- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
35. Caniateir cyflawni swyddogaethau rheolwyr ysbyty gan unrhyw berson a awdurdodir ganddynt yn y cyswllt hwnnw mewn cysylltiad â'r canlynol—
(a)hysbysu awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol lleol o dan adran 14 (adroddiadau cymdeithasol) o gleifion a gedwir yn gaeth ar sail ceisiadau gan eu perthnasau agosaf;
(b)awdurdodi personau o dan adran 17(3) (caniatâd i fod yn absennol o'r ysbyty) i gadw mewn cystodaeth gleifion sydd wedi cael caniatâd i fod yn absennol sy'n ddarostyngedig i amod eu bod yn aros mewn cystodaeth,
(c)awdurdodi person o dan adrannau 18(1) a (2A) (dychwelyd ac aildderbyn cleifion sy'n absennol heb ganiatâd) i gymryd a dychwelyd cleifion a gedwir yn gaeth a chleifion cymunedol yn y drefn honno sy'n absennol heb ganiatâd.
36. Caniateir cyflawni swyddogaethau rheolwyr ysbyty o dan adrannau 35 i 44B o Ddeddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr 2004 (darparu gwybodaeth i ddioddefwyr cleifion o dan y Ddeddf etc.)(1) gan unrhyw berson a awdurdodir ganddynt yn y cyswllt hwnnw.
37.—(1) Ac eithrio fel y darperir gan baragraff (2), caiff awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol ddirprwyo ei swyddogaethau o dan Rannau 2 a 3 o'r Ddeddf a'r Rheoliadau hyn yn yr un ffordd ac i'r un personau ag y caniateir dirprwyo ei swyddogaethau y cyfeirir atynt yn Neddf Llywodraeth Leol 1972(2) yn unol ag adran 101 o'r Ddeddf honno.
(2) Ni chaniateir dirprwyo swyddogaeth yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol o dan adran 23 (gollwng cleifion) mewn dull nad yw'n unol â'r adran honno.
Fel y'i diwygiwyd gan adran 48 o Ddeddf Iechyd Meddwl 2007 ac Atodlen 6 iddi. Yn rhinwedd adran 45(4) o Ddeddf Trais Domestig, Trosedd a Dioddefwyr 2004 mae swyddogaeth a roddir i reolwyr ysbyty o dan adrannau 35 i 44B o'r Ddeddf honno i'w thrin fel un o swyddogaethau'r rheolwyr hynny o dan Ran 3 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 at ddibenion adran 32(3) o Ddeddf 1983 (rheoliadau am ddirprwyo swyddogaethau rheolwyr, etc).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: