- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
9.—(1) At ddibenion gwneud cais am warcheidiaeth o dan adran 7—
(a)rhaid i gais am warcheidiaeth fod ar y ffurf a osodir—
(i)pan fo wedi'i wneud gan y perthynas agosaf, yn Rhan 1 o Ffurflen GU 1,
(ii)pan fo wedi'i wneud gan weithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy, yn Rhan 1 o Ffurflen GU 2;
(b)pan fydd person sy'n cael ei enwi'n warcheidwad yn warcheidwad preifat, rhaid i'r datganiad gan y person hwnnw ei fod yn fodlon gweithredu fod ar y ffurf a osodir yn Rhan 2 o Ffurflen GU 1 neu, yn ôl y digwydd, Rhan 2 o Ffurflen GU 2;
(c)rhaid i unrhyw argymhelliad meddygol fod ar y ffurf a osodir —
(i)yn achos cydargymhelliad, yn Ffurflen GU 3,
(ii)mewn unrhyw achos arall, yn Ffurflen GU 4.
(2) At ddibenion unrhyw argymhelliad meddygol o dan adran 7 yn achos —
(a)argymhelliad unigol a wnaed mewn cysylltiad â chlaf y mae meddyg wedi'i archwilio yn Lloegr, rhaid i'r argymhelliad meddygol fod ar y ffurf sy'n ofynnol gan Reoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol at berwyl tebyg ar gyfer Lloegr;
(b)cydargymhellion a wnaed mewn cysylltiad â chlaf y mae'r ddau feddyg wedi'i archwilio yn Lloegr, rhaid i'r argymhelliad meddygol fod ar y ffurf sy'n ofynnol gan Reoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol at berwyl tebyg ar gyfer Lloegr;
(c)cydargymhellion a wnaed mewn cysylltiad â chlaf y mae un meddyg wedi'i archwilio yng Nghymru ac un meddyg wedi'i archwilio yn Lloegr, rhaid i'r argymhelliad meddygol fod ar y ffurf sy'n ofynnol gan y Rheoliadau hyn neu ar y ffurf sy'n ofynnol gan Reoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol at berwyl tebyg ar gyfer Lloegr.
(3) Pan fo cais a wnaed o dan adran 7 yn cael ei dderbyn gan yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol, rhaid iddo gofnodi'r ffaith ei fod wedi'i dderbyn ar y ffurf a osodir yn Ffurflen GU 5, gan gysylltu'r derbyniad hwnnw wrth y cais.
10. Rhaid i'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol drefnu i bob claf a dderbynnir i warcheidiaeth o dan y Ddeddf gael ymweliad bob hyn a hyn yn ôl penderfyniad yr awdurdod, ond —
(a)beth bynnag heb fod y cyfnodau rhwng ymweliadau yn hwy na 3 mis, a
(b)rhaid bod o leiaf un ymweliad o'r fath yn cael ei wneud gan glinigydd cymeradwy neu ymarferydd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion adran 12 (darpariaethau cyffredinol ynghylch argymhellion meddygol).
11.—(1) Mae'n ddyletswydd ar warcheidwad preifat i wneud y canlynol—
(a)penodi ymarferydd meddygol cofrestredig i weithredu fel meddyg enwebedig y claf;
(b)hysbysu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol o enw a chyfeiriad y meddyg enwebedig;
(c)wrth arfer y pwerau a'r dyletswyddau a roddwyd i'r gwarcheidwad preifat neu a osodwyd arno gan y Ddeddf a'r Rheoliadau hyn, gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau y bydd yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol yn eu rhoi;
(ch)darparu i'r awdurdod hwnnw yr holl adroddiadau neu wybodaeth arall am y claf a fydd yn ofynnol o bryd i'w gilydd gan yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol;
(d)hysbysu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol—
(i)adeg derbyn y claf i warcheidiaeth, o'i gyfeiriad ei hun a chyfeiriad y claf,
(ii)ac eithrio mewn achos y mae paragraff (dd) yn gymwys iddo, o unrhyw newid parhaol yn y naill gyfeiriad neu'r llall, cyn i'r newid ddigwydd, neu heb fod yn hwyrach na 7 niwrnod ar ôl i'r newid ddigwydd;
(dd)pan fo'r cyfeiriad newydd, adeg unrhyw newid parhaol yn ei gyfeiriad, yn ardal awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol gwahanol, hysbysu'r awdurdod hwnnw a'r awdurdod a fu'n gyfrifol yn flaenorol—
(i)o'i gyfeiriad ef a chyfeiriad y claf,
(ii)o'r manylion a grybwyllwyd ym mharagraff (b); ac
(e)os bydd y claf yn marw, neu'r warcheidiaeth yn cael ei therfynu drwy ollwng, trosglwyddo neu fel arall, hysbysu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol o hynny cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(2) Caniateir rhoi neu ddarparu mewn dull arall (yn ychwanegol at y dulliau o gyflwyno dogfennau y darparwyd ar eu cyfer gan reoliad 3(1)) unrhyw hysbysiad, adroddiadau neu wybodaeth arall o dan y rheoliad hwn y mae'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol perthnasol yn cytuno iddo, gan gynnwys yn llafar neu drwy gyfathrebiad electronig.
12. At ddibenion adnewyddu gwarcheidiaeth—
(a)rhaid i unrhyw adroddiad a wneir o dan adran 20(6) (adroddiad yn adnewyddu gwarcheidiaeth) fod ar y ffurf a osodir yn Rhan 1 o Ffurflen GU 6;
(b)rhaid i unrhyw adnewyddiad o awdurdod ar gyfer gwarcheidiaeth o dan adran 20(8) gael ei gofnodi gan yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol ar y ffurf a osodir yn Rhan 2 o Ffurflen GU 6.
13. O ran dychweliad claf sy'n destun gwarcheidiaeth ac a gymerir i gystodaeth neu sy'n dychwelyd ar ôl absenoldeb heb ganiatâd ar ôl mwy nag 28 o ddiwrnodau—
(a)rhaid i unrhyw adroddiad a wneir o dan adran 21B(2) (awdurdodiad am warcheidiaeth cleifion a gymerir i gystodaeth neu sy'n dychwelyd ar ôl mwy nag 28 o ddiwrnodau) fod ar y ffurf a osodir yn Rhan 1 o Ffurflen GU 7;
(b)rhaid i'r ffaith bod yr adroddiad hwnnw wedi dod i law gael ei chofnodi gan yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol ar y ffurf a osodir yn Rhan 2 o Ffurflen GU 7.
14. Rhaid i unrhyw orchymyn a wneir gan y clinigydd cyfrifol neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol o dan adran 23(2)(b) i ollwng claf sy'n destun gwarcheidiaeth o dan y Ddeddf fod ar y ffurf a nodir yn Ffurflen GU 8 ac os caiff y gorchymyn ei wneud gan glinigydd cyfrifol y claf rhaid i'r gorchymyn hwnnw gael ei gyflwyno i'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol.
15.—(1) Pan ddaw claf yn destun gwarcheidiaeth o dan y Ddeddf, rhaid i'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol gymryd camau ymarferol i beri bod y claf a'r person (os oes un) y mae'n ymddangos i'r awdurdod mai ef yw perthynas agosaf y claf yn cael eu hysbysu o'r hawliau y cyfeirir atynt yn mharagraff (2).
(2) Dyma'r hawliau—
(a)hawl y claf i wneud cais i Dribiwnlys o dan adran 66;
(b)hawl y perthynas agosaf, yn ôl y digwydd, i–
(i)gollwng y claf o dan adran 23, neu
(ii)gwneud cais i Dribiwnlys o dan adran 69 (pan fo claf yn destun gwarcheidiaeth o dan adran 37 neu pan fo'n cael ei drin fel petai'n destun y warcheidiaeth honno).
(3) Pan fo gwybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) —
(a)i gael ei rhoi i'r claf, rhaid iddi gael ei rhoi yn llafar ac yn ysgrifenedig fel ei gilydd;
(b)i gael ei rhoi i'r perthynas agosaf, rhaid iddi gael ei rhoi yn ysgrifenedig.
(4) Oni bai bod y claf yn gofyn fel arall, pan fo—
(a)gwarcheidiaeth claf yn cael ei hadnewyddu yn unol ag adroddiad a ddarperir o dan adran 20, rhaid i'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol gymryd camau rhesymol ymarferol i beri i'r person (os oes un) y mae'n ymddangos iddo mai ef yw perthynas agosaf y claf gael ei hysbysu o'r adnewyddiad hwnnw cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl penderfyniad yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol i beidio â gollwng y claf;
(b)yn rhinwedd adran 21B(7), gwarcheidiaeth claf yn cael ei hadnewyddu yn unol ag adroddiad a ddarperir o dan adran 21B(2), rhaid i'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol gymryd camau rhesymol ymarferol i beri i'r person (os oes un) y mae'n ymddangos iddo mai ef yw perthynas agosaf y claf gael ei hysbysu o'r adnewyddiad hwnnw cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl penderfyniad yr awdurdod gwasanaethau lleol cyfrifol i beidio â gollwng y claf;
(c)yn rhinwedd adran 21B(5) a (6), gwarcheidiaeth claf yn cael ei hadnewyddu yn ôl-olygol yn unol ag adroddiad a ddarperir o dan adran 21B(2), rhaid i'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol gymryd camau rhesymol ymarferol i beri i'r person (os oes un) y mae'n ymddangos iddo mai ef yw perthynas agosaf y claf gael ei hysbysu o'r adnewyddiad hwnnw cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol gael yr adroddiad hwnnw.
(5) Pan fo paragraff (4)(b) neu (c) yn gymwys, rhaid i'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, hysbysu'r gwarcheidwad preifat (os oes un) ei fod wedi cael adroddiad a ddarperir o dan adran 21B.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: