- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn gwneud y darpariaethau deddfwriaethol a ddisgrifir ym mharagraff 2 yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol i roi ei effaith i'r dyfarniad yn yr Uchel Lys yn yr achos sy'n dwyn yr enw R v. the Secretary of State for Health and the Welsh Ministers on the application of the Infant and Dietetics Food Association Limited (achos Rhif CO/230/2008). Traddodwyd y dyfarniad ar 29 Chwefror 2008. Yn sgil y dyfarniad hwnnw, gwnaeth yr Uchel Lys ddatganiad nad oedd Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3573 (Cy.316) yn cydymffurfio â Chyfarwyddeb y Comisiwn 2006/141/EC ar fformwlâu babanod a fformwlâu dilynol ac yn diwygio Cyfarwyddeb 1999/21/EC (OJ Rhif . L401, 30.12.2006, t.1) i'r graddau eu bod yn gwahardd masnach o 11 Ionawr 2008 (yn hytrach nag o 31 Rhagfyr 2009) mewn fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol sydd â'u labelu yn bodloni gofynion Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol 1995 (O.S. 1995/77) ond nad ydynt yn bodloni gofynion Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007 er mwyn—
(a)Diwygio'r rhestr o reoliadau y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy os yw person am farchnata fformiwla fabanod neu fformiwla ddilynol (rheoliad 2(2));
(b)darparu bod rhaid i gyflwyniad fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol gydymffurfio â darpariaethau rheoliadau penodedig (rheoliad 2(3));
(c)Diwygio'r rhestr o reoliadau y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy os yw person am allforio fformiwla fabanod i drydydd gwledydd (rheoliad 2(4));
(ch)diwygio'r rhestr o reoliadau y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy os yw person am allforio fformiwla ddilynol i drydydd gwledydd (rheoliad 2(5)); a
(d)creu trefniadau trosiannol sy'n gymwys i orfodi—
(i)y gofynion labelu ar gyfer fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol, a
(ii)y gofynion sy'n gymwys o ran siâp, ymddangosiad a phecynnu fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol (rheoliad 2(6)).
3. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu trefniadau trosiannol o ran Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000 (O.S. 2000/1866 (Cy.125)).
4. Ni chafodd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ei baratoi ar gyfer yr offeryn hwn gan na ragwelir unrhyw effaith ar y sector breifat na'r sector wirfoddol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: