2008 Rhif 2568 (Cy.226)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 130, 131, 132 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20061 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008 a deuant i rym ar 27 Hydref 2008.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

3

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl (Cymru) 20072.

Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau2

1

Diwygir rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli) fel a ganlyn.

2

Yn y diffiniad o “teulu” (“family”), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

aa

yn rheoliad 5(1)(ch) mewn perthynas â pherson sy'n derbyn lwfans cyflogi a chefnogi y mae iddo'r ystyr sydd iddo yn rheoliad 2 o'r Rheoliadau Lwfans Cyflogi a Chefnogi 20083,

3

Yn y testun Cymraeg, yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder y diffiniad a ganlyn—

  • ystyr “lwfans cyflogi a chefnogi sy'n gysylltiedig ag incwm” (“income-related employment and support allowance”) yw lwfans seiliedig ar incwm o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007 (lwfans cyflogi a chefnogi)4;

Diwygio rheoliad 5 o'r prif Reoliadau3

1

Diwygir rheoliad 5 (1) o'r prif Reoliadau (hawl i beidio â thalu ffi o gwbl ac i gael taliad llawn) fel a ganlyn.

2

Ar ôl is-baragraff (b), mewnosoder—

bb

sy'n derbyn lwfans cyflogi a chefnogi sy'n gysylltiedig ag incwm;

3

Yn nhestun Cymraeg is-baragraff (d) ar ôl “lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm” mewnosoder “lwfans cyflogi a chefnogi sy'n gysylltiedig ag incwm”.

Edwina HartY Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007 (“y prif Reoliadau”).

Mae'r prif Reoliadau'n darparu fod pobl sydd naill ai'n cael budd-daliadau gwladwriaeth penodol neu sydd ar incwm isel yn cael peidio â thalu ffioedd penodol, ac yn cael ad-daliad am ffioedd penodol, sef ffioedd a fyddai'n daladwy fel arall o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, ac yn cael taliad am dreuliau teithio sy'n cael eu hysgwyddo wrth sicrhau rhai o wasanaethau'r GIG (“treuliau teithio GIG”).

Wrth gyfrifo adnoddau a gofynion person o dan y prif Reoliadau er mwyn canfod a oes gan berson hawl i beidio â thalu taliadau GIG a thalu treuliau teithio GIG, defnyddir fersiwn addasedig o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r diffiniad o “teulu” (“family”) yn Rheoliad 2 i'r prif Reoliadau ac yn diwygio rheoliad 5 (hawl i beidio â thalu ffi o gwbl ac i gael ad-daliad llawn) i ddarparu y bydd gan berson sy'n derbyn lwfans cyflogi a chefnogi sy'n gysylltiedig ag incwm hawl i gael ad-daliad llawn o daliad GIG a thaliad llawn o dreuliau teithio GIG heb fod angen iddo hawlio taliad neu ad-daliad o'r fath.

Maent hefyd yn diwygio testun Cymraeg y prif Reoliadau i fewnosod yn nhestun Cymraeg rheoliad 2 (dehongli) y diffiniad o “lwfans cyflogi a chefnogi sy'n gysylltiedig ag incwm” ac i gyfeirio at y lwfans hwn yn nhestun Cymraeg is-baragraff (d) o reoliad 5(1) (hawl i beidio â thalu ffi o gwbl ac i gael taliad llawn).