Offerynnau Statudol Cymru
IECHYD MEDDWL, CYMRU
Gwnaed
15 Medi 2008
Yn dod i rym
3 Tachwedd 2008
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 5(4) a (7) a 143 Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(1) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:—
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Meddwl (Nyrsys) (Cymru) 2008, daw i rym ar 3 Tachwedd 2008 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
2.—(1) At ddibenion adran 5(4) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (pŵer i gadw claf yn gaeth mewn ysbyty am fwyafswm o 6 awr) nyrs o'r dosbarth a ragnodwyd yw nyrs a gafodd ei chofrestru yn naill ai Is-ran 1 neu Is-ran 2 o'r gofrestr a gynhelir o dan erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001(2), ar yr amod bod cofrestriad o'r nyrs yn cynnwys cofnod fel a bennir ym mharagraff (2).
(2) Mae cofnod yn y gofrestr y cyfeirir ato ym mharagraff (1) naill ai:—
(a)yn gofnod sy'n dangos mai maes ymarfer y nyrs yw nyrsio iechyd meddwl; neu
(b)yn gofnod sy'n dangos mai maes ymarfer y nyrs yw nyrsio anableddau dysgu.
3. Dirymir Gorchymyn Iechyd Meddwl (Nyrsys) 1998(3) o ran Cymru.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
15 Medi 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Iechyd Meddwl (Nyrsys) 1998. Mae'n rhagnodi'r dosbarthau o nyrsys sy'n cael pŵer o dan adran 5(4) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (“Deddf 1983”) i gadw'n gaeth, hyd at chwe awr, glaf sy'n cael triniaeth ar gyfer anhwylder meddwl fel claf mewnol mewn ysbyty. Mae'r Gorchymyn yn adlewyrchu newid wrth gofrestru nyrsys yn y gofrestr a gynhelir o dan erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001, sydd bellach yn darparu bod nyrsys yn cael eu cofrestru drwy gyfeiriad at gofnod sy'n dangos eu maes ymarfer perthnasol ac sy'n darparu at ddibenion adran 5(4) bod yn rhaid i gofnodion o'r fath a restrir o dan naill ai Is-ran 1 neu Is-ran 2 o'r gofrestr fod yn perthyn naill ai i nyrsio iechyd meddwl neu i nyrsio anableddau dysgu.
Nid oes asesiad o effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi.