Search Legislation

Rheoliadau Gorchmynion Ad-dalu Rhent (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2008

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2008 Rhif 254 (Cy.30)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Gorchmynion Ad-dalu Rhent (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2008

Gwnaed

6 Chwefror 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

7 Chwefror 2008

Yn dod i rym

4 Mawrth 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 74(15) a 97(15) o Ddeddf Tai 2004(1) ac sydd bellach wedi'u breinio(2) yng Ngweinidogion Cymru, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gorchmynion Ad-dalu Rhent (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2008, a deuant i rym ar 4 Mawrth 2008.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai 2004.

Diwygio cais am orchymyn ad-dalu rhent i dynnu ymaith Fudd-dâl Tai nad oedd yn briodol daladwy

2.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys os, yn ystod achos ar gais o dan is-adran (5) o adran 73 o'r Ddeddf (canlyniadau eraill ar weithredu HMOs didrwydded(3): gorchmynion ad-dalu rhent) neu is-adran (5) o adran 96 o'r Ddeddf (canlyniadau eraill ar weithredu tai didrwydded(4): gorchmynion ad-dalu rhent), daw i sylw'r awdurdod tai lleol ynghylch taliadau cyfnodol sy'n daladwy mewn cysylltiad â meddiannu rhan neu rannau o'r tŷ amlfeddiannaeth neu'r cyfan neu ran o'r tŷ y mae'r cais yn ymwneud ag ef y gall fod budd-dal tai wedi cael ei dalu(5) nad oedd yn briodol daladwy.

(2Caiff awdurdod tai lleol wneud cais i dribiwnlys eiddo preswyl am ganiatâd i ddiwygio ei gais drwy roi yn lle cyfanswm y budd-dal tai a dalwyd, y rhan honno o'r swm hwnnw y mae'n credu sy'n briodol daladwy.

(3At ddibenion paragraffau (1) a (2) mae swm o fudd-dal tai yn briodol daladwy os yw'r person y telir ef iddo, neu y telir ef ar ei gyfer, â hawl iddo o dan Reoliadau Budd-dal Tai 2006(6) neu Reoliadau Budd-dal Tai (Personau sydd wedi cyrraedd yr oed cymwys ar gyfer pensiwn credyd y wladwriaeth) 2006(7) (p'un ai yn y penderfyniad cychwynnol neu fel y'i diwygiwyd neu y'i disodlwyd ar ôl hynny, neu fel y'i diwygiwyd ymhellach neu y'i disodlwyd ymhellach).

Defnyddio symiau a adenillwyd o dan orchymyn ad-dalu rhent

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff awdurdod tai lleol ddefnyddio swm a adenillwyd o dan orchymyn ad-dalu rhent at unrhyw rai o'r dibenion a grybwyllir ym mharagraff (2).

(2Y dibenion yw ad-dalu costau a threuliau'r awdurdod (p'un ai gweinyddol neu gyfreithiol) a dynnwyd wrth, neu sy'n gysylltiedig â—

(a)gwneud y cais o dan adran 73(5) o'r Ddeddf neu, yn ôl y digwydd, adran 96(5) o'r Ddeddf;

(b)cofrestru a gorfodi unrhyw arwystl cyfreithiol o dan adran 74(9)(b) neu 97(9)(b) o'r Ddeddf ar yr eiddo perthnasol;

(c)ymdrin ag unrhyw gais am drwydded o ran yr eiddo perthnasol o dan Ran 2 o'r Ddeddf (trwyddedu HMOs) neu, yn ôl y digwydd, Rhan 3 o'r Ddeddf (trwyddedu dethol o lety preswyl arall);

(ch)erlyn y person priodol am dramgwydd o dan adran 72(1) o'r Ddeddf neu, yn ôl y digwydd, adran 95(1) o'r Ddeddf, o ran yr eiddo perthnasol (p'un a gychwynnir achos cyn neu ar ôl gwneud y gorchymyn);

(d)gwneud gorchymyn rheoli interim neu derfynol o dan Bennod 1 o Ran 4 o'r Ddeddf (gorchmynion rheoli interim a therfynol) o ran yr eiddo perthnasol (p'un a wneir y gorchymyn rheoli cyn neu ar ôl gwneud y gorchymyn ad-dalu rhent);

(dd)rheoli'r eiddo perthnasol tra bo gorchymyn rheoli interim neu derfynol mewn grym;

(e)cyflawni gwaith o ran yr eiddo perthnasol tra bo gorchymyn rheoli interim mewn grym; a

(f)paratoi cynllun rheoli o dan adran 119 o'r Ddeddf (cynlluniau rheoli a chyfrifon), neu gyflawni gwaith o dan y cynllun, tra bo gorchymyn rheoli terfynol mewn grym.

(3Nid oes dim ym mharagraff (1) yn awdurdodi defnyddio swm ar gyfer ad-dalu costau neu dreuliau awdurdod os cafodd y costau neu'r treuliau hynny eu talu eisoes gan neu ar ran y person priodol.

(4Ym mharagraff (2), ystyr “yr eiddo perthnasol” yw tŷ amlfeddiannaeth neu dŷ y mae'r gorchymyn ad-dalu rhent yn berthnasol iddo.

Trin gwargedau

4.  Rhaid talu swm a adenillir o dan orchymyn ad-dalu rhent nas defnyddir at ddiben a grybwyllir yn rheoliad 3(2), i Gronfa Gyfunol Cymru.

Jocelyn Davies

O dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

6 Chwefror 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn ategu darpariaethau adrannau 73, 74, 96 a 97 o Ddeddf Tai 2004 (“y Ddeddf”). Mae'r adrannau hynny'n ymwneud â chanlyniadau gweithredu tai amlfeddiannaeth (“HMOs”) didrwydded neu dai didrwydded penodol eraill. Yn benodol, maent yn ymwneud â gwneud gorchmynion ad-dalu rhent (“GARh”) gan dribiwnlys eiddo preswyl ar gais awdurdod tai lleol.

Ni ellir gwneud GARh onid yw'r tribiwnlys wedi'i fodloni o ran nifer o faterion. Y mater sy'n berthnasol at ddibenion y Rheoliadau hyn yw bod budd-dâl tai wedi cael ei dalu yn rhinwedd cynllun o dan adran 123 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 o ran taliadau cyfnodol sy'n daladwy mewn cysylltiad â meddiannu rhan neu rannau o'r tŷ amlfeddiannaeth (adran 73(6)(b) o'r Ddeddf) neu'r cyfan neu unrhyw ran neu rannau o'r tŷ (adran 96(6)(b) o'r Ddeddf), yn ystod cyfnod pan ymddengys i'r tribiwnlys bod tramgwydd o dan adran 72(1) o'r Ddeddf (ar gyfer HMOs) neu adran 95(1) o'r Ddeddf (ar gyfer tai eraill) yn cael ei chyflawni.

Os bydd tribiwnlys wedi'i fodloni bod person wedi cael ei gollfarnu o dramgwydd o dan adran 72(1) neu 95(1) o'r Ddeddf a bod budd-dâl tai wedi cael ei dalu fel y crybwyllir yn y paragraff blaenorol, mae adran 74(2) o'r Ddeddf (ar gyfer HMOs) ac adran 97(2) o'r Ddeddf (ar gyfer tai eraill) yn ei gwneud yn ofynnol i'r tribiwnlys wneud GARh. Rhaid i'r gorchymyn ei gwneud yn ofynnol i'r person a oedd, ar yr adeg y talwyd y budd-dâl tai, â hawl i dderbyn y taliadau cyfnodol y talwyd y budd-dâl tai ar eu cyfer (“y person priodol”) dalu i'r awdurdod tai lleol swm sy'n hafal i gyfanswm y budd-dâl tai a dalwyd yn ystod y cyfnod yr ymddengys i'r tribiwnlys bod tramgwydd o dan adran 72(1) o'r Ddeddf (ar gyfer HMOs) neu adran 95(1) o'r Ddeddf (ar gyfer tai eraill) wedi cael ei gyflawni. Mae hyn yn ddarostyngedig i rai eithriadau, a osodir yn y Ddeddf.

Ym mhob achos arall, mae gan y tribiwnlys ddisgresiwn i wneud GARh am y swm hwnnw sy'n rhesymol yn yr amgylchiadau.

Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn caniatáu i awdurdod tai lleol sydd wedi gwneud cais am GARh i ofyn am ganiatâd y tribiwnlys i ddiwygio'i gais os yw'n credu bod gordalu budd-dal tai wedi digwydd fel bod y cais yn ymwneud â swm y budd-dal tai y mae'r awdurdod tai lleol yn credu sy'n briodol daladwy o dan Reoliadau Budd-dal Tai 2006 neu Reoliadau Budd-dal Tai (Personau sydd wedi cyrraedd yr oed cymwys ar gyfer pensiwn credyd y wladwriaeth) 2006. Mae paragraff (3) o reoliad 2 yn diffinio “yn briodol daladwy”.

Mae rheoliad 3 yn pennu'r dibenion y ceir defnyddio arian a dderbynnir gan awdurdod tai lleol o dan GARh ar eu cyfer. Mae eithriad ynghylch costau a threuliau a gaiff eu hadennill drwy ddulliau eraill, er enghraifft, drwy orchmynion llys neu o dan adran 129 o'r Ddeddf (ynghylch adennill costau gorchmynion rheoli).

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol dalu i Gronfa Gyfunol Cymru symiau a dderbyniwyd o dan GARh nas defnyddir at ddiben a bennir yn rheoliad 3.

(1)

2004 p.34. Mae'r pwerau a roddir gan adrannau 74(15) a 97(15) o'r Ddeddf yn arferadwy, o ran Cymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac, o ran Lloegr, gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Gweler y diffiniad o “appropriate national authority” yn adran 261(1).

(2)

Trosglwyddwyd pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 74(15) a 97(15) i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(3)

I gael ystyr “HMO”, gweler adrannau 55(2) a 77 o'r Ddeddf.

(4)

I gael ystyr “house”, gweler adran 99 o'r Ddeddf.

(5)

O ran “housing benefit”, a “periodical payments”, gweler adran 96(10) o'r Ddeddf.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources