- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
23.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw glaf y mae adran 19(1)(a) fel y'i diwygiwyd gan Atodlen 1 i'r Ddeddf yn gymwys iddo (“claf ysbyty”), nad yw'n glaf a drosglwyddir o dan —
(a)adran 19(3) (trosglwyddo rhwng ysbytai o dan yr un rheolwyr), neu
(b)adran 123(1) a (2) (trosglwyddiadau rhwng ysbytai arbennig ac ohonynt).
(2) Caniateir i glaf ysbyty gael ei drosglwyddo i ysbyty arall—
(a)pan fo awdurdod ar gyfer trosglwyddo ar y ffurf a osodir yn Rhan 1 o Ffurflen TC 1 yn cael ei roi gan reolwyr yr ysbyty y mae'r claf yn agored i gael ei gadw'n gaeth ynddo; a
(b)pan fo'r rheolwyr hynny yn fodlon bod trefniadau wedi'u gwneud i dderbyn y claf i'r ysbyty y bwriedir ei drosglwyddo iddo.
(3) Wedi i'r claf hwnnw gael ei drosglwyddo, rhaid i reolwyr yr ysbyty y mae wedi'i drosglwyddo iddo gofnodi derbyniad y claf ar y ffurf a osodir yn Rhan 2 o Ffurflen TC 1.
(4) Caniateir i glaf ysbyty gael ei drosglwyddo i warcheidiaeth awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol, neu unrhyw berson a gymeradwywyd gan awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol, os yw—
(a)awdurdod ar gyfer trosglwyddiad ar y ffurf a osodir yn Rhan 1 o Ffurflen TC 2 wedi'i roi gan reolwyr yr ysbyty y mae'r claf yn agored i gael ei gadw'n gaeth ynddo;
(b)y trosglwyddiad wedi'i gytuno gan yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol, a fydd yr awdurdod sy'n gyfrifol os daw'r trosglwyddiad arfaethedig yn weithredo,;
(c)yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol hwnnw wedi pennu ar ba ddyddiad y bydd y trosglwyddo'n digwydd; a
(ch)pan fydd y person a enwir yn yr awdurdod ar gyfer trosglwyddiad fel gwarcheidwad yn berson preifat, cytundeb y person hwnnw wedi'i sicrhau a'i gofnodi ar y ffurf a osodir yn Rhan 2 o Ffurflen TC 2.
(5) Wedi i'r claf hwnnw gael ei drosglwyddo rhaid i'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol gofnodi trosglwyddiad y claf ar y ffurf a osodir yn Rhan 3 o Ffurflen TC 2.
(6) Pan fo claf ysbyty yn cael ei gadw'n gaeth mewn sefydliad cofrestredig—
(a)caniateir iddo gael ei drosglwyddo o'r sefydliad hwnnw i sefydliad cofrestredig arall pan fo'r ddau sefydliad o dan reolaeth yr un rheolwyr, ac ni fydd paragraff (2) yn gymwys.
(b)os yw'n cael ei gynnal o dan gontract gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Bwrdd Iechyd Lleol, Awdurdod Iechyd Strategol, Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG, Awdurdod Iechyd Arbennig neu Weinidogion Cymru, caniateir i unrhyw awdurdod ar gyfer trosglwyddiad sy'n ofynnol o dan baragraff (2)(a) neu, yn ôl y digwydd, (4)(a) gael ei roi gan swyddog a awdurdodwyd yn briodol i'r ymddiriedolaeth honno, i'r bwrdd hwnnw, neu i'r awdurdod hwnnw, yn lle gan y rheolwyr, neu, yn ôl y digwydd, Gweinidogion Cymru yn lle'r rheolwyr.
(7) Yn y rheoliad hwn, caniateir i swyddogaethau'r rheolwyr gael eu cyflawni gan swyddog a awdurdodwyd ganddynt yn y cyswllt hwnnw.
(8) Pan fo amodau paragraffau (2) neu (4), yn ôl y digwydd, wedi'u bodloni, rhaid i waith trosglwyddo'r claf gael ei gyflawni o fewn 28 o ddiwrnodau i ddyddiad yr awdurdod fel y darperir ar ei gyfer o dan is-baragraff (a) o baragraffau (2) neu (4) ac yn niffyg hynny bydd yr awdurdod dros y trosglwyddo yn peidio.
24.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw glaf sydd am y tro yn destun gwarcheidiaeth o dan y Ddeddf (“claf gwarcheidiaeth”).
(2) Caniateir i glaf gwarcheidiaeth gael ei drosglwyddo i warcheidiaeth awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol arall neu berson arall os yw—
(a)awdurdod ar gyfer trosglwyddo wedi'i roi gan y gwarcheidwad ar y ffurf a osodir yn Rhan 1 o Ffurflen TC 3;
(b)y trosglwyddiad wedi'i gytuno gan yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol, a fydd yr awdurdod cyfrifol os daw'r trosglwyddiad arfaethedig yn weithredol;
(c)yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol hwnnw wedi pennu ar ba ddyddiad y bydd y trosglwyddo'n digwydd; ac
(ch)pan fydd y person a enwir yn warcheidwad arfaethedig yn yr awdurdod ar gyfer trosglwyddo yn berson preifat, cytundeb y person hwnnw wedi'i sicrhau a'i gofnodi ar y ffurf a osodir yn Rhan 2 o Ffurflen TC 3.
(3) Wedi i'r claf hwnnw gael ei drosglwyddo, rhaid i'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol sy'n gyfrifol gofnodi trosglwyddiad gwarcheidiaeth y claf ar y ffurf a osodir yn Rhan 3 o Ffurflen TC 3.
(4) Caniateir i'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol roi awdurdod i drosglwyddo claf gwarcheidiaeth i ysbyty ar y ffurf a osodir yn Rhan 1 o Ffurflen TC 4 os yw—
(a)cais am dderbyniad i gael triniaeth wedi'i wneud gan weithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy ar y ffurf a osodir yn Ffurflen HO 6 ac, at ddibenion y cais hwnnw, bydd adrannau 11(4) (ymgynghori â'r perthynas agosaf) a 13 (dyletswydd gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy) yn gymwys fel petai'r trosglwyddiad arfaethedig yn gais am dderbyniad i gael triniaeth;
(b)cais am dderbyniad i gael triniaeth wedi'i wneud gan y perthynas agosaf ar y ffurf a osodir yn Ffurflen HO 5;
(c)y cais wedi'i seilio ar argymhellion meddygol a roddwyd gan ddau ymarferydd meddygol cofrestredig yn unol ag adran 12 a rheoliad 4(1)(ch);
(ch)yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol wedi'i fodloni bod trefniadau wedi'u gwneud i dderbyn y claf i'r ysbyty hwnnw.
(5) Wedi i'r claf hwnnw gael ei drosglwyddo i'r ysbyty, rhaid i gofnod o'i dderbyn gael ei wneud gan reolwyr yr ysbyty y mae'r claf wedi'i drosglwyddo iddo ar y ffurf a osodir yn Rhan 2 o Ffurflen TC 4 .
(6) Caniateir i swyddogaethau'r rheolwyr y cyfeiriwyd atynt yn y rheoliad hwn gael eu cyflawni gan swyddog a awdurdodwyd ganddynt yn y cyswllt hwnnw.
(7) Pan fo amodau paragraff (2) wedi'u bodloni, rhaid i waith trosglwyddo'r claf gael ei gyflawni o fewn 28 o ddiwrnodau i ddyddiad yr awdurdod fel y darperir ar ei gyfer o dan is-baragraff (a) o baragraff (2), ac yn niffyg hynny bydd y claf yn aros yng ngwarcheidiaeth y gwarcheidwad cychwynnol.
(8) Pan fo amodau paragraff (4) wedi'u bodloni, rhaid i waith trosglwyddo'r claf gael ei gyflawni o fewn 14 o ddiwrnodau i'r dyddiad y cafodd y claf ei archwilio ddiwethaf, ac yn niffyg hynny bydd y claf yn aros yn destun gwarcheidiaeth.
25.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw glaf sydd am y tro yn glaf cymunedol.
(2) Caniateir i gyfrifoldeb dros glaf cymunedol gael ei aseinio i ysbyty arall o dan reolaeth wahanol i'r ysbyty cyfrifol (“ysbyty arall”) pan fo–
(a)awdurdod ar gyfer ei aseinio ar y ffurf a osodir yn Rhan 1 o Ffurflen TC 5 yn cael ei roi gan reolwyr yr ysbyty cyfrifol sy'n aseinio cyn ei aseinio;
(b)y rheolwyr hynny wedi'u bodloni bod trefniadau wedi'u gwneud i aseinio'r cyfrifoldeb dros y claf i'r ysbyty arall o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar ddyddiad yr awdurdod i'w aseinio;
(c)adeg yr aseinio, rhaid i reolwyr yr ysbyty arall gofnodi'r aseiniad ar y ffurf a osodir yn Rhan 2 o Ffurflen TC 5.
(3) Pan fo amodau paragraff (2) wedi'u bodloni, rhaid i waith aseinio'r cyfrifoldeb gael ei gyflawni o fewn 28 o ddiwrnodau i ddyddiad yr awdurdod fel y darperir ar ei gyfer o dan is-baragraff (a) o'r paragraff hwnnw, ac yn niffyg hynny bydd y cyfrifoldeb dros y gorchymyn triniaeth gymunedol yn parhau i berthyn i'r ysbyty a oedd yn gyfrifol felly cyn yr aseiniad.
(4) Caniateir i'r cyfrifoldeb dros glaf cymunedol y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo gael ei aseinio i ysbyty arall sy'n cael ei reoli gan yr un rheolwyr ysbyty, ac os felly, ni fydd darpariaethau paragraffau (2) a (3) a rheoliad 32(b) yn gymwys.
(5) Pan fo cyfrifoldeb dros glaf yn cael ei aseinio o ysbyty cyfrifol sydd yn sefydliad cofrestredig i ysbyty arall o dan reolaeth wahanol i'r ysbyty sy'n aseinio a phan fo'r claf yn cael ei gynnal o dan gontract gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Bwrdd Iechyd Lleol, Awdurdod Iechyd Strategol, Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG, Awdurdod Iechyd Arbennig neu Weinidogion Cymru caniateir rhoi'r awdurdod dros yr aseinio sy'n ofynnol o dan baragraff (2)(a) gan swyddog a awdurdodwyd yn briodol i'r ymddiriedolaeth honno, i'r bwrdd hwnnw neu i'r awdurdod hwnnw neu gan Weinidogion Cymru yn lle'r rheolwyr.
(6) Caniateir i swyddogaethau'r rheolwyr y cyfeirir atynt yn y rheoliad hwn gael eu cyflawni gan swyddog a awdurdodwyd ganddynt yn y cyswllt hwnnw.
26.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw glaf sydd am y tro yn cael ei alw yn ei ôl o fod yn destun gorchymyn triniaeth gymunedol o dan adran 17E.
(2) Pan nad yw'r ysbyty y galwyd y claf yn ei ôl iddo o dan yr un rheolaeth â'r ysbyty y trosglwyddir y claf iddo, ni chaniateir i'r trosglwyddiad ddigwydd ond os yw'r gofynion ym mharagraffau (3) hyd (5) yn cael eu bodloni.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (5) caniateir i glaf y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gael ei drosglwyddo i ysbyty arall pan fo—
(a)awdurdod i drosglwyddo ar y ffurf a osodir yn Rhan 1 o Ffurflen TC 6 wedi'i roi gan reolwyr yr ysbyty y mae'r claf yn cael ei gadw'n gaeth ynddo cyn y trosglwyddiad;
(b)y rheolwyr hynny wedi eu bodloni bod trefniadau wedi cael eu gwneud ar gyfer derbyn y claf i'r ysbyty y bwriedir ei drosglwyddo iddo.
(4) Wedi i'r claf hwnnw gael ei drosglwyddo, rhaid i reolwyr yr ysbyty y mae wedi'i drosglwyddo iddo gofnodi derbyniad y claf ar y ffurf a osodir yn Rhan 2 o Ffurflen TC 6.
(5) Rhaid i reolwyr yr ysbyty y trosglwyddir y claf ohono ddarparu i reolwyr yr ysbyty y trosglwyddir y claf iddo gopi o Ffurflen CP 6 (cofnod o gadwad y claf yn gaeth yn yr ysbyty ar ôl iddo gael ei alw yn ei ôl) cyn neu ar adeg trosglwyddo'r claf.
(6) Pan fo—
(a)claf wedi ei alw yn ei ôl i ysbyty sy'n sefydliad cofrestredig; a
(b)y claf hwnnw yn cael ei gynnal o dan gontract gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Bwrdd Iechyd Lleol, Awdurdod Iechyd Strategol, Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG, Awdurdod Iechyd Arbennig neu Weinidogion Cymru,
caniateir rhoi unrhyw awdurdod i drosglwyddo sy'n ofynnol o dan baragraff (3) gan swyddog a awdurdodwyd yn briodol i'r ymddiriedolaeth honno, i'r bwrdd hwnnw neu i'r awdurdod hwnnw neu gan Weinidogion Cymru, yn lle'r rheolwyr.
(7) Yn y rheoliad hwn, caniateir i swyddogaethau'r rheolwyr gael eu cyflawni gan swyddog a awdurdodwyd ganddynt yn y cyswllt hwnnw.
27.—(1) Pan fo amodau rheoliad 23(2), 24(4) neu 26(2), yn ôl y digwydd, wedi eu bodloni, bydd yr awdurdod i drosglwyddo a roddwyd yn unol â'r rheoliadau hynny yn awdurdod digonol i'r personau canlynol fynd ag ef a'i gludo i'r ysbyty y mae'r claf yn cael ei drosglwyddo iddo o fewn y cyfnodau penodedig—
(a)mewn achos y mae rheoliad 23(2) yn gymwys iddo, un o swyddogion rheolwyr y naill ysbyty neu'r llall, neu unrhyw berson a awdurdodir gan y rheolwyr hynny o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar ddyddiad yr awdurdod i drosglwyddo;
(b)mewn achos y mae rheoliad 24(4) yn gymwys iddo, un o swyddogion awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol, neu unrhyw berson a awdurdodir gan yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol, o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y dyddiad y cafodd y claf ei archwilio ddiwethaf gan ymarferydd meddygol at ddibenion rheoliad 24(4)(c);
(c)mewn achos y mae rheoliad 26 yn gymwys iddo, un o swyddogion rheolwyr yr ysbyty y trosglwyddir y claf iddo neu unrhyw berson arall a awdurdodwyd ganddynt, o fewn y cyfnod o 72 o oriau sy'n dechrau gydag amser y cedwir y claf yn gaeth yn unol â galwad y claf yn ei ôl o dan adran 17E.
(2) Mae paragraff (1) hefyd yn gymwys i glaf sydd—
(a)yn agored i gael ei gadw'n gaeth o dan y Ddeddf ac yn cael ei symud i ysbyty arall o dan amgylchiadau y mae adran 19(3) yn gymwys iddynt, fel petai'r awdurdod a roddwyd gan y rheolwyr ar gyfer y trosglwyddo hwnnw yn awdurdod i drosglwyddo a roddwyd yn unol â rheoliad 23(2);
(b)yn agored i gael ei gadw'n gaeth mewn ysbyty arbennig ac sydd, yn unol â chyfarwyddyd a roddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 123(1) neu (2), yn cael ei symud i ysbyty arbennig arall neu'n cael ei drosglwyddo i ysbyty arall, fel petai'r cyfarwyddyd hwnnw'n awdurdod i drosglwyddo a roddwyd yn unol â rheoliad 23(2).
(3) Mewn achos y mae rheoliad 23(6)(a) yn gymwys iddo, caiff un o swyddogion rheolwyr y sefydliad cofrestredig, neu unrhyw berson arall a awdurdodir ganddynt, fynd â'r claf a'i gludo i'r sefydliad cofrestredig y mae'n cael ei drosglwyddo iddo.
28.—(1) Pan fo claf sy'n agored i gael ei gadw'n gaeth neu sy'n destun gwarcheidiaeth o dan y Ddeddf yn cael ei drosglwyddo o ysbyty neu warcheidiaeth yng Nghymru i ysbyty neu warcheidiaeth yn Lloegr, bydd y trosglwyddiad hwnnw yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a ragnodir yn y Rheoliadau hyn.
(2) Pan fo claf sy'n agored i gael ei gadw'n gaeth neu sy'n destun gwarcheidiaeth o dan y Ddeddf yn cael ei drosglwyddo o ysbyty neu warcheidiaeth yn Lloegr i ysbyty neu warcheidiaeth yng Nghymru, bydd y trosglwyddiad hwnnw a'r ddyletswydd i gofnodi derbyn y claf a drosglwyddir felly yn ddarostyngedig i'r amodau a ragnodir mewn Rheoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol at berwyl tebyg ar gyfer Lloegr.
(3) Pan fo paragraff (2) yn gymwys a bod unrhyw Reoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol at berwyl tebyg ar gyfer Lloegr yn darparu ar gyfer awdurdod i gludo claf yn Lloegr, bydd y Rheoliadau hynny yn darparu awdurdod i gludo'r claf tra bydd yng Nghymru.
29.—(1) Mae paragraffau (2) a (3) yn gymwys i unrhyw glaf sy'n cael ei symud o'r Alban, Gogledd Iwerddon, o unrhyw un o Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw i Gymru o dan—
(a)adran 82, 84 neu 85 (yn ôl y digwydd), neu
(b)Rheoliadau a wneir o dan adran 290 o Ddeddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (Yr Alban) 2003(1) (symud a dychwelyd cleifion o fewn y Deyrnas Unedig).
(2) Pan fo claf y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo yn agored i gael ei gadw'n gaeth mewn ysbyty, rhaid i reolwyr yr ysbyty—
(a)gofnodi ar y ffurf a osodir yn Ffurflen TC 7 y dyddiad y derbyniwyd y claf i'r ysbyty, a
(b)cymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i hysbysu'r person (os oes un) y mae'n ymddangos mai ef yw perthynas agosaf y claf neu'r person y mae'n ymddangos ei fod yn cyflawni swyddogaethau sy'n cyfateb i swyddogaethau a gyflawnir gan berthnasau agosaf o dderbyniad y claf.
(3) Pan fo claf y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo yn cael ei dderbyn i warcheidiaeth, rhaid i'r gwarcheidwad—
(a)cofnodi ar y ffurf a bennir yn Ffurflen TC 7 y dyddiad y mae'r claf yn cyrraedd y lle y mae i breswylio ynddo adeg ei dderbyn i warcheidiaeth o dan y Ddeddf;
(b)cymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i hysbysu'r person (os oes un) y mae'n ymddangos mai ef yw perthynas agosaf y claf neu berson y mae'n ymddangos ei fod yn cyflawni swyddogaethau sy'n cyfateb i swyddogaethau a gyflawnir gan berthnasau agosaf o dderbyniad y claf i warcheidiaeth o dan y Ddeddf; ac
(c)rhaid i warcheidwad preifat hysbysu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol o'r dyddiad a grybwyllwyd yn is-baragraff (a) ac o'r manylion a grybwyllwyd yn rheoliad 11(1)(b) a (d).
(4) Mae paragraff (5) yn gymwys i glaf a symudir o'r Alban, o unrhyw un o Ynysoedd y Sianel neu o Ynys Manaw i Gymru o dan —
(a)adran 289 o Ddeddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (Yr Alban) 2003; neu
(b)adran 85ZA (cyfrifoldeb dros gleifion cymunedol a drosglwyddir o unrhyw un o Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw)(2) yn achos unrhyw un o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
(5) Pan fo claf y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo i gael triniaeth yn y gymuned—
(a)rhaid i'r amodau a bennir gan y clinigydd cyfrifol o dan adran 80C(5) neu 85ZA(4) at ddibenion adran 17B(1) fod ar y ffurf a osodir yn Rhan 1 o Ffurflen TC 8;
(b)rhaid i gytundeb y gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy sy'n ofynnol o dan adran 80C(6) fod ar y ffurf a osodir yn Rhan 2 o Ffurflen TC 8;
(c)rhaid i reolwyr yr ysbyty cyfrifol y mae'r claf yn cael ei drin mewn cysylltiad ag ef fel claf sydd wedi'i dderbyn yn rhinwedd adran 80C(2) o'r Ddeddf gofnodi ar y ffurf a osodir yn Rhan 3 o Ffurflen TC 8 y dyddiad y cyrhaeddodd y claf y lle y mae i breswylio ynddo yng Nghymru (ac y mae'r claf yn cael ei drin o ganlyniad i hynny fel petai gorchymyn triniaeth gymunedol wedi'i wneud yn ei ollwng o'r ysbyty).
30. Os bwriedir trosglwyddo neu os trosglwyddir mewn gwirionedd—
(a)claf ysbyty o dan reoliad 23(2) i ysbyty a chanddo reolwyr ysbyty gwahanol i'r rheolwyr sydd yn yr ysbyty y trosglwyddwyd y claf ohono, rhaid i reolwyr yr ysbyty mae'r claf i drosglwyddo iddo neu y trosglwyddir iddo hysbysu'r claf ac, ac eithrio pan fo claf yn gofyn fel arall, gymryd camau rhesymol ymarferol i hysbysu'r person (os oes un) y mae'n ymddangos mai ef yw perthynas agosaf y claf, yn ysgrifenedig, o'r trosglwyddiad ac enw a chyfeiriad yr ysbyty a manylion rheolwyr yr ysbyty hwnnw;
(b)claf ysbyty i warcheidiaeth o dan adran 23(4) rhaid i'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol, ac eithrio pan fo'r claf yn gofyn fel arall, gymryd camau rhesymol ymarferol i hysbysu'r person (os oes un) y mae'n ymddangos mai ef yw perthynas agosaf y claf o ddyddiad trosglwyddiad y claf neu, os nad yw wedi gwneud hynny, gofnodi ei resymau dros beidio â gwneud hynny;
(c)claf gwarcheidiaeth i warcheidiaeth awdurdod arall neu berson arall o dan reoliad 24(2) rhaid i'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol, ac eithrio pan fo claf yn gofyn fel arall, gymryd camau rhesymol ymarferol i hysbysu'r person (os oes un) y mae'n ymddangos mai ef yw perthynas agosaf y claf o ddyddiad trosglwyddiad y claf neu, os nad yw wedi gwneud hynny, gofnodi ei resymau dros beidio â gwneud hynny;
(ch)claf gwarcheidiaeth i ysbyty o dan reoliad 24(4), rhaid i reolwyr yr ysbyty y mae'r claf i drosglwyddo iddo neu y trosglwyddwyd iddo hysbysu'r claf ac, ac eithrio pan fo'r claf yn gofyn fel arall, gymryd camau rhesymol ymarferol i hysbysu'r person (os oes un) y mae'n ymddangos mai ef yw perthynas agosaf y claf, yn ysgrifenedig, o enw a chyfeiriad yr ysbyty a manylion rheolwyr yr ysbyty.
31. Oni bai bod y claf yn gofyn fel arall, pan freinir gwarcheidiaeth claf yn yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol neu pan fo swyddogaethau gwarcheidwad, yn ystod analluedd y gwarcheidwad, yn cael eu trosglwyddo i'r awdurdod neu berson a gymeradwyir ganddo o dan adran 10 (trosglwyddo gwarcheidiaeth yn achos marwolaeth, analluedd etc. y gwarcheidwad), rhaid i'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol gymryd camau rhesymol ymarferol i beri i'r person (os oes un) y mae'n ymddangos mai ef yw perthynas agosaf y claf gael ei hysbysu o'r breiniad hwnnw, neu yn ôl y digwydd, o'r trosglwyddiad cyn iddo ddigwydd neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedi hynny.
32. Os bwriedir aseinio cyfrifoldeb dros glaf cymunedol neu os caiff ei aseinio mewn gwirionedd, rhaid i reolwyr yr ysbyty yr aseiniwyd y cyfrifoldeb iddo—
(a)hysbysu'r claf, yn ysgrifenedig, o enw a chyfeiriad yr ysbyty cyfrifol a manylion rheolwyr yr ysbyty (ni waeth a oes newidiadau yn rheolwyr yr ysbyty ai peidio); a
(b)oni bai bod y claf yn gofyn fel arall, pan fo'r aseinio yn cael ei wneud i ysbyty o dan reolaeth wahanol i'r ysbyty aseinio o dan reoliad 25(2), gymryd camau rhesymol ymarferol i hysbysu'r person (os oes un) y mae'n ymddangos mai ef yw perthynas agosaf y claf, enw a chyfeiriad yr ysbyty cyfrifol a manylion rheolwyr yr ysbyty hwnnw.
Mewnosodwyd adran 85ZA gan baragraff 12 o Atodlen 5 i Ddeddf Iechyd Meddwl 2007.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: