1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) a (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 27 Hydref 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Rheoliadau 1986” (“the 1986 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (1); ac ystyr
“Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(2).
O.S. 1986/975; yr offerynnau diwygio perthnasol yw 1989/395, 1992/404, 1995/558, 1996/2320, 1999/693 a 2841 (Cy.21), 2001/1362 (Cy.90) a 1423 (Cy.98) a 3323 (Cy.276) a 2003/301 (Cy.43) a 955 (Cy.129).
O.S. 1997/818; yr offerynnau diwygio perthnasol yw 1999/609, 2000/978 (Cy.48), 2001/1362 (Cy.90) a 1423 (Cy.98), 2003/301 (Cy.43) a 955 (Cy.129).