Offerynnau Statudol Cymru
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Gwnaed
8 Hydref 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
10 Hydref 2008
Yn dod i rym
3 Tachwedd 2008
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 68(1) a (2), 79C (2) a (3), 79M (1)(c) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989 a pharagraff 4 o Atodlen 9A iddi(1).
1989 p.41. Cafodd swyddogaethau o dan adrannau 68(1) a (2), i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) a'u trosglwyddo wedi i Weinidogion Cymru drwy weithrediad paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 79C(2) a (3), 79M(1)(c) a 104(4) a pharagraff 4 o Atodlen 9A i Weinidogion Cymru drwy weithrediad paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.