Search Legislation

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygiad Rhif 2) 2008

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 3075 (Cy.269)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygiad Rhif 2) 2008

Gwnaed

26 Tachwedd 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

28 Tachwedd 2008

Yn dod i rym

1 Ionawr 2009

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 62, 143(2) a 146(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 1 a 2(2) o Atodlen 9 iddi(1) ac adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(2), ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru(3).

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygiad Rhif 2) 2008 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2009.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993

2.—(1Diwygier Atodlen 2 i Reoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993(4) fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 1 o Ran 1 o'r Atodlen—

(a)yn yr adran sy'n dwyn y pennawd “Rateable Value”, ychwaneger—

  • Thus, all non-domestic property in Wales is being re-valued as at 1 April 2008 for the purposes of the local non-domestic rating list which is effective from 1 April 2010. The draft list must be sent to the billing authority by 1 October 2009 and will shortly thereafter be available for inspection at the authority’s offices. More information is available from the local valuation office or the website www.voa.gov.uk.; ac

(b)ar ôl yr adran sy'n dwyn y pennawd “Charitable and Discretionary Relief”, mewnosoder—

Small Business Rate Relief

The Non-Domestic Rating (Small Business Relief) (Wales) Order 2008 makes provision for rates relief for small businesses. Full details including the eligibility criteria, the exceptions and the procedural requirements are available from the billing authority.

The eligible properties and relevant rate relief are—

(a)properties with a rateable value (“RV”) of £2,000 or less — 50% relief;

(b)properties with an RV between £2,001 and £6,500 — 25% relief;

(c)post offices (and properties which include post offices) with an RV of not more than £9,000 — 100% relief;

(d)post offices (and properties which include post offices) with an RV between £9,001 and £12,000 — 50% relief;

(e)retail properties (ie where the trade or business carried on consists wholly or mainly of the sale of goods) with an RV between £6,501 and £9,000 — 25% relief;

(f)properties used wholly for the purposes of child minding or provision of day care by a person registered under Part XA of the Children Act 1989 and with an RV between £2,001 and £12,000 — 50% relief;

(g)properties used wholly for the purposes of a credit union which is registered under the Credit Unions Act 1979 and with an RV between £2,001 and £9,000 — 50% relief..

(3Ym mharagraff 1 o Ran 2 o'r Atodlen—

(a)yn yr adran sy'n dwyn y pennawd “Gwerth Ardrethol”, ychwaneger—

  • Felly, mae pob eiddo annomestig yng Nghymru yn cael ei ailbrisio fel y mae ar 1 Ebrill 2008 at ddibenion y rhestr ardrethu annomestig leol a fydd yn effeithiol o 1 Ebrill 2010 ymlaen. Rhaid i'r rhestr ddrafft gael ei hanfon at yr awdurdod bilio erbyn 1 Hydref 2009 a bydd ymhen ychydig amser ar ôl hynny ar gael i'w harchwilio yn swyddfeydd yr awdurdod. Mae mwy o wybodaeth ar gael o'r swyddfa brisio leol neu ar y wefan www.voa.gov.uk.; ac

(b)ar ôl yr adran sy'n dwyn y pennawd “Rhyddhad Elusennol a Dewisol”, mewnosoder—

Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach

Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008 yn darparu ar gyfer rhyddhad ardrethi i fusnesau bach. Mae'r manylion llawn gan gynnwys y meini prawf ar gymhwystra, yr eithriadau a'r gofynion gweithdrefnol ar gael gan yr awdurdod bilio.

Dyma'r eiddo cymwys a'r rhyddhad ardrethi perthnasol—

(a)eiddo sydd â gwerth ardrethol o £2,000 neu lai — rhyddhad o 50%;

(b)eiddo sydd â gwerth ardrethol rhwng £2,001 a £6,500 — rhyddhad o 25%;

(c)swyddfeydd post (ac eiddo sy'n cynnwys swyddfeydd post) sydd â gwerth ardrethol heb fod yn fwy na £9,000 — rhyddhad o 100%;

(ch)swyddfeydd post (ac eiddo sy'n cynnwys swyddfeydd post) sydd â gwerth ardrethol rhwng £9,001 a £12,000 — rhyddhad o 50%;

(d)eiddo manwerthu (hynny yw, lle y mae'r fasnach neu'r busnes a redir yn gyfan gwbl neu'n bennaf yn ymwneud â gwerthu nwyddau) sydd â gwerth ardrethol rhwng £6,501 a £9,000 — rhyddhad o 25%;

(dd)eiddo sy'n cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl at ddibenion gofalu am blant neu ddarparu gofal dydd gan berson a gofrestrwyd o dan Ran XA o Deddf Plant 1989 sydd â gwerth ardrethol rhwng £2,001 a £12,000 — rhyddhad o 50%;

(e)eiddo sy'n cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl at ddibenion undeb credyd a gofrestrwyd o dan Ddeddf Undebau Credyd 1979 sydd â gwerth ardrethol rhwng £2,001 a £9,000 — rhyddhad o 50%..

Brian Gibbons

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

26 Tachwedd 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 (O.S. 1993/252) (“Rheoliadau 1993”) yn darparu ar gyfer cynnwys yr hysbysiadau galw am dalu, a ddyroddir gan awdurdodau bilio (cynghorau bwrdeistref a chynghorau sir) yng Nghymru, ac ar gyfer yr wybodaeth sydd i'w rhoi pan fyddant yn cyflwyno hysbysiadau o'r fath.

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau 1993 drwy ddarparu bod gwybodaeth ychwanegol yn cael ei rhoi ynghylch ailbrisio ardrethi i gael effaith o 1 Ebrill 2010 ymlaen ac ynghylch y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach a sefydlwyd gan Orchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/2770 (Cy.246)).

Dim ond mewn perthynas ag ardrethi sydd i'w talu ar ôl 31 Mawrth 2009 y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys.

(3)

Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn Atodlen 1. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru o dan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources