2008 Rhif 2499 (Cy.217)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) 2008

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 45(1)(d), (9) a (10), 143(2) a 146(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19881 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy2, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a chychwyn1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 1 Tachwedd 2008.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;

  • ystyr “hereditament annomestig perthnasol” (“relevant non-domestic hereditament”) yw unrhyw hereditament annomestig a ffurfir gan unrhyw adeilad neu ran o unrhyw adeilad, ynghyd ag unrhyw dir a ddefnyddir fel arfer neu y bwriedir ei ddefnyddio at ddibenion yr adeilad neu'r rhan;

  • ystyr “hereditament diwydiannol cymwys” (“qualifying industrial hereditament”) yw unrhyw hereditament, heblaw hereditament manwerthol, mewn perthynas ag ef y mae pob adeilad yn yr hereditament yn—

    1. a

      un sydd wedi ei adeiladu neu ei addasu at ei ddefnyddio wrth gynnal masnach neu fusnes; a

    2. b

      un sydd wedi ei adeiladu neu ei addasu at ddefnydd un neu ragor o'r dibenion a ganlyn, neu un neu ragor o'r dibenion hynny ac un neu ragor o ddibenion cysylltiedig ag ef neu hwy—

      1. i

        gweithgynhyrchu, atgyweirio neu addasu nwyddau neu ddeunyddiau, neu roi nwyddau neu ddeunyddiau drwy unrhyw broses;

      2. ii

        storio (gan gynnwys storio neu drafod nwyddau wrth eu dosbarthu);

      3. iii

        gweithio neu brosesu mwynau; a

      4. iv

        cynhyrchu trydan; ac

  • ystyr “hereditament manwerthol” (“retail hereditament”) yw unrhyw hereditament lle y mae unrhyw adeilad neu ran o adeilad sydd yn yr hereditament wedi ei adeiladu neu ei addasu at ddiben darpariaeth fanwerthol—

    1. a

      nwyddau, neu

    2. b

      gwasanaethu, heblaw storio ar gyfer gwasanaethau dosbarthu, pan fo'r gwasanaethau i'w darparu ar yr hereditament neu oddi wrtho.

Hereditamentau a ragnodir at ddibenion adran 45(1)(d) o'r Ddeddf.3

Mae'r dosbarth ar hereditamentau a ragnodir at ddibenion adran 45(1)(d) o'r Ddeddf yn cynnwys pob hereditament annomestig perthnasol heblaw y rhai a ddisgrifir yn rheoliad 4.

Hereditamentau nas rhagnodir at ddibenion adran 45(1)(d) o'r Ddeddf.4

Yr hereditamentau annomestig perthnasol a ddisgrifir yn y rheoliad hwn yw unrhyw hereditament—

a

y mae'r cyfan ohono, yn ddarostyngedig i reoliad 5, wedi bod heb ei feddiannu am gyfnod parhaus nad yw'n fwy na thri mis;

b

sy'n hereditament diwydiannol cymwys ac y mae'r cyfan ohono, yn ddarostyngedig i reoliad 5, wedi bod heb ei feddiannu am gyfnod parhaus nad yw'n fwy na chwe mis;

c

y mae ei berchennog wedi ei wahardd gan y gyfraith rhag ei feddiannu neu rhag caniatáu iddo gael ei feddiannu;

ch

a gedwir yn wag oherwydd cam a gymerir gan y Goron neu ar ei rhan neu gan unrhyw awdurdod lleol neu gyhoeddus neu ar eu rhan gyda golwg ar wahardd yr hereditament rhag cael ei feddiannu neu ar ei gaffael;

d

sy'n destun hysbysiad cadw adeilad o fewn ystyr Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 19903 neu a cynhwysir mewn rhestr a luniwyd o dan adran 1 o'r Ddeddf honno;

dd

a gynhwysir yn yr Atodlen o henebion a luniwyd o dan adran 1 o Ddeddf Henebion a Mannau Archaeolegol 19794;

e

y mae ei werth ardrethol yn llai na £2,200;

f

y mae gan ei berchennog hawl i feddiannu yn unig yn rhinwedd ei swydd fel cynrychiolydd personol person ymadawedig;

ff

pan fo, o ran ystâd y perchennog, orchymyn methdalu o fewn ystyr adran 381(2) o Ddeddf Ansolfedd 19865;

g

y mae ei berchennog â hawl i feddiannu yn rhinwedd ei swydd fel ymddiriedolwr o dan weithred gymodi y mae Deddf Gweithredoedd Cymodi 19146 yn gymwys iddi;

ng

y mae ei berchennog yn gwmni sy'n ddarostyngedig i orchymyn dirwyn i ben a wneir o dan Ddeddf Ansolfedd 1986 neu a ddygir i ben yn wirfoddol o dan y Ddeddf honno;

h

y mae ei berchennog yn gwmni yn nwylo gweinyddwyr o fewn yr ystyr ym mharagraff 1 o Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 1986 neu sy'n ddarostyngedig i orchymyn gweinyddu a wnaed o dan y darpariaethau gweinyddu blaenorol o fewn ystyr erthygl 3 o Orchymyn Deddf Menter 2002 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2003 7;

i

y mae ei berchennog â hawl i feddiannu yn rhinwedd ei swydd fel diddymwr yn rhinwedd gorchymyn a wnaed o dan adran 112 neu adran 145 o Ddeddf Ansolfedd 1986.

Meddiannu parhaus5

Mae hereditament sydd heb ei feddiannu ac a gaiff a feddiannu ar unrhyw ddiwrnod i'w drin fel petai heb ei feddiannu'n barhaus at ddibenion rheoliad 4(a) a (b) os bydd heb ei feddiannu eto pan ddaw cyfnod o lai na chwe wythnos, gan ddechrau ar y diwrnod hwnnw, i ben.

Hereditamentau sydd heb eu meddiannu o'r blaen6

At ddibenion rheoliad 4(a) a (b), mae hereditament sydd heb ei feddiannu o'r blaen i'w drin fel petai heb ei feddiannu—

a

ar y diwrnod a benderfynir o dan baragraff 8 o Atodlen 1 i Ddeddf yr Ardreth Gyffredinol 19678, neu ar y diwrnod a benderfynir o dan Atodlen 4A i'r Ddeddf9, p'un bynnag o'r diwrnodau hynny a ddaw gyntaf; neu

b

pan na fo paragraff (a) yn gymwys, ar y diwrnod y dangosir yr hereditament gyntaf mewn rhestr ardrethu lleol.

Dirymu ac arbed7

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) 198910 wedi eu dirymu o ran eu cymhwyso i Gymru.

2

Mae'r Rheoliadau hynny yn parhau i fod yn gymwys at ddibenion cyfrifo atebolrwydd dros ardrethi o ran unrhyw ddiwrnod cyn 1 Tachwedd 2008.

Brian GibbonsY Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 45 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol (“Deddf 1988”) yn darparu bod perchnogion eiddo annomestig gwag yn atebol i dalu ardrethi annomestig os yw amodau penodol yn gymwys.

Mae'r Rheoliadau hyn yn ailddeddfu Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) 1989 (“Rheoliadau 1989”) gyda diwygiadau. Yn ogystal â diwygiadau drafftio, yr unig newid o sylwedd yw'r eithriad newydd a gynhwysir ar gyfer cwmnïau yn nwylo gweinyddwyr (rheoliad 4(h)).

Un o'r amodau a osodir gan adran 45 o Ddeddf 1988 yw bod rhaid i'r eiddo ddod o fewn dosbarth a ragnodir gan reoliadau a wneir, o ran Cymru, gan Weinidogion Cymru.

Mae rheoliad 3 yn rhagnodi'r dosbarth hwnnw fel un a ffurfir gan bob adeilad neu ran o adeilad ac eithrio'r sawl a restrir yn rheoliad 4. Mae'r eithriadau hynny yn cynnwys pob eiddo a fu'n wag yn barhaus am dri mis neu lai.

Mae rheoliad 5 a 6 yn cynnwys darpariaethau tebyg i'r darpariaethau yn Rheoliadau 1989 sy'n ymwneud ag achosion pan ystyrir y bydd eiddo wedi bod yn wag yn barhaus am dri neu chwe mis neu lai a chymhwysiad y Rheoliadau at eiddo sydd heb erioed ei feddiannu.

Dirymwyd Rheoliadau 1989 o ran eu cymhwyso i Loegr gan O.S. 2008/386 ac mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau 1989 o ran eu cymhwyso i Gymru.

Mae Asesiad o Effaith Reoleiddiol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-guide-docs-pub/bus-business-documents/bus-business-documents-doc-laid.htm.