Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 2629 (Cy.229)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) (Diwygio) 2008

Gwnaed

3 Hydref 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

7 Hydref 2008

Yn dod i rym

28 Hydref 2008

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 102, adran 108(2) ac adran 210 o Ddeddf Addysg 2002(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2), ac wedi gwneud y cyfryw drefniadau y maent yn eu hystyried yn briodol ar gyfer ymgynghori yn unol ag adran 117 o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) (Diwygio) 2008 a daw i rym ar 28 Hydref 2008.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

2.  Yn erthygl 3(1) o destun Cymraeg Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2008(3) yn lle “Y darpariaethau” rhodder “Mae'r darpariaethau”.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

3 Hydref 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2008 (“Gorchymyn 2008”) yn pennu'r dyddiadau pan fydd y cyfnod sylfaen yn cael ei raddol gyflwyno. Mae Gorchymyn 2008 hefyd yn pennu cyfnod y cyfnod sylfaen ac mae'n rhoi effaith gyfreithiol i'r meysydd dysgu, sy'n gosod y canlyniadau dymunol a'r rhaglenni dysgu. Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 2008 er mwyn cywiro gwall yn y testun Cymraeg.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).