8. Brics glo Briteflame, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited ar Ystad Ddiwydiannol Mwyndy, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—
(a)sy'n cynnwys glo meddal (sef rhyw 10 i 15 y cant o'r pwysau cyfan), golosg petrolewm (sef rhyw 10 i 15 y cant o'r pwysau cyfan), llwch glo caled (sef rhyw 70 i 80 y cant o'r pwysau cyfan) a rhwymwr starts (sef gweddill y pwysau);
(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 260°C;
(c)sy'n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd, yn pwyso 140 gram ar gyfartaledd; ac
(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1.9 y cant o sylffwr pan fyddant yn sych.