- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) (Diwygio) 2005 (“y prif Reoliadau”). Mae'r prif Reoliadau yn gwneud darpariaeth yng Nghymru ar gyfer gweinyddu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 (OJ Rhif L270, 21.10.2003, t.1) (“Rheoliad y Cyngor”), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 795/2004 (OJ Rhif L141, 30.4.2004, t.1), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 796/2004 (OJ Rhif L141, 30.4.2004, t.18) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1973/2004 (OJ Rhif L345, 20.11.2004, t.1) mewn perthynas â sefydlu system o gynlluniau cymorth uniongyrchol (gan gynnwys Cynllun y Taliad Sengl) a gyflwynywd o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin yn 2005.
Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 2 (dehongli) o'r prif Reoliadau.
Mae rheoliad 4 yn disodli rheoliad 6 (cyfnod o 10 mis) o'r prif Reoliadau i ddileu darpariaethau sy'n ymwneud â'r gofyniad am i ffermwyr sy'n gwneud cais o dan Gynllun y Taliad Sengl gael at eu defnydd am gyfnod o ddeng mis barseli o dir y maent yn gwneud cais mewn cysylltiad â hwy. Diwygiwyd Erthygl 44(3) o Reoliad y Cyngor gan Erthygl 1(3) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 146/2008 (OJ Rhif L46, 21.2.2008, t.1) ac effaith hynny yw nad oes bellach angen i Aelod-wladwriaethau bennu ond un diwrnod unigol yn y flwyddyn pryd y mae'n rhaid i ffermwyr gael at eu defnydd y parseli tir y maent yn gwneud cais o dan y Cynllun mewn cysylltiad â hwy. Mae'r ddarpariaeth newydd yn pennu mai 15 Mai ym mlwyddyn y cynllun y gwneir y cais ynddi yw'r diwrnod hwn.
Mae rheoliad 5 o'r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad 7A o'r prif Reoliadau, sy'n darparu ar gyfer meini prawf ar gyfer cyfrifo swm cyfeiriadol y ffermwr mewn perthynas â betys siwgr yn unol ag Erthygl 37(1), trydydd indent, a pharagraff 1, pwynt K, Atodiad VII i Reoliad y Cyngor (y mewnosodwyd y naill a'r llall gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 319/2006 (OJ Rhif L 58, 28.2.2006, t.32).
Mae rheoliad 6 yn dirymu rheoliad 8 (Garddwriaeth) o'r prif Reoliadau.
Mae rheoliad 7 yn diwygio rheoliad 11 o'r prif Reoliadau, o ran modiwleiddio gwirfoddol yn sgil Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 378/2007 (OJ Rhif L95, 5.4.2007, t.1).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: