Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 2774 (Cy.247)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Twbercwlosis (Profi a Phwerau Mynediad) (Cymru) 2008

Gwnaed

21 Hydref 2008

Yn dod i rym

22 Hydref 2008

Yn unol ag adran 62D o'r Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, mae drafft o'r Gorchymyn hwn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi gymeradwyo trwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Twbercwlosis (Profi a Phwerau Mynediad) (Cymru) 2008; mae'n gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym drannoeth diwrnod ei wneud.

Pennu “disease”

2.  Mae twbercwlosis wedi'i bennu'n glefyd (“disease”) at ddibenion adran 62D (profion a samplau: pwer mynediad) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981.

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

21 Hydref 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu bod twbercwlosis yn glefyd at ddibenion adran 62D o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981.

(1)

1981 p.22. Trosglwyddodd O.S. 2004/3044 swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 62D o'r Ddeddf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau hyn yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.