (“sandy soil”) yw unrhyw bridd sy'n gorwedd ar dywodfaen, neu unrhyw bridd arall—

(a)

pan fo, yn yr haen hyd at ddyfnder o 40 cm—

(i)

mwy na 50 y cant yn ôl pwysau o ronynnau y mae eu diamedr o 0.06 i 2 mm,

(ii)

llai na 18 y cant yn ôl pwysau o ronynnau y mae eu diamedr yn llai na 0.02 mm, a

(iii)

llai na 5 y cant yn ôl pwysau o garbon organig, a

(b)

pan fo, yn yr haen o ddyfnder 40 i 80 cm—

(i)

mwy na 70 y cant yn ôl pwysau o ronynnau y mae eu diamedr o 0.06 i 2 mm;

(ii)

llai na 15 y cant yn ôl pwysau o ronynnau y mae eu diamedr yn llai na 0.02 mm;

(iii)

llai na 5 y cant yn ôl pwysau o garbon organig;

ystyr “slyri” (“slurry”) yw carthion a gynhyrchir gan dda byw (ac eithrio dofednod) tra bônt mewn buarth neu adeilad (gan gynnwys unrhyw sarn, dwr glaw neu olchiadau a gymysgwyd gyda'r carthion hynny) ac y mae eu tewdra yn caniatáu iddynt gael eu pwmpio neu eu gollwng drwy ddisgyrchiant (yn achos carthion sydd wedi'u gwahanu i'w ffracsiynau hylifol a'u rhai solet, y ffracsiwn hylifol yw'r slyri);

mae “taenu” (“spreading”) yn cynnwys dodi ar wyneb y tir, chwistrellu i mewn i'r tir neu gymysgu â haenau arwyneb y tir ond nid yw'n cynnwys dyddodi carthion yn uniongyrchol ar y tir gan anifeiliaid.

ystyr “tail organig” (“organic manure”) yw unrhyw wrtaith nitrogen sy'n deillio o anifeiliaid, planhigion neu fodau dynol ac mae'n cynnwys tail da byw;

ystyr “tir y mae'r risg o oferu drosto yn isel” (“land that has a low run-off risk” yw tir y mae ei lethr cyfartalog yn llai na 3° (3 gradd), a hwnnw'n dir nad oes ganddo draeniau tir (ac eithrio pibell anhydraidd sydd wedi'i selio), ac sydd o leiaf 50 metr o gwrs dwr neu ddyfrffos sy'n arwain at gwrs dŵr.

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd.

RHAN 2Dynodi parthau perygl nitradau

Dynodi parthau perygl nitradau

7.  (1)  Mae'r ardaloedd sydd wedi'u marcio'n barthau perygl nitradau ar y mapiau sydd wedi'u marcio â'r geiriau “Parthau Perygl Nitradau Map Mynegai 2008” (“Nitrate Vulnerable Zones Index Map 2008”) a'u hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, wedi'u dynodi'n barthau perygl nitradau at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(2Darnau o dir yw'r rhain sy'n draenio i ddyfroedd llygredig ac sy'n cyfrannu at lygru'r dyfroedd hynny.

Cais am ddatganiad

8.  (1)  Caiff perchennog neu feddiannydd unrhyw ddaliad mewn parth perygl nitradau wneud cais i berson a benodwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn am ganfyddiad ynglŷn â'r daliad neu ran ohono i'r perwyl—

(a)nad yw'n draenio i ddŵr y mae Gweinidogion Cymru wedi nodi ei fod yn llygredig, neu

(b)ei fod neu ei bod yn draenio i ddŵr na ddylai Gweinidogion Cymru fod wedi nodi mai dŵr llygredig ydoedd,

ac felly ni ddylid dynodi'r tir yn barth perygl nitradau.

(2Rhaid i gais fod wedi'i seilio naill ai ar—

(a)data a ddarperir gan y ceisydd, neu

(b)tystiolaeth a ddarperir gan y ceisydd a honno'n dystiolaeth bod y data a ddefnyddiwyd gan Weinidogion Cymru'n anghywir.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi ym mha fodd ac ar ba ffurf y mae'n rhaid gwneud y cais.

(4Rhaid i gais gael ei wneud mewn ysgrifen ar 31 Mawrth 2009 neu cyn hynny, rhaid iddo gael ei wneud yn y modd ac ar y ffurf sy'n ofynnol gan Weinidogion Cymru a rhaid iddo gynnwys yr holl ddogfennaeth y mae'r ceisydd yn dibynnu arni.

Achosion cyfreithiol gerbron y person penodedig

9.  (1)  Rhaid i'r person penodedig ystyried y cais a chanfod a yw'r ceisydd wedi dangos, yn ôl pwysau tebygolrwydd, ynglŷn â'r daliad neu ran o'r daliad—

(a)nad yw'n draenio i ddŵr y mae Gweinidogion Cymru wedi nodi ei fod yn llygredig; neu

(b)ei fod neu ei bod yn draenio i ddŵr na ddylai Gweinidogion Cymru fod wedi nodi mai dwr llygredig ydoedd,

(2Rhaid i'r person penodedig ddod i'w benderfyniad ar sail y ddogfennaeth a gyflwynwyd iddo onid yw'n penderfynu bod arno angen gwybodaeth ychwanegol i ffurfio barn, ac os felly, caiff ofyn i geisydd, neu i Weinidogion Cymru, ddarparu deunydd ychwanegol, ac o dan amgylchiadau eithriadol, caiff gynnal gwrandawiad llafar.

(3Mewn gwrandawiad llafar mae gan y ceisydd a Gweinidogion Cymru hawl i ymddangos, ac fe gaiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw barti arall ymddangos.

(4Rhaid i bob parti ddwyn ei gostau ei hun.

Effaith y canfyddiadau a wneir gan y person penodedig

10.  (1)  Os bydd y person penodedig yn penderfynu o blaid y ceisydd, ni fydd y daliad y mae'r cais yn gymwys iddo yn cael ei drin mwyach, at ddibenion y Rheoliadau hyn, fel un sydd mewn parth perygl nitradau.

(2Os bydd y person penodedig yn canfod na ddylai unrhyw grynofa ddŵr fod wedi'i nodi fel un llygredig, ni fydd unrhyw ddaliad sy'n draenio i'r grynofa ddŵr honno yn cael ei drin mwyach, at ddibenion y Rheoliadau hyn, fel un sydd mewn parth perygl nitradau, ac mae'n rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu meddiannydd y cyfryw ddaliad ar unwaith.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi pob canfyddiad gan y person penodedig ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Adolygu parthau perygl nitradau

11.  (1)  Rhaid i Weinidogion Cymru gadw golwg cyson ar natur ewtroffig dyfroedd wyneb croyw, dyfroedd aberol a dyfroedd arfordirol.

(2Cyn 1 Ionawr 2013, ac o leiaf bob pedair blynedd ar ôl hynny, rhaid i Weinidogion Cymru fonitro'r crynodiad nitradau mewn dyfroedd croyw dros gyfnod o flwyddyn—

(a)ar safleoedd samplu lle mae'r dŵr yn nodweddiadol o ddŵr wyneb, o leiaf bob mis ac yn amlach yn ystod cyfnodau llifogydd, a

(b)ar safleoedd samplu lle mae'r dŵr yn nodweddiadol o ddŵr daear, bob hyn a hyn yn rheolaidd a chan gymryd i ystyriaeth ddarpariaethau Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ar ansawdd dwr sydd wedi'i fwriadu i bobl ei yfed(3),

ac eithrio yn achos y safleoedd samplu hynny lle mae'r crynodiad nitradau yn yr holl samplau blaenorol a gymerwyd at y diben hwn wedi bod islaw 25 mg/l ac nad oes unrhyw ffactor newydd sy'n debyg o gynyddu faint o nitrogen sydd yn y samplau hynny wedi ymddangos, ac os dyna'r sefyllfa, dim ond bob wyth mlynedd y mae angen ailgynnal y rhaglen fonitro.

(3Ar ddiwedd pob cyfnod o bedair neu wyth mlynedd fan bellaf rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)nodi dŵr y mae llygredd yn effeithio arno neu ddŵr y gallai effeithio arno os na chaiff y rheolyddion yn y Rheoliadau hyn eu cymhwyso yn yr ardal honno, gan ddefnyddio'r meini prawf yn Atodiad I i Gyfarwyddeb y Cyngor 91/676/EEC ynghylch diogelu dyfroedd rhag llygredd a achosir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol(4);

(b)nodi tir sy'n draenio i'r dyfroedd hynny, neu ddwr sydd wedi'i nodi mewn ffordd debyg yn Lloegr, ac sy'n cyfrannu at lygru'r dyfroedd hynny;

(c)cymryd i ystyriaeth newidiadau a ffactorau nad oeddent wedi'u rhag—weld adeg y dynodiad blaenorol; ac

(ch)os yw'n angenrheidiol, adolygu rhestr y parthau perygl nitradau sydd wedi'u dynodi neu ychwanegu ati.

RHAN 3Cyfyngu ar ddodi tail organig

Dodi tail da byw — y terfyn o ran cyfanswm y nitrogen ar gyfer yr holl ddaliad

12.  (1)  Rhaid i feddiannydd daliad sicrhau, mewn unrhyw flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ionawr, na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw a ddodwyd ar y daliad, p'un ai'n uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, yn fwy na 170 kg wedi'i luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau.

(2Rhaid cyfrifo faint o nitrogen a gynhyrchwyd gan dda byw yn unol ag Atodlen 1.

(3Wrth gyfrifo arwynebedd y daliad at ddibenion canfod faint o nitrogen y caniateir ei daenu ar y daliad, diystyrir dyfroedd wyneb, unrhyw lawr caled, adeiladau, ffyrdd neu unrhyw goetir onid yw'r coetir hwnnw'n cael ei ddefnyddio ar gyfer pori.

Taenu tail organig — terfynau nitrogen fesul hectar

13.  Rhaid i feddiannydd daliad sicrhau, mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeng mis, na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail organig a daenir ar unrhyw hectar penodol ar y daliad, yn fwy na 250 kg.

RHAN 4Y gofynion ar gyfer cnydau

Cynllunio'r modd y mae gwrtaith nitrogen yn cael ei daenu

14.  (1)  Rhaid i feddiannydd daliad sy'n bwriadu taenu gwrtaith nitrogen—

(a)cyfrifo faint o nitrogen yn y pridd sy'n debyg o fod ar gael i'w amsugno gan y cnwd yn ystod y tymor tyfu (“y cyflenwad nitrogen yn y pridd”);

(b)cyfrifo'r maint gorau posibl o nitrogen y dylid ei daenu ar y cnwd, gan gymryd i ystyriaeth faint o nitrogen sydd ar gael o'r cyflenwad nitrogen yn y pridd; ac

(c)llunio cynllun ar gyfer taenu gwrtaith nitrogen ar gyfer y tymor tyfu hwnnw.

(2Yn achos unrhyw gnwd nad yw'n laswelltir parhaol, rhaid i'r meddiannydd wneud hyn cyn taenu unrhyw wrtaith nitrogen am y tro cyntaf er mwyn ffrwythlonni cnwd sydd wedi'i blannu neu y bwriedir ei blannu.

(3Yn achos glaswelltir parhaol, rhaid i'r meddiannydd wneud hyn bob blwyddyn gan ddechrau ar 1 Ionawr cyn taenu gwrtaith nitrogen am y tro cyntaf.

(4Rhaid i'r cynllun fod ar ffurf barhaol.

(5Rhaid i'r cynllun gofnodi—

(a)cyfeirnod neu enw'r cae perthnasol;

(b)y rhan o'r cae a blannwyd neu y bwriedir ei phlannu; ac

(c)y math o gnwd.

(6Yn achos y rhan a blannwyd neu y bwriedir ei phlannu, rhaid i'r cynllun gofnodi—

(a)y math o bridd;

(b)y cnwd blaenorol (os glaswellt oedd y cnwd blaenorol, a oedd yn cael ei reoli drwy ei dorri neu ei bori);

(c)y cyflenwad nitrogen yn y pridd wedi'i gyfrifo'n unol â pharagraff (1) a'r dull a ddefnyddiwyd i gadarnhau'r ffigur hwn;

(ch)y mis y rhagwelir y caiff y cnwd ei blannu;

(d)y cynnyrch a ragwelir (os yw'n gnwd âr); ac

(dd)y maint gorau posibl o nitrogen y dylid ei daenu ar y cnwd, gan gymryd i ystyriaeth faint o nitrogen sydd ar gael o'r cyflenwad nitrogen yn y pridd.

Yr wybodaeth ychwanegol sydd i'w chofnodi yn ystod y flwyddyn

15.  (1)  Cyn taenu tail organig, rhaid i'r meddiannydd gyfrifo bob tro faint o nitrogen o'r tail hwnnw sy'n debyg o fod ar gael i'r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y caiff ei daenu ynddo.

(2Rhaid i'r meddiannydd, cyn taenu'r tail organig, gofnodi—

(a)y rhan y taenir y tail organig arni;

(b)faint o dail organig sydd i'w daenu;

(c)y dyddiad arfaethedig ar gyfer taenu (y mis);

(ch)y math o dail organig;

(d)cyfanswm y nitrogen sydd yn y tail organig; ac

(dd)cyfanswm y nitrogen sy'n debyg o fod ar gael o'r tail y bwriedir ei daenu i'r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y caiff ei daenu.

(3Yn achos gwrtaith a weithgynhyrchwyd, rhaid i'r meddiannydd gofnodi—

(a)y maint y mae ei angen (hynny yw, y maint gorau posibl o nitrogen y mae ei angen ar y cnwd gan ddidynnu faint o nitrogen a fydd ar gael i'r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir); a

(b)y dyddiad arfaethedig ar gyfer taenu (y mis);

Cyfanswm y nitrogen sydd i'w daenu ar ddaliad

16.  Ni waeth beth fo'r ffigur yn y cynllun, rhaid i feddiannydd sicrhau na fydd cyfanswm—

(a)y nitrogen o wrtaith a weithgynhyrchwyd, a

(b)y nitrogen sydd ar gael i'r cnwd ei amsugno o dail da byw yn y tymor tyfu y caiff ei daenu ynddo,

a daenir ar y cnydau canlynol, wedi'i gyfrifo'n unol â rheoliad 17, yn fwy na'r terfynau canlynol mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeng mis (y ffigur yn yr ail golofn, wedi'i addasu'n unol â'r nodiadau i'r tabl a'i luosi â'r arwynebedd cyfan mewn hectarau o'r cnwd hwnnw a heuir ar y daliad, yw cyfanswm y nitrogen y caniateir ei daenu ar unrhyw gnwd penodol).

Uchafswm y Nitrogen

Y cnwdFaint o nitrogen a ganiateir (kg)(a)Cynnyrch safonol(tunnell/ha)
Nodiadau
(a)

Caniateir 80 kg ychwanegol yr hectar ar gyfer pob cnwd a heuir mewn caeau os yw slwtsh gwellt neu slwtsh papur wedi'i ddodi ar y cnwd presennol neu'r cnwd blaenorol.

(b)

Caniateir 20 kg ychwanegol yr hectar ar gaeau â phridd tenau (ac eithrio priddoedd tenau sy'n gorwedd ar dywodfaen).

(c)

Caniateir 20 kg ychwanegol yr hectar am bob tunnell y mae'r cynnyrch a ddisgwyliwyd yn uwch na'r cynnyrch safonol.

(ch)

Caniateir 40 kg ychwanegol yr hectar ar gyfer amrywogaethau gwenith melino.

(d)

Mae hyn yn cynnwys uchafswm o 30 kg yr hectar yn yr hydref (caniateir hyn fel esemptiad i'r cyfnod gwaharddedig ar gyfer gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd) ac uchafswm o 220 kg yr hectar yn y gwanwyn. Caniateir i'r maint ar gyfer y gwanwyn gael ei gynyddu hyd at 30 kg yr hectar am bob hanner tunnell y bydd y cynnyrch a ddisgwylir yn fwy na'r cynnyrch safonol.

(dd)

Caniateir 40 kg ychwanegol yr hectar ar gyfer glaswellt a dorrir o leiaf deirgwaith y flwyddyn. O 1 Ionawr 2012 bydd maint y nitrogen a ganiateir yn gostwng i 300 kg yr hectar.

Gwenith a heuir yn yr hydref neu'n gynnar yn y gaeaf220(b) (c) (ch)8.0
Gwenith a heuir yn y gwanwyn180(c) (ch)7.0
Haidd y gaeaf180(b) (c)6.5
Haidd y gwanwyn150(c)5.5
Rêp had olew y gaeaf250(d)3.5
Betys siwgr120dd/g
Tatws270dd/g
Indrawn porthi150dd/g
Ffa maes0dd/g
Pys0dd/g
Glaswellt330(dd)dd/g

Cyfrifo faint o nitrogen sydd ar gael i'r cnwd ei amsugno o dail da byw

17.  (1)  At ddibenion rheoliad 16, rhaid i'r meddiannydd gadarnhau'n gyntaf gyfanswm y nitrogen yn y tail, naill drwy ddefnyddio'r tabl yn Atodlen 2 neu drwy samplu a dadansoddi'n unol â'r Atodlen honno.

(2Pan fo cyfanswm y nitrogen yn y tail wedi'i gadarnhau, rhagdybir bod y canrannau a ganlyn yn cadarnhau faint o nitrogen yn y tail sydd ar gael i'r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y caiff ei daenu ynddo.

Y ganran sydd ar gael

Y math o dail da bywFaint o nitrogen sydd ar gael i'r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y caiff ei daenu ynddo
Tan 1 Ionawr 2012O 1 Ionawr 2012
Slyri gwartheg20%35%
Slyri moch25%45%
Tail dofednod20%30%
Tail da byw eraill10%10%

RHAN 5Rheoli'r broses o daenu gwrtaith nitrogen

Mapiau risg

18.  (1)  Cyn 1 Ionawr 2010 rhaid i feddiannydd daliad sy'n taenu tail organig ar y daliad hwnnw lunio map o'r daliad (“map risg”) yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Os bydd amgylchiadau'n newid, rhaid i'r meddiannydd ddiweddaru'r map risg o fewn tri mis i'r newid.

(3Rhaid i'r map risg ddangos—

(a)pob cae, gyda'i arwynebedd mewn hectarau;

(b)yr holl ddyfroedd wyneb;

(c)unrhyw dyllau turio, ffynhonnau neu bydewau sydd ar y daliad neu sydd o fewn 50 metr i ffin y daliad;

(ch)y rhannau â phriddoedd tywodlyd neu denau;

(d)tir â llethr sy'n fwy na 12°;

(dd)tir sydd o fewn10 metr i ddyfroedd wyneb;

(e)tir sydd o fewn 50 metr i dwll turio, ffynnon neu bydew;

(f)traeniau tir (ac eithrio pibell anhydraidd sydd wedi'i selio);

(ff)safleoedd sy'n addas ar gyfer tomenni dros dro mewn caeau os bwriedir defnyddio'r dull hwn o storio tail;

(g)tir y mae'r risg o oferu drosto yn isel (mater o ddewis yw hyn i feddiannydd nad yw'n bwriadu taenu tail ar dir y mae'r risg o oferu drosto yn isel yn ystod y cyfnod storio yn unol â rheoliad 34).

(4Rhaid i'r meddiannydd gadw copi.

Pryd i daenu gwrtaith

19.  (1)  Rhaid i feddiannydd sy'n bwriadu taenu gwrtaith nitrogen ymgymryd yn gyntaf ag arolygiad o'r caeau i ystyried y risg y byddai nitrogen yn mynd i mewn i ddŵr wyneb.

(2Ni chaiff neb daenu gwrtaith nitrogen ar y tir hwnnw os oes risg sylweddol y byddai nitrogen yn mynd i mewn i ddŵr wyneb, gan gymryd i ystyriaeth yn benodol—

(a)llethr y tir, yn enwedig os yw'r llethr yn fwy na 12°;

(b)unrhyw orchudd tir;

(c)pa mor agos yw'r tir at ddŵr wyneb;

(ch)amodau tywydd;

(d)y math o bridd; ac

(dd)presenoldeb traeniau tir.

(3Ni chaiff neb daenu gwrtaith nitrogen os yw'r pridd yn llawn dwr, dan ddwr neu wedi'i orchuddio ag eira, neu os yw wedi rhewi drosto am fwy na 12 awr yn ystod y 24 awr flaenorol.

Taenu gwrtaith a weithgynhyrchwyd wrth ymyl dwr wyneb

20.  Ni chaiff neb daenu gwrtaith a weithgynhyrchwyd o fewn 2 fetr i ddŵr wyneb.

Taenu tail organig wrth ymyl dŵr wyneb, tyllau turio, ffynhonnau neu bydewau

21.  (1)  Ni chaiff neb daenu tail organig o fewn 10 metr i ddŵr wyneb.

(2Ond caniateir i dail da byw (ac eithrio slyri a thail dofednod) gael ei daenu yno—

(a)os caiff ei daenu ar dir sy'n cael ei reoli ar gyfer rhydyddion bridio neu fel glaswelltir lled-naturiol sy'n gyfoethog ei rywogaethau a bod y tir—

(i)yn dir yr hysbyswyd ei fod yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(5); neu

(ii)yn ddarostyngedig i ymrwymiad amaeth-amgylcheddol a wnaed o dan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 (ynglŷn â chymorth ar gyfer datblygu gwledig o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop ( EAGGF)(6)) neu o dan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005 (ynglyn â chymorth ar gyfer datblygu gwledig o Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) (7));

(b)os caiff ei daenu rhwng 1 Mehefin a 31 Hydref yn gynhwysol;

(c)os nad yw'n cael ei daenu'n uniongyrchol ar ddwr wyneb; ac

(ch)os nad yw'r cyfanswm blynyddol yn fwy na 12.5 tunnell yr hectar.

(3Ni chaiff neb daenu tail organig o fewn 50 metr i dwll turio, ffynnon neu bydew.

Rheoli'r modd y mae gwrtaith nitrogen yn cael ei daenu

22.  (1)  Rhaid i unrhyw berson sy'n taenu slyri ddefnyddio cyfarpar taenu a chanddo lwybr taenu isel, hynny yw, o dan 4 metr o'r ddaear.

(2Rhaid i unrhyw berson sy'n taenu gwrtaith nitrogen wneud hynny mor gywir â phosibl.

Corffori tail organig yn y ddaear

23.  (1)  Rhaid i unrhyw berson sy'n dodi tail organig ar wyneb pridd moel neu sofl (ac eithrio pridd sydd wedi'i hau) sicrhau ei fod wedi'i gorffori yn y pridd yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Rhaid i dail dofednod gael ei gorffori cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ac o fewn 24 awr fan bellaf.

(3Rhaid i slyri a hylif slwtsh carthion sydd wedi'i dreulio (hynny yw, hylif sy'n dod o drin slwtsh carthion drwy dreulio anerobig) gael eu corffori cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ac o fewn 24 awr fan bellaf, oni chawsant eu dodi mewn bandiau gwahanedig.

(4Rhaid i unrhyw dail organig arall (ac eithrio tail organig a daenir fel gwellt ar bridd tywodlyd) gael ei gorffori yn y pridd cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ac o fewn 24 awr fan bellaf, os yw'r tir o fewn 50 metr i ddwr wyneb ac yn raddol ddisgyn yn y fath fodd ag y gellid goferu i'r dwr hwnnw.

RHAN 6Cyfnodau gwaharddedig ar gyfer taenu gwrtaith nitrogen

Ystyr “tail organig gyda chyfraddau uchel o nitrogen sydd ar gael yn rhwydd”

24.  Yn y Rhan hon ystyr “tail organig gyda chyfraddau uchel o nitrogen sydd ar gael yn rhwydd” (“organic manure with high readily available nitrogen”) yw tail organig y mae mwy na 30 y cant o gyfanswm y nitrogen sydd ynddo ar gael i'r cnwd adeg y taenu.

Cyfnodau gwaharddedig ar gyfer taenu tail organig gyda chyfraddau uchel o nitrogen sydd ar gael yn rhwydd

25.  Ni chaiff neb daenu tail organig gyda chyfraddau uchel o nitrogen sydd ar gael yn rhwydd ar dir ar y dyddiadau canlynol, a phob un ohonynt yn ddyddiad cynhwysol (“y cyfnod gwaharddedig”)—

Y cyfnod gwaharddedig

Y math o briddGlaswelltirTir tro
Pridd tywodlyd neu bridd tenau1 Medi to 31 Rhagfyr1 Awst i 31 Rhagfyr
Pob pridd arall15 Hydref i 1 Hydref i 15 Ionawr15 Ionawr

Esemptiadau: cnydau a heuir cyn 15 Medi

26.  Caniateir i dail organig gyda chyfraddau uchel o nitrogen sydd ar gael yn rhwydd gael ei daenu ar dir tro gyda phridd tywodlyd neu bridd tenau rhwng 1 Awst a 15 Medi yn gynhwysol ar yr amod bod y cnwd yn cael ei hau ar neu cyn 15 Medi.

Esemptiadau ar gyfer daliadau organig

27.  Caiff meddiannydd daliad sydd wedi'i gofrestru'n gynhyrchydd organig gyda chorff a gofrestrwyd gan y Pwyllgor Cynghori ar Safonau Organig(8) daenu tail organig gyda chyfraddau uchel o nitrogen sydd ar gael yn rhwydd ar unrhyw adeg—

(a)ar gnydau a restrir yn y tabl yn Atodlen 3 (cnydau a ganiateir am y cyfnod gwaharddedig), neu

(b)ar gnydau eraill yn unol â chyngor ysgrifenedig gan berson sy'n aelod o'r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau (9),

ar yr amod na fydd pob hectar y mae tail organig yn cael ei daenu arno yn cael mwy na chyfanswm o 150 kg o nitrogen rhwng dechrau'r cyfnod gwaharddedig a diwedd Chwefror.

Cyfyngiadau ar ôl y cyfnod gwaharddedig

28.  O ddiwedd y cyfnod gwaharddedig tan ddiwedd Chwefror—

(a)50 metr ciwbig yr hectar yw uchafswm y slyri y caniateir ei daenu ar unrhyw un adeg ac 8 tunnell yr hectar yw uchafswm y tail dofednod y caniateir ei daenu ar unrhyw un adeg; a

(b)rhaid bod o leiaf dair wythnos rhwng pob taeniad.

Amserau pryd y gwaherddir taenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd

29.  (1)  Ni chaiff neb daenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd ar dir yn ystod y cyfnodau canlynol (mae pob dyddiad yn gynhwysol)—

(a)yn achos glaswelltir, o 15 Medi i 15 Ionawr, neu

(b)yn achos tir tro, o 1 Medi i 15 Ionawr.

(2Caniateir i wrtaith gael ei daenu yn ystod y cyfnodau hyn ar y cnydau a bennir yn y Tabl yn Atodlen 3, ar yr amod nad eir dros y gyfradd uchaf yng ngholofn 2.

(3Caniateir taenu yn ystod y cyfnodau hynny ar gnydau nad ydynt yn Atodlen 3 ar sail cyngor ysgrifenedig gan berson sy'n aelod o'r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau.

Amddiffyniad

30.  Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dorri darpariaeth yn y Rhan hon sy'n ymwneud â thail organig, mae'n amddiffyniad i'r diffynnydd brofi—

(a)bod y torcyfraith wedi digwydd cyn 1 Ionawr 2012, a

(b)nad oedd gan y daliad y cyfleusterau storio ar gyfer tail organig sy'n ofynnol o dan Ran 7 adeg y torcyfraith.

RHAN 7Storio tail organig

Storio tail organig

31.  Rhaid i feddiannydd daliad sy'n storio unrhyw dail organig (nad yw'n slyri), neu unrhyw sarn sydd wedi'i halogi ag unrhyw dail organig, ei storio—

(a)mewn llestr;

(b)mewn adeilad gorchuddiedig;

(c)ar wyneb anhydraidd; neu

(ch)yn achos tail solet y gellir ei bentyrru'n domen ar ei thraed ei hun ac nad yw'n draenio hylif o'r deunydd, ar safle dros dro mewn cae.

Safleoedd dros dro mewn caeau

32.  (1)  Rhaid i safle dros dro mewn cae beidio â bod—

(a)mewn cae sy'n agored i lifogydd neu i ddod yn llawn dŵr;

(b)o fewn 50m i ffynnon, pydew neu dwll turio neu o fewn 10m i ddwr wyneb neu draen tir (ac eithrio pibell anhydraidd sydd wedi'i selio);

(c)mewn unrhyw leoliad unigol am fwy na 12 mis yn olynol;

(ch)yn yr un lle ag un cynharach a adeiladwyd o fewn y ddwy flynedd diwethaf.

(2Rhaid i dail dofednod solet nad oes sarn wedi'i gymysgu ag ef ac sydd wedi'i storio ar safle dros dro mewn cae gael ei orchuddio â deunydd anhydraidd.

Gwahanu slyri

33.  Rhaid i'r broses o wahanu slyri i'w ffracsiynau solet a hylifol gael ei chyflawni'n fecanyddol neu ar wyneb anhydraidd lle mae'r ffracsiwn hylifol yn draenio i mewn i gynhwysydd addas.

Lle i storio

34.  (1)  Rhaid i feddiannydd daliad sy'n cadw unrhyw un o'r anifeiliaid a bennir yn Atodlen 1 ddarparu digon o le i storio'r holl slyri a gynhyrchir ar y daliad yn ystod y cyfnod storio, a'r holl dail dofednod a gynhyrchir mewn buarth neu adeilad ar y daliad yn ystod y cyfnod storio.

(2Rhaid cyfrifo cyfaint y tail a gynhyrchir gan yr anifeiliaid ar y daliad yn unol ag Atodlen 1.

(3Rhaid bod gan storfa slyri le i storio, yn ychwanegol at y tail, unrhyw law, golchiadau neu hylif arall sy'n dod i mewn i'r llestr (naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol) yn ystod y cyfnod storio.

(4Nid yw cyfleusterau storio'n angenrheidiol ar gyfer slyri na thail dofednod—

(a)a anfonir oddi ar y daliad; neu

(b)a daenir ar dir y mae'r risg o oferu drosto yn isel (ar yr amod bod hyn yn cael ei wneud yn unol â'r cyfyngiadau ar daenu yn y Rheoliadau hyn); ond yn yr achos hwn rhaid darparu cyfleusterau storio ar gyfer tail wythnos ychwanegol fel mesur wrth gefn pe na bai'n bosibl taenu ar rai dyddiadau.

(5At ddibenion y rheoliad hwn, y “cyfnod storio” (mae pob dyddiad yn gynhwysol) yw—

(a)y cyfnod rhwng 1 Hydref ac 1 Ebrill ar gyfer moch a dofednod;

(b)y cyfnod rhwng 1 Hydref ac 1 Mawrth mewn unrhyw achos arall.

RHAN 8Cyfrifiadau a chofnodion

Cofnodi maint y daliad

35.  (1)  Erbyn 30 Ebrill 2009 rhaid i feddiannydd daliad gofnodi maint cyfan y daliad wedi'i gyfrifo'n unol â rheoliad 12(3).

(2Os bydd maint y daliad yn newid, rhaid diweddaru'r cofnod hwn o fewn mis.

Cofnodion ynglyn â storio tail yn ystod y cyfnod storio

36.  (1)  Erbyn 30 Ebrill 2009 rhaid i feddiannydd daliad sydd â da byw gyfrifo a chofnodi—

(a)faint o dail a gynhyrchir gan y nifer disgwyliedig o anifeiliaid a gedwir mewn adeilad neu ar lawr caled yn ystod y cyfnod storio y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 34, gan ddefnyddio'r ffigurau yn Atodlen 1;

(b)faint o le storio (cynwysyddion slyri a lloriau caled) y mae ei angen i'w gwneud yn bosibl i gydymffurfio â rheoliad 34 (lle i storio), gan gymryd i ystyriaeth—

(i)faint o dail y bwriedir ei allforio o'r daliad;

(ii)faint o dail y bwriedir ei daenu ar dir y mae'r risg o oferu drosto yn isel; a

(iii)yn achos llestr dal slyri, faint o hylif ac eithrio slyri sy'n debyg o fynd i mewn i'r llestr;

(c)maint cyfredol y lle storio ar y daliad.

(2Rhaid i feddiannydd sy'n dod ag anifeiliaid i ddaliad am y tro cyntaf gydymffurfio â pharagraff (1) o fewn mis iddo ddod â'r anifeiliaid yno.

(3Os bydd maint y lle storio yn newid, rhaid i'r meddiannydd gofnodi'r newid o fewn wythnos.

Cofnodion blynyddol ynglyn â storio

37.  (1)  Cyn 30 Ebrill bob blwyddyn rhaid i feddiannydd daliad sydd â da byw gofnodi, am y cyfnod storio blaenorol y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 34, nifer a chategori'r anifeiliaid mewn adeilad neu ar lawr caled yn ystod y cyfnod storio.

(2Rhaid i'r meddiannydd gofnodi hefyd y safleoedd a ddefnyddiwyd ar gyfer tomenni mewn cae a dyddiadau eu defnyddio.

Cofnod o'r nitrogen a gynhyrchwyd gan anifeiliaid ar y daliad

38.  (1)  Cyn 30 Ebrill bob blwyddyn rhaid i'r meddiannydd wneud cofnod o'r canlynol—

(a)nifer a chategori (yn unol â'r categorïau yn Atodlen 1) yr anifeiliaid ar y daliad yn ystod y flwyddyn galendr flaenorol, a

(b)nifer y diwrnodau y treuliodd pob anifail ar y daliad.

(2Rhaid i'r meddiannydd gyfrifo wedyn faint y nitrogen sydd yn y tail a gynhyrchwyd gan yr anifeiliaid ar y daliad yn ystod y flwyddyn honno gan ddefnyddio'r Tabl yn Atodlen 1.

(3Fel arall, yn achos moch neu ddofednod sydd wedi'u lletya'n barhaol, caiff y meddiannydd ddefnyddio—

(a)meddalwedd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru; neu

(b)yn achos system cadw da byw sy'n cynhyrchu tail solet yn unig, dulliau samplu a dadansoddi yn unol â Rhan 2 o Atodlen 2.

(4Rhaid i'r meddiannydd wneud cofnod o'r cyfrifiadau a'r ffordd y daethpwyd at y ffigurau terfynol.

(5Rhaid i feddiannydd a ddefnyddiodd feddalwedd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru gadw allbrint o'r canlyniad.

Tail da byw y daethpwyd ag ef i'r daliad neu a anfonwyd ohono

39.  (1)  Rhaid i feddiannydd sy'n dod â thail da byw ar ddaliad gofnodi, a hynny o fewn wythnos—

(a)math a maint y tail da byw;

(b)y dyddiad y daethpwyd ag ef ar y daliad;

(c)faint o nitrogen sydd ynddo, os yw'n hysbys; a

(ch)enw a chyfeiriad y cyflenwr.

(2Rhaid i feddiannydd sy'n anfon tail da byw o ddaliad gofnodi o fewn wythnos—

(a)math a maint y tail da byw;

(b)dyddiad ei anfon o'r daliad;

(c)faint o nitrogen sydd ynddo;

(ch)enw a chyfeiriad y derbynnydd; a

(d)manylion cynllun wrth gefn i'w ddefnyddio pe bai cytundeb i berson dderbyn y tail da byw yn methu.

(3Os nad yw'n hysbys faint o nitrogen sydd yn y tail da byw y daethpwyd ag ef ar y daliad, rhaid i'r meddiannydd ganfod faint sydd yn y tail hwnnw, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl iddo gyrraedd, a'i gofnodi o fewn wythnos.

(4Rhaid canfod pob maint nitrogen mewn tail da byw drwy ddefnyddio naill ai'r ffigurau safonol yn Rhan 1 o Atodlen 2 neu drwy samplu a dadansoddi yn y modd a nodir yn Rhan 2 o'r Atodlen honno.

Samplu a dadansoddi

40.  (1)  Rhaid i unrhyw berson sy'n defnyddio samplu a dadansoddi i benderfynu faint o nitrogen sydd mewn tail organig gadw'r adroddiad gwreiddiol gan y labordy.

Cofnodion o'r cnydau a heuwyd

41.  Rhaid i feddiannydd sy'n bwriadu taenu gwrtaith nitrogen gofnodi o fewn wythnos i hau cnwd—

(a)y cnwd a heuwyd; a

(b)dyddiad ei hau.

Cofnodion o daenu gwrtaith nitrogen

42.  (1)  O fewn wythnos i daenu tail organig rhaid i'r meddiannydd gofnodi—

(a)y rhan y taenwyd y tail hwnnw arni;

(b)faint o dail organig a daenwyd;

(c)y dyddiad neu'r dyddiadau;

(ch)y dulliau o'i daenu;

(d)y math o dail organig;

(dd)cyfanswm y nitrogen yn y tail hwnnw;

(e)faint o'r nitrogen oedd ar gael i'r cnwd.

(2O fewn wythnos i daenu gwrtaith a weithgynhyrchwyd rhaid i'r meddiannydd gofnodi—

(a)dyddiad ei daenu; a

(b)faint o nitrogen a daenwyd.

Cofnodion dilynol

43.  (1)  Rhaid i feddiannydd sydd wedi defnyddio gwrtaith nitrogen gofnodi'r cynnyrch a gafwyd o gnwd âr o fewn wythnos i ganfod y cynnyrch hwnnw.

(2Cyn 30 Ebrill bob blwyddyn rhaid i feddiannydd gofnodi sut y cafodd unrhyw laswelltir ei reoli yn y flwyddyn galendr flaenorol.

Cadw cyngor

44.  Rhaid i feddiannydd gadw copi o unrhyw gyngor gan berson sy'n aelod o'r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau ac y dibynnwyd arno at unrhyw ddiben o dan y Rheoliadau hyn.

Hyd yr amser y mae cofnodion i barhau

45.  Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo wneud cofnod o dan y Rheoliadau hyn ei gadw am bum mlynedd.

RHAN 9Adolygu

Monitro ac adolygu

46.  (1)  O leiaf bob pedair blynedd rhaid i Weinidogion Cymru adolygu effeithiolrwydd y cyfyngiadau mewn parthau perygl nitradau a osodwyd gan y Rheoliadau hyn fel modd i leihau neu atal llygredd dwr a achosir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol ac, os yw'n angenrheidiol, eu diwygio.

(2Er mwyn gwneud hyn rhaid i Weinidogion Cymru sefydlu rhaglen fonitro i asesu effeithiolrwydd y cyfyngiadau yn y Rheoliadau hyn.

(3Wrth gynnal yr adolygiad hwn, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried—

(a)y data gwyddonol a thechnegol sydd ar gael, gan gyfeirio'n benodol at y priod gyfraniadau nitrogen sy'n dod o ffynonellau amaethyddol a ffynonellau eraill; a

(b)amodau amgylcheddol rhanbarthol.

Cyfranogiad y cyhoedd

47.  (1)  Wrth gynnal yr adolygiad hwn rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod y cyhoedd yn cael cyfleoedd cynnar ac effeithiol i gyfranogi.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru wneud trefniadau digonol i'r cyhoedd gyfranogi er mwyn eu galluogi i baratoi ac i gyfranogi'n effeithiol.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—

(a)y bydd ymgynghori â'r cyhoedd ynghylch unrhyw gynigion a bod gwybodaeth berthnasol am y cynigion hynny'n cael ei rhoi ar gael i'r cyhoedd, gan gynnwys gwybodaeth am yr hawl i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau ac am y corff y caniateir i sylwadau neu gwestiynau gael eu cyflwyno iddo; a

(b)bod hawlogaeth gan y cyhoedd i roi sylwadau a mynegi barn ar adeg pan fo'r holl opsiynau ar agor a chyn bod penderfyniadau ar y cynlluniau neu'r rhaglenni yn cael eu gwneud.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru nodi'r aelodau o'r cyhoedd y mae hawlogaeth ganddynt i Weinidogion Cymru ymgynghori â hwy, gan gynnwys cyrff anllywodraethol sy'n hyrwyddo gwaith diogelu'r amgylchedd.

(5Rhaid caniatáu amser rhesymol ar gyfer ymgynghori.

(6Rhaid cymryd yr ymgynghori i ystyriaeth wrth ddod i benderfyniad.

(7Ar ôl yr ymgynghori, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r cyhoedd o'r penderfyniadau a wnaed a'r rhesymau a'r ystyriaethau y seiliwyd y penderfyniadau hynny arnynt, gan gynnwys gwybodaeth am y broses o gyfranogi gan y cyhoedd.

RHAN 10Gorfodi

Tramgwyddau a chosbau

48.  (1)  Mae unrhyw berson sy'n torri unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn yn euog o dramgwydd ac yn agored —

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol, neu

(b) o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.

(2Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall tebyg yn y corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw berson oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth o'r fath,

bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o dramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(3At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.

Gorfodi

49.  Mae'r Rheoliadau hyn i'w gorfodi gan yr Asiantaeth yr Amgylchedd.

Dirymu

50.  Mae'r Rheoliadau canlynol wedi'u dirymu i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru—

(a)Rheoliadau Diogelu Dŵr rhag Llygredd Nitradau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 1996(10);

(b)Rheoliadau'r Rhaglen Weithredu ar gyfer Parthau Perygl Nitradau (Cymru a Lloegr) 1998(11);

(c)Rheoliadau Diogelu Dŵr rhag Llygredd Nitradau Amaethyddol (Diwygio) (Cymru) 2002(12); ac

(ch)Rheoliadau Diogelu Dŵr rhag Llygredd Nitradau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2006(13).

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

6 Rhagfyr 2008

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enactedversion that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources