- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
16.—(1) At ddibenion gwneud gorchmynion triniaeth gymunedol o dan adran 17A ac ychwanegu amodau atynt o dan adran 17B—
(a)rhaid i unrhyw orchymyn a wneir gan y clinigydd cyfrifol o dan adran 17A(1) fod ar y ffurf a osodir yn Rhannau 1 a 3 o Ffurflen CP 1;
(b)rhaid i'r amodau a bennir yn y gorchymyn o dan adran 17B(3) ac unrhyw amodau eraill o dan adran 17B(2) fod ar y ffurf gymwys a osodir yn Rhan 1 o Ffurflen CP 1;
(c)rhaid i unrhyw ddatganiad gan weithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy a wneir o dan adran 17A(4) neu, yn ôl y digwydd, adran 17B(2) fod ar y ffurf gymwys a osodir yn Rhan 2 o Ffurflen CP 1;
(ch)rhaid i unrhyw orchymyn triniaeth gymunedol gael ei ddarparu i reolwyr yr ysbyty cyfrifol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(2) Rhaid i unrhyw amrywiad o'r amodau a bennir mewn gorchymyn triniaeth gymunedol o dan adran 17B(4) gael ei gofnodi ar y ffurf a osodir yn Ffurflen CP 2 a rhaid darparu'r gorchymyn sy'n amrywio'r amodau yn y modd hwnnw i reolwyr yr ysbyty cyfrifol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
17. At ddibenion estyn cyfnodau triniaeth gymunedol o dan adran 20A—
(a)rhaid i unrhyw adroddiad a wneir gan glinigydd cyfrifol o dan adran 20A(4) fod ar y ffurf a osodir yn Rhannau 1 a 3 o Ffurflen CP 3;
(b)rhaid i unrhyw ddatganiad gan weithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy a wneir o dan adran 20A(8) fod ar y ffurf a osodir yn Rhan 2 o Ffurflen CP 3;
(c)rhaid i unrhyw estyniad o gyfnod triniaeth gymunedol o dan adran 20A(3) gael ei gofnodi gan reolwyr yr ysbyty cyfrifol ar y ffurf a osodir yn Rhan 4 o Ffurflen CP 3.
18. O ran dychweliad claf cymunedol a gymerir i gystodaeth neu sy'n dychwelyd ar ôl absenoldeb heb ganiatâd ar ôl mwy nag 28 o ddiwrnodau—
(a)rhaid i unrhyw adroddiad a wneir o dan adran 21B(2) fod ar y ffurf a osodir yn Rhan 1 o Ffurflen CP 4;
(b)rhaid i'r ffaith bod yr adroddiad hwnnw wedi dod i law gael ei chofnodi gan reolwyr yr ysbyty cyfrifol ar y ffurf a osodir yn Rhan 2 o Ffurflen CP 4.
19.—(1) At ddibenion galw claf yn ei ôl i'r ysbyty o dan adran 17E(1)—
(a)rhaid i hysbysiad o dan adran 17E(5) gan glinigydd cyfrifol fod ar y ffurf a osodir yn Ffurflen CP 5.
(b)rhaid i'r clinigydd cyfrifol ddarparu copi o'r hysbysiad i reolwyr yr ysbyty cyfrifol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol;
(c)pan fo'r claf yn cael ei alw yn ei ôl i ysbyty ac nad hwnnw yw'r ysbyty cyfrifol, rhaid i'r clinigydd cyfrifol—
(i)darparu copi o'r hysbysiad i reolwyr yr ysbyty hwnnw, a
(ii)hysbysu'r rheolwyr hynny o enw a chyfeiriad yr ysbyty cyfrifol ; ac
(ch)rhaid i reolwyr yr ysbyty y mae'r claf yn cael ei alw'n ôl iddo gofnodi amser a dyddiad cadwad y claf yn gaeth yn unol â'r hysbysiad hwnnw ar y ffurf a osodir yn Rhan 1 o Ffurflen CP 6.
(2) O ran rhyddhau claf cymunedol a alwyd yn ei ôl i'r ysbyty o dan adran 17F(5), rhaid i'r clinigydd cyfrifol hysbysu rheolwyr yr ysbyty cyfrifol o unrhyw ryddhau o'r fath a rhaid i'r rheolwyr hynny gofnodi amser a dyddiad rhyddhau'r claf ar y ffurf a osodir yn Rhan 2 o Ffurflen CP 6.
(3) Pan fo ysbyty cyfrifol y claf yn Lloegr rhaid cyflawni galwad y claf yn ei ôl yn unol â Rheoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol at berwyl tebyg ar gyfer Lloegr.
(4) Rhaid i hysbysiad gan glinigydd cyfrifol sy'n galw claf yn ei ôl i'r ysbyty at ddibenion adran 17E (pŵer i alw claf cymunedol yn ôl i'r ysbyty) yn Ffurflen CP 5 gael ei gyflwyno drwy—
(a)ei draddodi â llaw i'r claf,
(b)ei draddodi â llaw i gyfeiriad arferol y claf neu ei gyfeiriad hysbys diwethaf, neu
(c)ei anfon yn rhagdaledig drwy bost dosbarth cyntaf wedi ei gyfeirio at y claf yng nghyfeiriad arferol y claf neu yng nghyfeiriad hysbys diwethaf y claf.
(5) Ystyrir bod hysbysiad galw yn ôl yn Ffurflen CP 5 wedi ei gyflwyno—
(a)yn achos paragraff 4(a) unwaith bod yr hysbysiad wedi ei draddodi i'r claf;
(b)yn achos paragraff 4(b), ar y diwrnod (nad oes rhaid iddo fod yn ddiwrnod busnes) ar ôl iddo gael ei draddodi;
(c)yn achos paragraff 4(c), ar yr ail ddiwrnod busnes ar ôl iddo gael ei bostio.
20. At ddibenion dirymu gorchymyn triniaeth gymunedol o dan adran 17F(4) (pwerau mewn cysylltiad â chleifion a alwyd yn eu hôl)—
(a)rhaid i orchymyn, gan glinigydd cyfrifol, sy'n dirymu gorchymyn triniaeth gymunedol fod ar y ffurf a osodir yn Rhannau 1 a 3 o Ffurflen CP 7;
(b)rhaid i unrhyw ddatganiad gan weithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy a wnaed o dan adran 17F(4)(b) fod ar y ffurf a osodir yn Rhan 2 o Ffurflen CP 7;
(c)rhaid i'r clinigydd cyfrifol ddarparu'r gorchymyn dirymu i reolwyr yr ysbyty y mae'r claf wedi'i alw yn ei ôl iddo;
(ch)pan fo'r claf wedi'i alw yn ei ôl i ysbyty ac nad hwnnw yw'r ysbyty cyfrifol, rhaid i'r clinigydd cyfrifol (cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol) ddarparu i reolwyr yr ysbyty a oedd yr ysbyty cyfrifol am y claf cyn dirymu gorchymyn triniaeth gymunedol y claf gopi o'r gorchymyn dirymu hwnnw;
(d)rhaid i reolwyr yr ysbyty y mae'r claf yn cael ei gadw yn gaeth ynddo wrth ddirymu'r gorchymyn triniaeth gymunedol gofnodi'r ffaith bod copi o'r gorchymyn dirymu wedi dod i law ac amser a dyddiad y dirymiad ar y ffurf a osodir yn Rhan 4 o Ffurflen CP 7.
21. Rhaid i unrhyw orchymyn a wneir gan y clinigydd cyfrifol neu'r rheolwyr ysbyty o dan adran 23(2)(c) i ollwng claf cymunedol fod ar y ffurf a osodir yn Ffurflen CP 8 ac os caiff y gorchymyn ei wneud gan glinigydd cyfrifol y claf, rhaid ei gyflwyno i reolwyr yr ysbyty cyfrifol.
22.—(1) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl galw claf yn ei ôl o dan adran 17E, rhaid i reolwyr yr ysbyty cyfrifol gymryd camau rhesymol ymarferol i–
(a)peri i'r claf gael ei hysbysu, yn llafar ac yn ysgrifenedig fel ei gilydd, o ddarpariaethau'r Ddeddf y cedwir y claf yn gaeth odani am y tro ac effaith y darpariaethau hynny, a
(b)sicrhau bod y claf yn deall effaith, i'r graddau y mae'n berthnasol i achos y claf, adrannau 56 i 64 (cydsynio i driniaeth).
(2) Oni bai bod claf yn gofyn fel arall, pan fo—
(a)cyfnod triniaeth gymunedol y claf yn cael ei estyn yn unol ag adroddiad a ddarperir o dan adran 20A (cyfnod triniaeth gymunedol), rhaid i reolwyr yr ysbyty cyfrifol gymryd camau rhesymol ymarferol i beri i'r person (os oes un) y mae'n ymddangos iddynt mai ef yw perthynas agosaf y claf gael ei hysbysu o'r estyniad hwnnw cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl eu penderfyniad i beidio â gollwng y claf;
(b)yn rhinwedd adran 21B(7A) (cleifion a gymerir i gystodaeth neu sy'n dychwelyd ar ôl mwy nag 28 o ddiwrnodau) cyfnod triniaeth gymunedol claf yn cael ei estyn yn unol ag adroddiad a ddarperir o dan adran 21B(2), rhaid i reolwyr yr ysbyty cyfrifol gymryd camau rhesymol ymarferol i beri i'r person (os oes un) y mae'n ymddangos iddynt mai ef yw perthynas agosaf y claf gael ei hysbysu o'r estyniad hwnnw cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl eu penderfyniad i beidio â gollwng y claf;
(c)yn rhinwedd adran 21B(6A) a (6B) (cleifion a gymerir i gystodaeth neu sy'n dychwelyd ar ôl mwy nag 28 o ddiwrnodau) cyfnod triniaeth gymunedol claf yn cael ei estyn yn ôl-olygol yn unol ag adroddiad a ddarperir o dan adran 21B(2), rhaid i reolwyr yr ysbyty cyfrifol gymryd camau rhesymol ymarferol i beri i'r person (os oes un) y mae'n ymddangos iddynt mai ef yw perthynas agosaf y claf gael ei hysbysu o'r estyniad hwnnw cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddynt gael yr adroddiad hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: