Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2008

26.  La Hacienda Easy Logs, a weithgynhyrchir gan Allspan BV yn Macroweg 4, 5804 CL Venray, Yr Iseldiroedd—

(a)sy'n cynnwys cwyr hydrin (sef rhyw 58 i 59 y cant o'r cyfanswm pwysau), a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;

(c)sy'n foncyffion tân, rhyw 235 milimetr eu hyd a 80 milimetr eu dyfnder, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau, ac sy'n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 0.1 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.