2008 Rhif 2441 (Cy.214)
Gorchymyn Iechyd Meddwl (Nyrsys) (Cymru) 2008
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 5(4) a (7) a 143 Ddeddf Iechyd Meddwl 19831 drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:—
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Meddwl (Nyrsys) (Cymru) 2008, daw i rym ar 3 Tachwedd 2008 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
Dosbarthau a ragnodwyd o nyrsys at ddibenion adran 5(4) o Ddeddf Iechyd Meddwl 19832
1
At ddibenion adran 5(4) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (pŵer i gadw claf yn gaeth mewn ysbyty am fwyafswm o 6 awr) nyrs o'r dosbarth a ragnodwyd yw nyrs a gafodd ei chofrestru yn naill ai Is-ran 1 neu Is-ran 2 o'r gofrestr a gynhelir o dan erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 20012, ar yr amod bod cofrestriad o'r nyrs yn cynnwys cofnod fel a bennir ym mharagraff (2).
2
Mae cofnod yn y gofrestr y cyfeirir ato ym mharagraff (1) naill ai:—
a
yn gofnod sy'n dangos mai maes ymarfer y nyrs yw nyrsio iechyd meddwl; neu
b
yn gofnod sy'n dangos mai maes ymarfer y nyrs yw nyrsio anableddau dysgu.
Dirymu3
Dirymir Gorchymyn Iechyd Meddwl (Nyrsys) 19983 o ran Cymru.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)