2008 Rhif 2440 (Cy.213)
Rheoliadau Iechyd Meddwl (Gwrthdrawiad Buddiannau) (Cymru) 2008
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 12A o Ddeddf Iechyd Meddwl 19831, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a rhychwant1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Meddwl (Gwrthdrawiad Buddiannau) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 3 Tachwedd 2008.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “argymhelliad meddygol” (“medical recommendation”) yw argymhelliad meddygol fel a grybwyllir yn adran 12(1) o'r Ddeddf at ddibenion cais;
ystyr “asesydd” (“assessor”) yw—
- a
GPIMC sy'n ystyried gwneud cais, neu
- b
ymarferydd meddygol cofrestredig sy'n ystyried rhoi argymhelliad meddygol;
- a
ystyr “cais” (“application”) yw cais a grybwyllir yn adran 11(1) o'r Ddeddf;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Meddwl 19832;
ystyr “GPIMC” (“AMHP”) yw gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy;
mae cyfeiriadau at “perthynas agosaf” (“nearest relative”) yn cynnwys unrhyw berson a benodwyd am y tro i weithredu swyddogaethau'r perthynas agosaf yn rhinwedd gorchymyn a wnaed o dan adran 29 o'r Ddeddf, rheoliad 33 o Reoliadau Iechyd Meddwl (Ysbyty, Gwarcheidiaeth, Triniaeth Gymunedol a Chydsynio â Thriniaeth) (Cymru) 2008 neu reoliad 24 o Reoliadau Iechyd Meddwl (Ysbyty, Gwarcheidiaeth a Thriniaeth) (Lloegr) 2008.
Gwrthdrawiad buddiannau posibl am resymau proffesiynol3
1
Wrth ystyried claf, bydd gan asesydd wrthdrawiad buddiannau posibl—
a
os yw'n gweithio o dan gyfarwyddyd un o'r aseswyr eraill sy'n ystyried y claf neu os yw'n gyflogedig gan un ohonynt;
b
os yw'n aelod o dîm a drefnwyd i gydweithio at ddibenion clinigol yn rheolaidd a bod y ddau asesydd arall hefyd yn aelodau ohono.
2
Pan fo perthynas agosaf claf yn gwneud cais, bydd gan asesydd wrthdrawiad buddiannau posibl—
a
os yw'n gweithio o dan gyfarwyddyd perthynas agosaf y claf hwnnw neu os yw'n gyflogedig ganddo;
b
os yw'n cyflogi perthynas agosaf y claf neu os yw'r perthynas agosaf yn gweithio dan ei gyfarwyddyd;
c
os yw'n aelod o dîm a drefnwyd i gydweithio at ddibenion clinigol yn rheolaidd a bod y perthynas agosaf hefyd yn aelod ohono.
3
Wrth ystyried claf, bydd gan asesydd wrthdrawiad buddiannau posibl—
a
os yw'n gweithio o dan gyfarwyddyd y claf hwnnw neu os yw'n gyflogedig ganddo;
b
os yw'n cyflogi'r claf neu os yw'r claf yn gweithio dan ei gyfarwyddyd;
c
os yw'n aelod o dîm a drefnwyd i gydweithio at ddibenion clinigol yn rheolaidd a bod y claf hefyd yn aelod ohono.
Gwrthdrawiad buddiannau am resymau ariannol4
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd gan asesydd wrthdrawiad buddiannau posibl os yw, yn ddibynnol ar benderfyniad ganddo i wneud cais neu i roi argymhelliad meddygol neu beidio, ar dir i ennill yn ariannol.
2
Pan fydd cais i glaf gael ei dderbyn i ysbyty nad yw'n sefydliad cofrestredig, caniateir i un (ond dim mwy nag un) o'r argymhellion meddygol gael ei roi gan ymarferydd meddygol cofrestredig sydd ar staff yr ysbyty hwnnw neu sy'n derbyn unrhyw daliadau a wnaed i gynnal a chadw'r claf neu sydd â buddiant yn eu derbyn.
3
Pan fydd cais i glaf gael ei dderbyn i ysbyty sy'n sefydliad cofrestredig, ni chaniateir i unrhyw un o'r argymhellion meddygol gael ei roi gan ymarferydd meddygol cofrestredig sydd ar staff yr ysbyty hwnnw neu sy'n derbyn unrhyw daliadau a wnaed i gynnal a chadw'r claf neu sydd â buddiant yn eu derbyn.
4
At ddibenion y rheoliad hwn nid yw'r term “ennill ariannol” yn cynnwys unrhyw ffi a dalwyd i ymarferydd o ran archwilio claf yn unol ag adran 12 o'r Ddeddf neu o ran darparu unrhyw argymhelliad o ganlyniad i archwiliad o'r fath.
Gwrthdrawiad buddiannau posibl am resymau busnes5
1
Wrth ystyried claf, bydd gan asesydd wrthdrawiad buddiannau posibl os yw'n ymwneud yn glòs yn yr un fenter fusnes ag asesydd arall, y claf neu berthynas agosaf y claf gan gynnwys bod yn bartner, yn gyfarwyddwr, yn swydd-ddeiliad arall neu'n gyfranddalwr sylweddol.
2
Pan fo perthynas agosaf y claf yn gwneud cais, bydd gan asesydd wrthdrawiad buddiannau posibl os yw'n ymwneud yn glòs yn yr un fenter fusnes â'r perthynas agosaf gan gynnwys bod yn bartner, yn gyfarwyddwr, yn swydd-ddeiliad arall neu'n gyfranddalwr sylweddol.
Gwrthdrawiad buddiannau posibl ar sail perthynas bersonol6
1
Bydd gan asesydd wrthdrawiad buddiannau posibl wrth ystyried claf—
a
os yw'n perthyn i berson perthnasol yn y radd gyntaf;
b
os yw'n perthyn i berson perthnasol yn yr ail radd;
c
os yw'n perthyn i berson perthnasol fel hanner brawd neu hanner chwaer;
ch
os yw'n briod, yn gyn briod, yn bartner sifil neu'n gyn bartner sifil i berson perthnasol;
d
os yw'n byw gyda pherson perthnasol megis petai yn briod neu'n bartner sifil.
2
At ddibenion y rheoliad hwn—
a
ystyr “person perthnasol” yw asesydd arall, y claf, neu os mai perthynas agosaf y claf sy'n gwneud y cais, y perthynas agosaf;
b
ystyr “yn perthyn i berson perthnasol yn y radd gyntaf” yw fel rhiant, chwaer, brawd, merch neu fab; ac mae'n cynnwys llysberthynas;
c
ystyr “yn perthyn yn yr ail radd” yw fel ewythr, modryb, taid neu nain, tad-cu neu fam-gu, ŵyr neu wyres, cefnder, nîth, nai, rhiant yng nghyfraith, taid neu nain yng nghyfraith, tad-cu neu fam-gu yng nghyfraith, ŵyr neu wyres yng nghyfraith, chwaer yng nghyfraith, brawd yng nghyfraith, merch yng nghyfraith neu fab yng nghyfraith ac mae'n cynnwys llysberthynas;
ch
mae cyfeiriadau at lysberthynas a theulu yng nghyfraith ym mharagraffau (b) ac (c) uchod i'w darllen yn unol ag adran 246 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 20043.
Darpariaeth Argyfwng7
Nid yw'r Rheoliadau hyn yn rhwystro GPIMC rhag gwneud cais nac ymarferydd meddygol cofrestredig rhag rhoi argymhelliad meddygol os byddai yna fel arall oedi gyda risg difrifol i iechyd neu ddiogelwch y claf neu bobl eraill.