- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gwnaed
29 Medi 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
30 Medi 2008
Yn dod i rym
27 Hydref 2008
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 71, 128, 129 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) a (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 27 Hydref 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Rheoliadau 1986” (“the 1986 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (2); ac ystyr
“Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(3).
2.—(1) Diwygir Rheoliadau 1986 yn unol â'r paragraffau a ganlyn o'r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli) mewnosoder y diffiniad canlynol yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor—
““income-related employment and support allowance” means an employment and support allowance, entitlement to which is based on section 1(2)(b) of the Welfare Reform Act 2007 (income-related employment and support allowance)(4).”
(3) Yn rheoliad 13(2) (cymhwystra ar gyfer profion llygad))—
(a)hepgorer “or” ar ddiwedd is-baragraff (i); a
(b)ar ôl is-baragraff (n), mewnosoder yr is-baragraffau a ganlyn—
“(o)he is in receipt of income-related employment and support allowance; or
(p)he is a member of the same family as a person in receipt of income-related employment and support allowance.”.
(4) Yn rheoliad 13(3)—
(a) hepgorer “and” ar ddiwedd is-baragraff (b); a
(b)ar ôl is-baragraff (c), mewnosoder y canlynol—
“and
(d)in sub-paragraph (p) “family” has the meaning given to it by regulation 2 of the Employment and Support Allowance Regulations 2008(5).”.
3.—(1) Diwygir Rheoliadau 1997 yn unol â'r paragraffau a ganlyn o'r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 1(2) (Enwi, cychwyn a dehongli) mewnosoder y diffiniad canlynol yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor—
““income-related employment and support allowance” means an employment and support allowance, entitlement to which is based on section 1(2)(b) of the Welfare Reform Act 2007 (income-related employment and support allowance)(6).”.
(3) Yn rheoliad 8(3) (cymhwyster — cyflenwi teclynnau optegol)—
(a)hepgorer “or” ar ddiwedd is-baragraff (l); a
(b)ar ôl is-baragraff (n), mewnosoder y canlynol—
“(o)he is in receipt of income-related employment and support allowance; or
(p)he is a member of the same family as a person in receipt of income-related employment and support allowance.”.
(4) Yn rheoliad 8(4)—
(a)hepgorer “and” ar ddiwedd is-baragraff (b); a
(b)ar ôl is-baragraff (c), mewnosoder y canlynol—
“and
(d)in sub-paragraph (p) “family” has the meaning given to it in regulation 2 of the Employment and Support Allowance Regulations 2008(7).”.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
29 Medi 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (“Rheoliadau 1986”) a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“Rheoliadau 1997”).
Mae Rheoliadau 1986 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer trefnu gwasanaethau offthalmig cyffredinol o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Mae Rheoliadau 1997 yn darparu ar gyfer cynllun taliadau sydd i'w gwneud gan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol trwy gyfrwng system dalebau mewn perthynas â chostau a dynnir gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â phrofion golwg, ac â chyflenwi, ailosod a thrwsio teclynnau optegol.
Mae Rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn mewnosod diffiniad newydd yn Rheoliad 2(1) i Reoliadau 1986 (dehongli) ac yn diwygio rheoliad 13 (cymhwystra ar gyfer profion golwg) i ddarparu y bydd person sy'n cael lwfans cyflogi a chefnogi sy'n gysylltiedig ag incwm (neu aelod o deulu'r person hwnnw) yn gymwys i gael prawf golwg y GIG.
Mae Rheoliad 3 yn mewnosod diffiniad newydd yn rheoliad 1 (enwi, cychwyn a dehongli) i Reoliadau 1997 ac yn diwygio rheoliad 8 (cymhwystra — cyflenwi teclynnau optegol) i ddarparu y bydd person sy'n cael lwfans cyflogi a chefnogi sy'n gysylltiedig ag incwm (neu aelod o deulu'r person hwnnw) yn gymwys i gael taleb mewn perthynas â theclyn optegol.
O.S. 1986/975; yr offerynnau diwygio perthnasol yw 1989/395, 1992/404, 1995/558, 1996/2320, 1999/693 a 2841 (Cy.21), 2001/1362 (Cy.90) a 1423 (Cy.98) a 3323 (Cy.276) a 2003/301 (Cy.43) a 955 (Cy.129).
O.S. 1997/818; yr offerynnau diwygio perthnasol yw 1999/609, 2000/978 (Cy.48), 2001/1362 (Cy.90) a 1423 (Cy.98), 2003/301 (Cy.43) a 955 (Cy.129).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: