Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 2439 (Cy.212)

IECHYD MEDDWL, CYMRU

Rheoliadau Iechyd Meddwl (Ysbyty, Gwarcheidiaeth, Triniaeth Gymunedol a Chydsynio i Driniaeth) (Cymru) 2008

Gwnaed

15 Medi 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

17 Medi 2008

Yn dod i rym

3 Tachwedd 2008

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 9, 17F(2), 19(1) a (4), 19A, 32(1), (2) a (3), 57(1)(b), 58A(1)(b), 64(2), 64H(2) a 134(3A)(a) ac (8) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(1), ac ar ôl ymgynghori â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddynt eu bod yn ymwneud â hyn yn unol ag adran 57(4) a 58A(8), drwy hyn yn gwneud y rheoliadau canlynol—

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Meddwl (Ysbyty, Gwarcheidiaeth, Triniaeth Gymunedol a Chydsynio i Driniaeth) (Cymru) 2008, maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 3 Tachwedd 2008.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall —

  • mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000(2);

  • mae “cyflwyno” (“served”), mewn perthynas â dogfen, yn cynnwys ei chyfeirio, ei thraddodi, ei rhoi, ei hanfon ymlaen, ei darparu neu ei hanfon;

  • ystyr “diwrnod busnes” (“business day”) yw unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul neu ŵyl banc;

  • ystyr “dogfen” (“document”) yw unrhyw gais, argymhelliad, cofnod, adroddiad, gorchymyn, hysbysiad neu ddogfen arall;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Meddwl 1983;

  • ystyr “gwarcheidwad preifat” (“private guardian”), mewn perthynas â chlaf, yw person, ac eithrio awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol, sy'n gweithredu fel gwarcheidwad o dan y Ddeddf;

  • ystyr “gŵyl banc” (“bank holiday”) yw gŵyl banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol(3);

  • ystyr “ysbyty arbennig” (“special hospital”) yw ysbyty lle y darperir gwasanaethau seiciatrig tra diogel;

  • ystyr “tribiwnlys” (“tribunal”) yw Tribiwnlys Iechyd Meddwl Cymru neu'r Tribiwnlys Haen Gyntaf a sefydlwyd o dan Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007(4) yn ôl y digwydd.

(2Ac eithrio i'r graddau y mae'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at —

(a)adran â Rhif yn gyfeiriad at yr adran o'r Ddeddf sy'n dwyn y Rhif hwnnw;

(b)rheoliad â Rhif neu Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn, neu'r Atodlen iddynt, sy'n dwyn y Rhif hwnnw;

(c)paragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw sy'n dwyn y Rhif hwnnw;

(ch)ffurflen alffaniwmerig yn gyfeiriad at y ffurflen yn Atodlen 1 honno sy'n dwyn y dynodiad hwnnw.

Dogfennau

3.—(1Ac eithrio mewn achos y mae paragraffau (2), (3), (4) neu (5) yn gymwys iddo, caniateir i unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir ei chyflwyno i unrhyw awdurdod, corff neu berson gan neu o dan Ran 2 o'r Ddeddf (derbyniad gorfodol i ysbyty, gwarcheidiaeth a thriniaeth gymunedol o dan oruchwyliaeth) neu'r Rheoliadau hyn gael ei chyflwyno —

(a)drwy ei thraddodi i'r awdurdod, corff neu berson y mae i'w chyflwyno iddo; neu

(b)drwy ei thraddodi i unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi i'w chael gan yr awdurdod, y corff neu'r person hwnnw; neu

(c)drwy ei hanfon yn rhagdaledig drwy'r post a'i chyfeirio at —

(i)yr awdurdod neu'r corff yn ei swyddfa gofrestredig neu ei brif swyddfa, neu

(ii)y person y mae i'w chyflwyno iddo ym mhreswylfan arferol neu breswylfan hysbys ddiwethaf y person hwnnw; neu

(ch)drwy ei thraddodi gan ddefnyddio system post mewnol a ddefnyddir gan yr awdurdod, y corff neu'r person.

(2Rhaid i unrhyw gais am dderbyn claf i ysbyty o dan Ran 2 o'r Ddeddf gael ei gyflwyno drwy draddodi'r cais i un o swyddogion rheolwyr yr ysbyty, y cynigir bod y claf yn cael ei dderbyn iddo, sef swyddog a awdurdodwyd ganddynt i gael y cais hwnnw.

(3Pan fo claf yn agored i gael ei gadw'n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 2 o'r Ddeddf, rhaid cyflwyno—

(a)unrhyw orchymyn gan berthynas agosaf y claf o dan adran 23 i ollwng y claf, a

(b)yr hysbysiad o'r gorchymyn hwnnw o dan adran 25(1) —

(i)drwy draddodi'r gorchymyn neu'r hysbysiad yn yr ysbyty hwnnw i un o swyddogion y rheolwyr sydd wedi'i awdurdodi ganddynt i'w gael, neu

(ii)drwy ei anfon yn rhagdaledig drwy'r post at y rheolwyr hynny yn yr ysbyty hwnnw, neu

(iii)drwy ei draddodi gan ddefnyddio system post mewnol a weithredir gan y rheolwyr y mae i'w gyflwyno iddynt, os yw'r rheolwyr hynny'n cytuno.

(4Pan fo claf yn glaf cymunedol, rhaid cyflwyno—

(a)unrhyw orchymyn gan ei berthynas agosaf o dan adran 23(1A) i ollwng y claf, a

(b)yr hysbysiad o'r gorchymyn hwnnw a roddir o dan adran 25(1A) —

(i)drwy draddodi'r gorchymyn neu'r hysbysiad yn ysbyty cyfrifol y claf i un o swyddogion y rheolwyr sydd wedi'i awdurdodi ganddynt i'w gael, neu

(ii)drwy ei anfon yn rhagdaledig drwy'r post at y rheolwyr hynny yn yr ysbyty hwnnw, neu

(iii)drwy ei draddodi gan ddefnyddio system post mewnol a weithredir gan y rheolwyr y mae i'w gyflwyno iddynt, os yw'r rheolwyr hynny'n cytuno.

(5Rhaid cyflwyno unrhyw adroddiad a wneir o dan adran 5(2) (cadw claf yn gaeth sydd eisoes wedi bod yn yr ysbyty am 72 awr) drwy—

(a)ei draddodi i un o swyddogion rheolwyr yr ysbyty sydd wedi'i awdurdodi ganddynt i'w gael, neu

(b)ei draddodi gan ddefnyddio system post mewnol a weithredir gan y rheolwyr y mae i'w gyflwyno iddynt, os yw'r rheolwyr hynny'n cytuno.

(6Pan fo dogfen y cyfeirir ati yn y rheoliad hwn yn cael ei hanfon yn rhagdaledig drwy—

(a)post dosbarth cyntaf, bernir bod y cyflwyno wedi digwydd ar yr ail ddiwrnod busnes ar ôl y dyddiad postio;

(b)post ail ddosbarth, bernir bod y cyflwyno wedi digwydd ar y pedwerydd diwrnod busnes ar ôl ei phostio;

oni ddangosir i'r gwrthwyneb.

(7Pan fo dogfen o dan y rheoliad hwn wedi'i thraddodi gan ddefnyddio system post mewnol, bernir bod y cyflwyno wedi digwydd yr union adeg y cafodd ei thraddodi i'r system post mewnol.

(8Yn ddarostyngedig i adrannau 6(3) ac 8(3) (profi ceisiadau), caniateir i unrhyw ddogfen, sy'n ofynnol neu sydd wedi'i hawdurdodi gan neu o dan Ran 2 o'r Ddeddf neu'r Rheoliadau hyn ac sy'n honni ei bod wedi'i lofnodi gan berson y mae'n ofynnol iddo wneud hynny, neu y mae wedi'i awdurdodi i wneud hynny, gan neu o dan y Rhan honno neu'r Rheoliadau hyn, gael ei derbyn yn dystiolaeth ac i gael ei hystyried yn ddogfen o'r fath heb brawf pellach, oni phrofir y gwrthwyneb.

(9Bernir bod unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol iddi gael ei chyfeirio at reolwyr ysbyty'n unol â'r Ddeddf neu'r Rheoliadau hyn wedi'i chyfeirio'n briodol at y rheolwyr hynny os yw wedi'i chyfeirio at weinyddydd yr ysbyty hwnnw.

(10Pan fo'n ofynnol o dan Ran 2 o'r Ddeddf neu'r Rheoliadau hyn i reolwyr ysbyty wneud unrhyw gofnod neu adroddiad, caniateir i'r swyddogaeth honno gael ei chyflawni gan swyddog a awdurdodwyd gan y rheolwyr hynny yn y cyswllt hwnnw.

(11Pan fo'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn i gael cytundeb rheolwyr ysbyty ar gyfer penderfyniad i dderbyn cyflwyniad drwy ddull penodol, caniateir i'r cytundeb hwnnw gael ei roi gan swyddog a awdurdodwyd gan y rheolwyr hynny yn y cyswllt hwnnw.

RHAN 2Gweithdrefnau a Chofnodion ynghylch Derbyniadau i Ysbyty

Y weithdrefn ar gyfer derbyniadau i ysbyty a dull eu cofnodi

4.—(1At ddibenion derbyn i ysbyty o dan Ran 2 o'r Ddeddf —

(a)rhaid i unrhyw gais am dderbyniad i gael asesiad o dan adran 2 fod ar y ffurf a nodir—

(i)pan fo wedi'i wneud gan y perthynas agosaf, yn Ffurflen HO 1;

(ii)pan fo wedi'i wneud gan weithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy, yn Ffurflen HO 2;

(b)rhaid i unrhyw argymhellion meddygol at ddibenion adran 2 fod ar y ffurf a nodir–

(i)yn achos cydargymhellion, yn Ffurflen HO 3,

(ii)mewn unrhyw achos arall, yn Ffurflen HO 4;

(c)rhaid i unrhyw gais am dderbyniad i gael triniaeth o dan adran 3 fod ar y ffurf a nodir—

(i)pan fo wedi'i wneud gan y perthynas agosaf, yn Ffurflen HO 5,

(ii)pan fo wedi'i wneud gan weithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy, yn Ffurflen HO 6;

(ch)rhaid i unrhyw argymhellion meddygol at ddibenion adran 3 fod ar y ffurf a nodir–

(i)yn achos cydargymhellion, yn Ffurflen HO 7,

(ii)mewn unrhyw achos arall, yn Ffurflen HO 8;

(d)rhaid i unrhyw gais brys o dan adran 4 fod ar y ffurf a nodir—

(i)pan fo wedi'i wneud gan y perthynas agosaf, yn Ffurflen HO 9,

(ii)pan fo wedi'i wneud gan weithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy, yn Ffurflen HO 10;

(dd)rhaid i unrhyw argymhelliad meddygol at ddibenion adran 4 fod ar y ffurf a nodir yn Ffurflen HO 11;

(e)rhaid i unrhyw adroddiad a wneir o dan is-adran (2) o adran 5 (cadw claf yn gaeth sydd eisoes mewn ysbyty am 72 awr) gan

(i)yr ymarferydd meddygol cofrestredig neu'r clinigydd cymeradwy sydd â gofal dros driniaeth y claf, neu

(ii)unrhyw berson o'r fath a enwebir gan yr ymarferydd meddygol cofrestredig neu'r clinigydd cymeradwy i weithredu drostynt

fod ar y ffurf a nodir yn Rhan 1 o Ffurflen HO 12 a rhaid i reolwyr yr ysbyty gofnodi yn Rhan 2 o'r Ffurflen honno bod yr adroddiad hwnnw wedi dod i law;

(f)rhaid i unrhyw gofnod a wneir o dan is-adran (4) o adran 5 (pŵer i gadw claf mewnol yn gaeth am uchafswm o 6 awr) gan nyrs o'r dosbarth a ragnodir am y tro at ddibenion yr is-adran honno(5) fod ar y ffurf a nodir yn Ffurflen HO 13.

(2At ddibenion cywiro ceisiadau neu argymhellion o dan adran 15, caiff rheolwyr yr ysbyty y mae claf wedi'i dderbyn iddo'n unol â chais am asesiad neu am driniaeth awdurdodi mewn ysgrifen swyddog ar ran y rheolwyr hynny –

(a)i gydsynio o dan is-adran (1) o'r adran honno i ddiwygio'r cais neu unrhyw argymhelliad meddygol a roddir at ddibenion y cais;

(b)i ystyried pa mor ddigonol yw argymhelliad meddygol ac, os bernir bod yr argymhelliad yn annigonol, i roi hysbysiad ysgrifenedig fel sy'n ofynnol gan is-adran (2) o'r adran honno.

(3Pan fo claf wedi'i dderbyn i ysbyty yn unol â chais o dan adran 2, 3 neu 4, rhaid i hynny gael ei gofnodi gan reolwyr yr ysbyty hwnnw ar y ffurf a osodir yn Ffurflen HO 14 a chael ei gysylltu wrth y cais neu, yn ôl y digwydd, yr argymhelliad.

(4At ddibenion unrhyw argymhelliad meddygol o dan adrannau 2, 3 a 4 (derbyniad i gael asesiad, derbyniad i gael triniaeth a derbyniad i gael asesiad mewn achosion brys yn y drefn honno) yn achos —

(a)argymhelliad unigol a wnaed mewn cysylltiad â chlaf y mae meddyg wedi'i archwilio yn Lloegr, rhaid i'r argymhelliad meddygol fod ar y ffurf sy'n ofynnol gan Reoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol at berwyl tebyg ar gyfer Lloegr;

(b)cydargymhellion a wnaed mewn cysylltiad â chlaf y mae'r ddau feddyg wedi'i archwilio yn Lloegr, rhaid i'r argymhelliad meddygol fod ar y ffurf sy'n ofynnol gan Reoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol at berwyl tebyg ar gyfer Lloegr;

(c)cydargymhellion a wnaed mewn cysylltiad â chlaf y mae un meddyg wedi'i archwilio yng Nghymru ac un meddyg wedi'i archwilio yn Lloegr, rhaid i'r argymhelliad meddygol fod ar y ffurf sy'n ofynnol gan y Rheoliadau hyn neu ar y ffurf sy'n ofynnol gan Reoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol at berwyl tebyg ar gyfer Lloegr.

Adnewyddu awdurdod i gadw'n gaeth

5.  At ddibenion adnewyddu awdurdod i gadw claf yn gaeth a dderbyniwyd i ysbyty yn unol â chais am driniaeth—

(a)rhaid i unrhyw adroddiad a wnaed gan glinigydd cyfrifol at ddibenion adran 20(3) (argymhelliad meddygol i adnewyddu awdurdod i gadw'n gaeth) fod ar y ffurf a osodir yn Rhannau 1 a 3 o Ffurflen HO 15;

(b)rhaid i'r datganiad a wnaed gan berson sydd wedi bod yn ymwneud yn broffesiynol â thriniaeth feddygol y claf at ddibenion adran 20(5A) (cytundeb ag argymhelliad meddygol) fod ar y ffurf a nodir yn Rhan 2 o Ffurflen HO 15;

(c)rhaid i unrhyw adnewyddiad o awdurdod i gadw'n gaeth o dan adran 20(8) gael ei gofnodi gan reolwyr yr ysbyty lle y mae'r claf yn agored i gael ei gadw'n gaeth ar y ffurf a osodir yn Rhan 4 o Ffurflen HO 15.

Cadw'n gaeth ar ôl absenoldeb heb ganiatâd am fwy nag 28 o ddiwrnodau

6.  O ran claf sy'n agored i gael ei gadw'n gaeth ar ôl cael ei gymryd i gystodaeth neu ddychwelyd ar ôl absenoldeb heb ganiatâd am fwy nag 28 o ddiwrnodau—

(a)rhaid i unrhyw adroddiad a wneir o dan adran 21B(2) (awdurdod i gadw'n gaeth yn achos cleifion sy'n cael eu cymryd i gystodaeth neu sy'n dychwelyd ar ôl mwy nag 28 o ddiwrnodau) fod ar y ffurf a osodir yn Rhan 1 o Ffurflen HO 16;

(b)rhaid i'r ffaith bod yr adroddiad hwnnw wedi dod i law gael ei chofnodi gan reolwyr yr ysbyty lle y mae'r claf yn agored i gael ei gadw'n gaeth ar y ffurf a osodir yn Rhan 2 o Ffurflen HO 16.

Gollwng cleifion sy'n agored i gael eu cadw'n gaeth gan glinigwyr cyfrifol neu reolwyr ysbyty

7.  Rhaid i unrhyw orchymyn a wneir gan y clinigydd cyfrifol neu'r rheolwyr ysbyty o dan adran 23(2)(a) (gollwng cleifion) i ollwng claf sy'n agored i gael ei gadw'n gaeth o dan y Ddeddf fod ar y ffurf a osodir yn Ffurflen HO 17 ac os caiff y gorchymyn ei wneud gan glinigydd cyfrifol y claf, rhaid ei gyflwyno i reolwyr yr ysbyty lle y mae'r claf yn agored i gael ei gadw'n gaeth.

Darparu gwybodaeth – cleifion sy'n agored i gael eu cadw'n gaeth

8.  Oni fydd y claf yn gofyn fel arall, pan fo—

(a)cadwad claf yn gaeth yn cael ei adnewyddu'n unol ag adroddiad a ddarparwyd o dan adran 20 (hyd yr awdurdod), rhaid i reolwyr yr ysbyty cyfrifol gymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i beri i'r person (os oes un) y mae'n ymddangos iddynt mai ef yw perthynas agosaf y claf gael ei hysbysu o'r adnewyddiad hwnnw cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl eu penderfyniad i beidio â gollwng y claf;

(b)yn rhinwedd adran 21B(7) (cleifion a gymerir i gystodaeth neu sy'n dychwelyd ar ôl mwy na 28 o ddiwrnodau) cadwad claf yn gaeth yn cael ei adnewyddu yn unol ag adroddiad a ddarperir o dan adran 21B(2), rhaid i reolwyr yr ysbyty cyfrifol y mae'r claf yn agored i gael ei gadw'n gaeth ynddo gymryd y camau sy'n rhesymol ymarferol i beri i'r person (os oes un) y mae'n ymddangos iddynt mai ef yw perthynas agosaf y claf gael ei hysbysu o'r adnewyddiad hwnnw cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl eu penderfyniad i beidio â gollwng y claf;

(c)yn rhinwedd adran 21B(5) a (6) (cleifion a gymerir i gystodaeth neu sy'n dychwelyd ar ôl mwy na 28 o ddiwrnodau) cadwad claf yn gaeth yn cael ei adnewyddu yn ôl-olygol yn unol ag adroddiad a roddir o dan adran 21B(2), rhaid i reolwyr yr ysbyty y mae'r claf yn agored i gael ei gadw'n gaeth ynddo gymryd y camau sy'n rhesymol ymarferol i beri i'r person (os oes un) y mae'n ymddangos iddynt mai ef yw perthynas agosaf y claf gael ei hysbysu o'r adnewyddiad hwnnw cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddynt gael yr adroddiad hwnnw.

RHAN 3Y Gweithdrefnau a'r Cofnodion ynghylch Gwarcheidiaeth

Y weithdrefn ar gyfer ceisiadau am warcheidiaeth a dull eu derbyn

9.—(1At ddibenion gwneud cais am warcheidiaeth o dan adran 7—

(a)rhaid i gais am warcheidiaeth fod ar y ffurf a osodir—

(i)pan fo wedi'i wneud gan y perthynas agosaf, yn Rhan 1 o Ffurflen GU 1,

(ii)pan fo wedi'i wneud gan weithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy, yn Rhan 1 o Ffurflen GU 2;

(b)pan fydd person sy'n cael ei enwi'n warcheidwad yn warcheidwad preifat, rhaid i'r datganiad gan y person hwnnw ei fod yn fodlon gweithredu fod ar y ffurf a osodir yn Rhan 2 o Ffurflen GU 1 neu, yn ôl y digwydd, Rhan 2 o Ffurflen GU 2;

(c)rhaid i unrhyw argymhelliad meddygol fod ar y ffurf a osodir —

(i)yn achos cydargymhelliad, yn Ffurflen GU 3,

(ii)mewn unrhyw achos arall, yn Ffurflen GU 4.

(2At ddibenion unrhyw argymhelliad meddygol o dan adran 7 yn achos —

(a)argymhelliad unigol a wnaed mewn cysylltiad â chlaf y mae meddyg wedi'i archwilio yn Lloegr, rhaid i'r argymhelliad meddygol fod ar y ffurf sy'n ofynnol gan Reoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol at berwyl tebyg ar gyfer Lloegr;

(b)cydargymhellion a wnaed mewn cysylltiad â chlaf y mae'r ddau feddyg wedi'i archwilio yn Lloegr, rhaid i'r argymhelliad meddygol fod ar y ffurf sy'n ofynnol gan Reoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol at berwyl tebyg ar gyfer Lloegr;

(c)cydargymhellion a wnaed mewn cysylltiad â chlaf y mae un meddyg wedi'i archwilio yng Nghymru ac un meddyg wedi'i archwilio yn Lloegr, rhaid i'r argymhelliad meddygol fod ar y ffurf sy'n ofynnol gan y Rheoliadau hyn neu ar y ffurf sy'n ofynnol gan Reoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol at berwyl tebyg ar gyfer Lloegr.

(3Pan fo cais a wnaed o dan adran 7 yn cael ei dderbyn gan yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol, rhaid iddo gofnodi'r ffaith ei fod wedi'i dderbyn ar y ffurf a osodir yn Ffurflen GU 5, gan gysylltu'r derbyniad hwnnw wrth y cais.

Ymweliadau â chleifion sy'n destun gwarcheidiaeth

10.  Rhaid i'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol drefnu i bob claf a dderbynnir i warcheidiaeth o dan y Ddeddf gael ymweliad bob hyn a hyn yn ôl penderfyniad yr awdurdod, ond —

(a)beth bynnag heb fod y cyfnodau rhwng ymweliadau yn hwy na 3 mis, a

(b)rhaid bod o leiaf un ymweliad o'r fath yn cael ei wneud gan glinigydd cymeradwy neu ymarferydd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion adran 12 (darpariaethau cyffredinol ynghylch argymhellion meddygol).

Dyletswyddau gwarcheidwaid preifat

11.—(1Mae'n ddyletswydd ar warcheidwad preifat i wneud y canlynol—

(a)penodi ymarferydd meddygol cofrestredig i weithredu fel meddyg enwebedig y claf;

(b)hysbysu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol o enw a chyfeiriad y meddyg enwebedig;

(c)wrth arfer y pwerau a'r dyletswyddau a roddwyd i'r gwarcheidwad preifat neu a osodwyd arno gan y Ddeddf a'r Rheoliadau hyn, gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau y bydd yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol yn eu rhoi;

(ch)darparu i'r awdurdod hwnnw yr holl adroddiadau neu wybodaeth arall am y claf a fydd yn ofynnol o bryd i'w gilydd gan yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol;

(d)hysbysu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol—

(i)adeg derbyn y claf i warcheidiaeth, o'i gyfeiriad ei hun a chyfeiriad y claf,

(ii)ac eithrio mewn achos y mae paragraff (dd) yn gymwys iddo, o unrhyw newid parhaol yn y naill gyfeiriad neu'r llall, cyn i'r newid ddigwydd, neu heb fod yn hwyrach na 7 niwrnod ar ôl i'r newid ddigwydd;

(dd)pan fo'r cyfeiriad newydd, adeg unrhyw newid parhaol yn ei gyfeiriad, yn ardal awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol gwahanol, hysbysu'r awdurdod hwnnw a'r awdurdod a fu'n gyfrifol yn flaenorol—

(i)o'i gyfeiriad ef a chyfeiriad y claf,

(ii)o'r manylion a grybwyllwyd ym mharagraff (b); ac

(e)os bydd y claf yn marw, neu'r warcheidiaeth yn cael ei therfynu drwy ollwng, trosglwyddo neu fel arall, hysbysu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol o hynny cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

(2Caniateir rhoi neu ddarparu mewn dull arall (yn ychwanegol at y dulliau o gyflwyno dogfennau y darparwyd ar eu cyfer gan reoliad 3(1)) unrhyw hysbysiad, adroddiadau neu wybodaeth arall o dan y rheoliad hwn y mae'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol perthnasol yn cytuno iddo, gan gynnwys yn llafar neu drwy gyfathrebiad electronig.

Adnewyddu gwarcheidiaeth

12.  At ddibenion adnewyddu gwarcheidiaeth—

(a)rhaid i unrhyw adroddiad a wneir o dan adran 20(6) (adroddiad yn adnewyddu gwarcheidiaeth) fod ar y ffurf a osodir yn Rhan 1 o Ffurflen GU 6;

(b)rhaid i unrhyw adnewyddiad o awdurdod ar gyfer gwarcheidiaeth o dan adran 20(8) gael ei gofnodi gan yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol ar y ffurf a osodir yn Rhan 2 o Ffurflen GU 6.

Gwarcheidiaeth ar ôl absenoldeb heb ganiatâd am fwy nag 28 o ddiwrnodau

13.  O ran dychweliad claf sy'n destun gwarcheidiaeth ac a gymerir i gystodaeth neu sy'n dychwelyd ar ôl absenoldeb heb ganiatâd ar ôl mwy nag 28 o ddiwrnodau—

(a)rhaid i unrhyw adroddiad a wneir o dan adran 21B(2) (awdurdodiad am warcheidiaeth cleifion a gymerir i gystodaeth neu sy'n dychwelyd ar ôl mwy nag 28 o ddiwrnodau) fod ar y ffurf a osodir yn Rhan 1 o Ffurflen GU 7;

(b)rhaid i'r ffaith bod yr adroddiad hwnnw wedi dod i law gael ei chofnodi gan yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol ar y ffurf a osodir yn Rhan 2 o Ffurflen GU 7.

Gollwng cleifion sy'n destun gwarcheidiaeth gan glinigwyr cyfrifol neu awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol

14.  Rhaid i unrhyw orchymyn a wneir gan y clinigydd cyfrifol neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol o dan adran 23(2)(b) i ollwng claf sy'n destun gwarcheidiaeth o dan y Ddeddf fod ar y ffurf a nodir yn Ffurflen GU 8 ac os caiff y gorchymyn ei wneud gan glinigydd cyfrifol y claf rhaid i'r gorchymyn hwnnw gael ei gyflwyno i'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol.

Darparu gwybodaeth – cleifion sy'n destun gwarcheidiaeth

15.—(1Pan ddaw claf yn destun gwarcheidiaeth o dan y Ddeddf, rhaid i'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol gymryd camau ymarferol i beri bod y claf a'r person (os oes un) y mae'n ymddangos i'r awdurdod mai ef yw perthynas agosaf y claf yn cael eu hysbysu o'r hawliau y cyfeirir atynt yn mharagraff (2).

(2Dyma'r hawliau—

(a)hawl y claf i wneud cais i Dribiwnlys o dan adran 66;

(b)hawl y perthynas agosaf, yn ôl y digwydd, i–

(i)gollwng y claf o dan adran 23, neu

(ii)gwneud cais i Dribiwnlys o dan adran 69 (pan fo claf yn destun gwarcheidiaeth o dan adran 37 neu pan fo'n cael ei drin fel petai'n destun y warcheidiaeth honno).

(3Pan fo gwybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) —

(a)i gael ei rhoi i'r claf, rhaid iddi gael ei rhoi yn llafar ac yn ysgrifenedig fel ei gilydd;

(b)i gael ei rhoi i'r perthynas agosaf, rhaid iddi gael ei rhoi yn ysgrifenedig.

(4Oni bai bod y claf yn gofyn fel arall, pan fo—

(a)gwarcheidiaeth claf yn cael ei hadnewyddu yn unol ag adroddiad a ddarperir o dan adran 20, rhaid i'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol gymryd camau rhesymol ymarferol i beri i'r person (os oes un) y mae'n ymddangos iddo mai ef yw perthynas agosaf y claf gael ei hysbysu o'r adnewyddiad hwnnw cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl penderfyniad yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol i beidio â gollwng y claf;

(b)yn rhinwedd adran 21B(7), gwarcheidiaeth claf yn cael ei hadnewyddu yn unol ag adroddiad a ddarperir o dan adran 21B(2), rhaid i'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol gymryd camau rhesymol ymarferol i beri i'r person (os oes un) y mae'n ymddangos iddo mai ef yw perthynas agosaf y claf gael ei hysbysu o'r adnewyddiad hwnnw cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl penderfyniad yr awdurdod gwasanaethau lleol cyfrifol i beidio â gollwng y claf;

(c)yn rhinwedd adran 21B(5) a (6), gwarcheidiaeth claf yn cael ei hadnewyddu yn ôl-olygol yn unol ag adroddiad a ddarperir o dan adran 21B(2), rhaid i'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol gymryd camau rhesymol ymarferol i beri i'r person (os oes un) y mae'n ymddangos iddo mai ef yw perthynas agosaf y claf gael ei hysbysu o'r adnewyddiad hwnnw cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol gael yr adroddiad hwnnw.

(5Pan fo paragraff (4)(b) neu (c) yn gymwys, rhaid i'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, hysbysu'r gwarcheidwad preifat (os oes un) ei fod wedi cael adroddiad a ddarperir o dan adran 21B.

RHAN 4Y Gweithdrefnau a'r Cofnodion ynghylch Triniaeth Gymunedol

Y gweithdrefnau ar gyfer, a chofnodion ynghylch, gorchmynion triniaeth gymunedol

16.—(1At ddibenion gwneud gorchmynion triniaeth gymunedol o dan adran 17A ac ychwanegu amodau atynt o dan adran 17B—

(a)rhaid i unrhyw orchymyn a wneir gan y clinigydd cyfrifol o dan adran 17A(1) fod ar y ffurf a osodir yn Rhannau 1 a 3 o Ffurflen CP 1;

(b)rhaid i'r amodau a bennir yn y gorchymyn o dan adran 17B(3) ac unrhyw amodau eraill o dan adran 17B(2) fod ar y ffurf gymwys a osodir yn Rhan 1 o Ffurflen CP 1;

(c)rhaid i unrhyw ddatganiad gan weithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy a wneir o dan adran 17A(4) neu, yn ôl y digwydd, adran 17B(2) fod ar y ffurf gymwys a osodir yn Rhan 2 o Ffurflen CP 1;

(ch)rhaid i unrhyw orchymyn triniaeth gymunedol gael ei ddarparu i reolwyr yr ysbyty cyfrifol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

(2Rhaid i unrhyw amrywiad o'r amodau a bennir mewn gorchymyn triniaeth gymunedol o dan adran 17B(4) gael ei gofnodi ar y ffurf a osodir yn Ffurflen CP 2 a rhaid darparu'r gorchymyn sy'n amrywio'r amodau yn y modd hwnnw i reolwyr yr ysbyty cyfrifol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

Estyn cyfnodau triniaeth gymunedol

17.  At ddibenion estyn cyfnodau triniaeth gymunedol o dan adran 20A—

(a)rhaid i unrhyw adroddiad a wneir gan glinigydd cyfrifol o dan adran 20A(4) fod ar y ffurf a osodir yn Rhannau 1 a 3 o Ffurflen CP 3;

(b)rhaid i unrhyw ddatganiad gan weithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy a wneir o dan adran 20A(8) fod ar y ffurf a osodir yn Rhan 2 o Ffurflen CP 3;

(c)rhaid i unrhyw estyniad o gyfnod triniaeth gymunedol o dan adran 20A(3) gael ei gofnodi gan reolwyr yr ysbyty cyfrifol ar y ffurf a osodir yn Rhan 4 o Ffurflen CP 3.

Triniaeth gymunedol ar ôl absenoldeb heb ganiatâd am fwy nag 28 o ddiwrnodau

18.  O ran dychweliad claf cymunedol a gymerir i gystodaeth neu sy'n dychwelyd ar ôl absenoldeb heb ganiatâd ar ôl mwy nag 28 o ddiwrnodau—

(a)rhaid i unrhyw adroddiad a wneir o dan adran 21B(2) fod ar y ffurf a osodir yn Rhan 1 o Ffurflen CP 4;

(b)rhaid i'r ffaith bod yr adroddiad hwnnw wedi dod i law gael ei chofnodi gan reolwyr yr ysbyty cyfrifol ar y ffurf a osodir yn Rhan 2 o Ffurflen CP 4.

Galw cleifion cymunedol yn eu hôl a'u rhyddhau

19.—(1At ddibenion galw claf yn ei ôl i'r ysbyty o dan adran 17E(1)—

(a)rhaid i hysbysiad o dan adran 17E(5) gan glinigydd cyfrifol fod ar y ffurf a osodir yn Ffurflen CP 5.

(b)rhaid i'r clinigydd cyfrifol ddarparu copi o'r hysbysiad i reolwyr yr ysbyty cyfrifol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol;

(c)pan fo'r claf yn cael ei alw yn ei ôl i ysbyty ac nad hwnnw yw'r ysbyty cyfrifol, rhaid i'r clinigydd cyfrifol—

(i)darparu copi o'r hysbysiad i reolwyr yr ysbyty hwnnw, a

(ii)hysbysu'r rheolwyr hynny o enw a chyfeiriad yr ysbyty cyfrifol ; ac

(ch)rhaid i reolwyr yr ysbyty y mae'r claf yn cael ei alw'n ôl iddo gofnodi amser a dyddiad cadwad y claf yn gaeth yn unol â'r hysbysiad hwnnw ar y ffurf a osodir yn Rhan 1 o Ffurflen CP 6.

(2O ran rhyddhau claf cymunedol a alwyd yn ei ôl i'r ysbyty o dan adran 17F(5), rhaid i'r clinigydd cyfrifol hysbysu rheolwyr yr ysbyty cyfrifol o unrhyw ryddhau o'r fath a rhaid i'r rheolwyr hynny gofnodi amser a dyddiad rhyddhau'r claf ar y ffurf a osodir yn Rhan 2 o Ffurflen CP 6.

(3Pan fo ysbyty cyfrifol y claf yn Lloegr rhaid cyflawni galwad y claf yn ei ôl yn unol â Rheoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol at berwyl tebyg ar gyfer Lloegr.

(4Rhaid i hysbysiad gan glinigydd cyfrifol sy'n galw claf yn ei ôl i'r ysbyty at ddibenion adran 17E (pŵer i alw claf cymunedol yn ôl i'r ysbyty) yn Ffurflen CP 5 gael ei gyflwyno drwy—

(a)ei draddodi â llaw i'r claf,

(b)ei draddodi â llaw i gyfeiriad arferol y claf neu ei gyfeiriad hysbys diwethaf, neu

(c)ei anfon yn rhagdaledig drwy bost dosbarth cyntaf wedi ei gyfeirio at y claf yng nghyfeiriad arferol y claf neu yng nghyfeiriad hysbys diwethaf y claf.

(5Ystyrir bod hysbysiad galw yn ôl yn Ffurflen CP 5 wedi ei gyflwyno—

(a)yn achos paragraff 4(a) unwaith bod yr hysbysiad wedi ei draddodi i'r claf;

(b)yn achos paragraff 4(b), ar y diwrnod (nad oes rhaid iddo fod yn ddiwrnod busnes) ar ôl iddo gael ei draddodi;

(c)yn achos paragraff 4(c), ar yr ail ddiwrnod busnes ar ôl iddo gael ei bostio.

Dirymu gorchmynion triniaeth gymunedol

20.  At ddibenion dirymu gorchymyn triniaeth gymunedol o dan adran 17F(4) (pwerau mewn cysylltiad â chleifion a alwyd yn eu hôl)—

(a)rhaid i orchymyn, gan glinigydd cyfrifol, sy'n dirymu gorchymyn triniaeth gymunedol fod ar y ffurf a osodir yn Rhannau 1 a 3 o Ffurflen CP 7;

(b)rhaid i unrhyw ddatganiad gan weithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy a wnaed o dan adran 17F(4)(b) fod ar y ffurf a osodir yn Rhan 2 o Ffurflen CP 7;

(c)rhaid i'r clinigydd cyfrifol ddarparu'r gorchymyn dirymu i reolwyr yr ysbyty y mae'r claf wedi'i alw yn ei ôl iddo;

(ch)pan fo'r claf wedi'i alw yn ei ôl i ysbyty ac nad hwnnw yw'r ysbyty cyfrifol, rhaid i'r clinigydd cyfrifol (cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol) ddarparu i reolwyr yr ysbyty a oedd yr ysbyty cyfrifol am y claf cyn dirymu gorchymyn triniaeth gymunedol y claf gopi o'r gorchymyn dirymu hwnnw;

(d)rhaid i reolwyr yr ysbyty y mae'r claf yn cael ei gadw yn gaeth ynddo wrth ddirymu'r gorchymyn triniaeth gymunedol gofnodi'r ffaith bod copi o'r gorchymyn dirymu wedi dod i law ac amser a dyddiad y dirymiad ar y ffurf a osodir yn Rhan 4 o Ffurflen CP 7.

Gollwng cleifion cymunedol gan glinigwyr cyfrifol neu reolwyr ysbyty

21.  Rhaid i unrhyw orchymyn a wneir gan y clinigydd cyfrifol neu'r rheolwyr ysbyty o dan adran 23(2)(c) i ollwng claf cymunedol fod ar y ffurf a osodir yn Ffurflen CP 8 ac os caiff y gorchymyn ei wneud gan glinigydd cyfrifol y claf, rhaid ei gyflwyno i reolwyr yr ysbyty cyfrifol.

Darparu gwybodaeth – cleifion cymunedol

22.—(1Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl galw claf yn ei ôl o dan adran 17E, rhaid i reolwyr yr ysbyty cyfrifol gymryd camau rhesymol ymarferol i–

(a)peri i'r claf gael ei hysbysu, yn llafar ac yn ysgrifenedig fel ei gilydd, o ddarpariaethau'r Ddeddf y cedwir y claf yn gaeth odani am y tro ac effaith y darpariaethau hynny, a

(b)sicrhau bod y claf yn deall effaith, i'r graddau y mae'n berthnasol i achos y claf, adrannau 56 i 64 (cydsynio i driniaeth).

(2Oni bai bod claf yn gofyn fel arall, pan fo—

(a)cyfnod triniaeth gymunedol y claf yn cael ei estyn yn unol ag adroddiad a ddarperir o dan adran 20A (cyfnod triniaeth gymunedol), rhaid i reolwyr yr ysbyty cyfrifol gymryd camau rhesymol ymarferol i beri i'r person (os oes un) y mae'n ymddangos iddynt mai ef yw perthynas agosaf y claf gael ei hysbysu o'r estyniad hwnnw cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl eu penderfyniad i beidio â gollwng y claf;

(b)yn rhinwedd adran 21B(7A) (cleifion a gymerir i gystodaeth neu sy'n dychwelyd ar ôl mwy nag 28 o ddiwrnodau) cyfnod triniaeth gymunedol claf yn cael ei estyn yn unol ag adroddiad a ddarperir o dan adran 21B(2), rhaid i reolwyr yr ysbyty cyfrifol gymryd camau rhesymol ymarferol i beri i'r person (os oes un) y mae'n ymddangos iddynt mai ef yw perthynas agosaf y claf gael ei hysbysu o'r estyniad hwnnw cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl eu penderfyniad i beidio â gollwng y claf;

(c)yn rhinwedd adran 21B(6A) a (6B) (cleifion a gymerir i gystodaeth neu sy'n dychwelyd ar ôl mwy nag 28 o ddiwrnodau) cyfnod triniaeth gymunedol claf yn cael ei estyn yn ôl-olygol yn unol ag adroddiad a ddarperir o dan adran 21B(2), rhaid i reolwyr yr ysbyty cyfrifol gymryd camau rhesymol ymarferol i beri i'r person (os oes un) y mae'n ymddangos iddynt mai ef yw perthynas agosaf y claf gael ei hysbysu o'r estyniad hwnnw cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddynt gael yr adroddiad hwnnw.

RHAN 5Trosglwyddo a Chludo

Trosglwyddo o ysbyty i ysbyty neu warcheidiaeth

23.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw glaf y mae adran 19(1)(a) fel y'i diwygiwyd gan Atodlen 1 i'r Ddeddf yn gymwys iddo (“claf ysbyty”), nad yw'n glaf a drosglwyddir o dan —

(a)adran 19(3) (trosglwyddo rhwng ysbytai o dan yr un rheolwyr), neu

(b)adran 123(1) a (2) (trosglwyddiadau rhwng ysbytai arbennig ac ohonynt).

(2Caniateir i glaf ysbyty gael ei drosglwyddo i ysbyty arall—

(a)pan fo awdurdod ar gyfer trosglwyddo ar y ffurf a osodir yn Rhan 1 o Ffurflen TC 1 yn cael ei roi gan reolwyr yr ysbyty y mae'r claf yn agored i gael ei gadw'n gaeth ynddo; a

(b)pan fo'r rheolwyr hynny yn fodlon bod trefniadau wedi'u gwneud i dderbyn y claf i'r ysbyty y bwriedir ei drosglwyddo iddo.

(3Wedi i'r claf hwnnw gael ei drosglwyddo, rhaid i reolwyr yr ysbyty y mae wedi'i drosglwyddo iddo gofnodi derbyniad y claf ar y ffurf a osodir yn Rhan 2 o Ffurflen TC 1.

(4Caniateir i glaf ysbyty gael ei drosglwyddo i warcheidiaeth awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol, neu unrhyw berson a gymeradwywyd gan awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol, os yw—

(a)awdurdod ar gyfer trosglwyddiad ar y ffurf a osodir yn Rhan 1 o Ffurflen TC 2 wedi'i roi gan reolwyr yr ysbyty y mae'r claf yn agored i gael ei gadw'n gaeth ynddo;

(b)y trosglwyddiad wedi'i gytuno gan yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol, a fydd yr awdurdod sy'n gyfrifol os daw'r trosglwyddiad arfaethedig yn weithredo,;

(c)yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol hwnnw wedi pennu ar ba ddyddiad y bydd y trosglwyddo'n digwydd; a

(ch)pan fydd y person a enwir yn yr awdurdod ar gyfer trosglwyddiad fel gwarcheidwad yn berson preifat, cytundeb y person hwnnw wedi'i sicrhau a'i gofnodi ar y ffurf a osodir yn Rhan 2 o Ffurflen TC 2.

(5Wedi i'r claf hwnnw gael ei drosglwyddo rhaid i'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol gofnodi trosglwyddiad y claf ar y ffurf a osodir yn Rhan 3 o Ffurflen TC 2.

(6Pan fo claf ysbyty yn cael ei gadw'n gaeth mewn sefydliad cofrestredig—

(a)caniateir iddo gael ei drosglwyddo o'r sefydliad hwnnw i sefydliad cofrestredig arall pan fo'r ddau sefydliad o dan reolaeth yr un rheolwyr, ac ni fydd paragraff (2) yn gymwys.

(b)os yw'n cael ei gynnal o dan gontract gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Bwrdd Iechyd Lleol, Awdurdod Iechyd Strategol, Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG, Awdurdod Iechyd Arbennig neu Weinidogion Cymru, caniateir i unrhyw awdurdod ar gyfer trosglwyddiad sy'n ofynnol o dan baragraff (2)(a) neu, yn ôl y digwydd, (4)(a) gael ei roi gan swyddog a awdurdodwyd yn briodol i'r ymddiriedolaeth honno, i'r bwrdd hwnnw, neu i'r awdurdod hwnnw, yn lle gan y rheolwyr, neu, yn ôl y digwydd, Gweinidogion Cymru yn lle'r rheolwyr.

(7Yn y rheoliad hwn, caniateir i swyddogaethau'r rheolwyr gael eu cyflawni gan swyddog a awdurdodwyd ganddynt yn y cyswllt hwnnw.

(8Pan fo amodau paragraffau (2) neu (4), yn ôl y digwydd, wedi'u bodloni, rhaid i waith trosglwyddo'r claf gael ei gyflawni o fewn 28 o ddiwrnodau i ddyddiad yr awdurdod fel y darperir ar ei gyfer o dan is-baragraff (a) o baragraffau (2) neu (4) ac yn niffyg hynny bydd yr awdurdod dros y trosglwyddo yn peidio.

Trosglwyddo o warcheidiaeth i warcheidiaeth neu ysbyty

24.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw glaf sydd am y tro yn destun gwarcheidiaeth o dan y Ddeddf (“claf gwarcheidiaeth”).

(2Caniateir i glaf gwarcheidiaeth gael ei drosglwyddo i warcheidiaeth awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol arall neu berson arall os yw—

(a)awdurdod ar gyfer trosglwyddo wedi'i roi gan y gwarcheidwad ar y ffurf a osodir yn Rhan 1 o Ffurflen TC 3;

(b)y trosglwyddiad wedi'i gytuno gan yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol, a fydd yr awdurdod cyfrifol os daw'r trosglwyddiad arfaethedig yn weithredol;

(c)yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol hwnnw wedi pennu ar ba ddyddiad y bydd y trosglwyddo'n digwydd; ac

(ch)pan fydd y person a enwir yn warcheidwad arfaethedig yn yr awdurdod ar gyfer trosglwyddo yn berson preifat, cytundeb y person hwnnw wedi'i sicrhau a'i gofnodi ar y ffurf a osodir yn Rhan 2 o Ffurflen TC 3.

(3Wedi i'r claf hwnnw gael ei drosglwyddo, rhaid i'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol sy'n gyfrifol gofnodi trosglwyddiad gwarcheidiaeth y claf ar y ffurf a osodir yn Rhan 3 o Ffurflen TC 3.

(4Caniateir i'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol roi awdurdod i drosglwyddo claf gwarcheidiaeth i ysbyty ar y ffurf a osodir yn Rhan 1 o Ffurflen TC 4 os yw—

(a)cais am dderbyniad i gael triniaeth wedi'i wneud gan weithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy ar y ffurf a osodir yn Ffurflen HO 6 ac, at ddibenion y cais hwnnw, bydd adrannau 11(4) (ymgynghori â'r perthynas agosaf) a 13 (dyletswydd gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy) yn gymwys fel petai'r trosglwyddiad arfaethedig yn gais am dderbyniad i gael triniaeth;

(b)cais am dderbyniad i gael triniaeth wedi'i wneud gan y perthynas agosaf ar y ffurf a osodir yn Ffurflen HO 5;

(c)y cais wedi'i seilio ar argymhellion meddygol a roddwyd gan ddau ymarferydd meddygol cofrestredig yn unol ag adran 12 a rheoliad 4(1)(ch);

(ch)yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol wedi'i fodloni bod trefniadau wedi'u gwneud i dderbyn y claf i'r ysbyty hwnnw.

(5Wedi i'r claf hwnnw gael ei drosglwyddo i'r ysbyty, rhaid i gofnod o'i dderbyn gael ei wneud gan reolwyr yr ysbyty y mae'r claf wedi'i drosglwyddo iddo ar y ffurf a osodir yn Rhan 2 o Ffurflen TC 4 .

(6Caniateir i swyddogaethau'r rheolwyr y cyfeiriwyd atynt yn y rheoliad hwn gael eu cyflawni gan swyddog a awdurdodwyd ganddynt yn y cyswllt hwnnw.

(7Pan fo amodau paragraff (2) wedi'u bodloni, rhaid i waith trosglwyddo'r claf gael ei gyflawni o fewn 28 o ddiwrnodau i ddyddiad yr awdurdod fel y darperir ar ei gyfer o dan is-baragraff (a) o baragraff (2), ac yn niffyg hynny bydd y claf yn aros yng ngwarcheidiaeth y gwarcheidwad cychwynnol.

(8Pan fo amodau paragraff (4) wedi'u bodloni, rhaid i waith trosglwyddo'r claf gael ei gyflawni o fewn 14 o ddiwrnodau i'r dyddiad y cafodd y claf ei archwilio ddiwethaf, ac yn niffyg hynny bydd y claf yn aros yn destun gwarcheidiaeth.

Aseinio cyfrifoldeb dros gleifion cymunedol

25.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw glaf sydd am y tro yn glaf cymunedol.

(2Caniateir i gyfrifoldeb dros glaf cymunedol gael ei aseinio i ysbyty arall o dan reolaeth wahanol i'r ysbyty cyfrifol (“ysbyty arall”) pan fo–

(a)awdurdod ar gyfer ei aseinio ar y ffurf a osodir yn Rhan 1 o Ffurflen TC 5 yn cael ei roi gan reolwyr yr ysbyty cyfrifol sy'n aseinio cyn ei aseinio;

(b)y rheolwyr hynny wedi'u bodloni bod trefniadau wedi'u gwneud i aseinio'r cyfrifoldeb dros y claf i'r ysbyty arall o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar ddyddiad yr awdurdod i'w aseinio;

(c)adeg yr aseinio, rhaid i reolwyr yr ysbyty arall gofnodi'r aseiniad ar y ffurf a osodir yn Rhan 2 o Ffurflen TC 5.

(3Pan fo amodau paragraff (2) wedi'u bodloni, rhaid i waith aseinio'r cyfrifoldeb gael ei gyflawni o fewn 28 o ddiwrnodau i ddyddiad yr awdurdod fel y darperir ar ei gyfer o dan is-baragraff (a) o'r paragraff hwnnw, ac yn niffyg hynny bydd y cyfrifoldeb dros y gorchymyn triniaeth gymunedol yn parhau i berthyn i'r ysbyty a oedd yn gyfrifol felly cyn yr aseiniad.

(4Caniateir i'r cyfrifoldeb dros glaf cymunedol y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo gael ei aseinio i ysbyty arall sy'n cael ei reoli gan yr un rheolwyr ysbyty, ac os felly, ni fydd darpariaethau paragraffau (2) a (3) a rheoliad 32(b) yn gymwys.

(5Pan fo cyfrifoldeb dros glaf yn cael ei aseinio o ysbyty cyfrifol sydd yn sefydliad cofrestredig i ysbyty arall o dan reolaeth wahanol i'r ysbyty sy'n aseinio a phan fo'r claf yn cael ei gynnal o dan gontract gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Bwrdd Iechyd Lleol, Awdurdod Iechyd Strategol, Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG, Awdurdod Iechyd Arbennig neu Weinidogion Cymru caniateir rhoi'r awdurdod dros yr aseinio sy'n ofynnol o dan baragraff (2)(a) gan swyddog a awdurdodwyd yn briodol i'r ymddiriedolaeth honno, i'r bwrdd hwnnw neu i'r awdurdod hwnnw neu gan Weinidogion Cymru yn lle'r rheolwyr.

(6Caniateir i swyddogaethau'r rheolwyr y cyfeirir atynt yn y rheoliad hwn gael eu cyflawni gan swyddog a awdurdodwyd ganddynt yn y cyswllt hwnnw.

Trosglwyddo cleifion a alwyd yn eu hôl i ysbyty

26.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw glaf sydd am y tro yn cael ei alw yn ei ôl o fod yn destun gorchymyn triniaeth gymunedol o dan adran 17E.

(2Pan nad yw'r ysbyty y galwyd y claf yn ei ôl iddo o dan yr un rheolaeth â'r ysbyty y trosglwyddir y claf iddo, ni chaniateir i'r trosglwyddiad ddigwydd ond os yw'r gofynion ym mharagraffau (3) hyd (5) yn cael eu bodloni.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (5) caniateir i glaf y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gael ei drosglwyddo i ysbyty arall pan fo—

(a)awdurdod i drosglwyddo ar y ffurf a osodir yn Rhan 1 o Ffurflen TC 6 wedi'i roi gan reolwyr yr ysbyty y mae'r claf yn cael ei gadw'n gaeth ynddo cyn y trosglwyddiad;

(b)y rheolwyr hynny wedi eu bodloni bod trefniadau wedi cael eu gwneud ar gyfer derbyn y claf i'r ysbyty y bwriedir ei drosglwyddo iddo.

(4Wedi i'r claf hwnnw gael ei drosglwyddo, rhaid i reolwyr yr ysbyty y mae wedi'i drosglwyddo iddo gofnodi derbyniad y claf ar y ffurf a osodir yn Rhan 2 o Ffurflen TC 6.

(5Rhaid i reolwyr yr ysbyty y trosglwyddir y claf ohono ddarparu i reolwyr yr ysbyty y trosglwyddir y claf iddo gopi o Ffurflen CP 6 (cofnod o gadwad y claf yn gaeth yn yr ysbyty ar ôl iddo gael ei alw yn ei ôl) cyn neu ar adeg trosglwyddo'r claf.

(6Pan fo—

(a)claf wedi ei alw yn ei ôl i ysbyty sy'n sefydliad cofrestredig; a

(b)y claf hwnnw yn cael ei gynnal o dan gontract gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Bwrdd Iechyd Lleol, Awdurdod Iechyd Strategol, Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG, Awdurdod Iechyd Arbennig neu Weinidogion Cymru,

caniateir rhoi unrhyw awdurdod i drosglwyddo sy'n ofynnol o dan baragraff (3) gan swyddog a awdurdodwyd yn briodol i'r ymddiriedolaeth honno, i'r bwrdd hwnnw neu i'r awdurdod hwnnw neu gan Weinidogion Cymru, yn lle'r rheolwyr.

(7Yn y rheoliad hwn, caniateir i swyddogaethau'r rheolwyr gael eu cyflawni gan swyddog a awdurdodwyd ganddynt yn y cyswllt hwnnw.

Cludo i'r ysbyty adeg trosglwyddo

27.—(1Pan fo amodau rheoliad 23(2), 24(4) neu 26(2), yn ôl y digwydd, wedi eu bodloni, bydd yr awdurdod i drosglwyddo a roddwyd yn unol â'r rheoliadau hynny yn awdurdod digonol i'r personau canlynol fynd ag ef a'i gludo i'r ysbyty y mae'r claf yn cael ei drosglwyddo iddo o fewn y cyfnodau penodedig—

(a)mewn achos y mae rheoliad 23(2) yn gymwys iddo, un o swyddogion rheolwyr y naill ysbyty neu'r llall, neu unrhyw berson a awdurdodir gan y rheolwyr hynny o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar ddyddiad yr awdurdod i drosglwyddo;

(b)mewn achos y mae rheoliad 24(4) yn gymwys iddo, un o swyddogion awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol, neu unrhyw berson a awdurdodir gan yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol, o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y dyddiad y cafodd y claf ei archwilio ddiwethaf gan ymarferydd meddygol at ddibenion rheoliad 24(4)(c);

(c)mewn achos y mae rheoliad 26 yn gymwys iddo, un o swyddogion rheolwyr yr ysbyty y trosglwyddir y claf iddo neu unrhyw berson arall a awdurdodwyd ganddynt, o fewn y cyfnod o 72 o oriau sy'n dechrau gydag amser y cedwir y claf yn gaeth yn unol â galwad y claf yn ei ôl o dan adran 17E.

(2Mae paragraff (1) hefyd yn gymwys i glaf sydd—

(a)yn agored i gael ei gadw'n gaeth o dan y Ddeddf ac yn cael ei symud i ysbyty arall o dan amgylchiadau y mae adran 19(3) yn gymwys iddynt, fel petai'r awdurdod a roddwyd gan y rheolwyr ar gyfer y trosglwyddo hwnnw yn awdurdod i drosglwyddo a roddwyd yn unol â rheoliad 23(2);

(b)yn agored i gael ei gadw'n gaeth mewn ysbyty arbennig ac sydd, yn unol â chyfarwyddyd a roddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 123(1) neu (2), yn cael ei symud i ysbyty arbennig arall neu'n cael ei drosglwyddo i ysbyty arall, fel petai'r cyfarwyddyd hwnnw'n awdurdod i drosglwyddo a roddwyd yn unol â rheoliad 23(2).

(3Mewn achos y mae rheoliad 23(6)(a) yn gymwys iddo, caiff un o swyddogion rheolwyr y sefydliad cofrestredig, neu unrhyw berson arall a awdurdodir ganddynt, fynd â'r claf a'i gludo i'r sefydliad cofrestredig y mae'n cael ei drosglwyddo iddo.

Trosglwyddiadau o Gymru i Loegr ac o Loegr i Gymru

28.—(1Pan fo claf sy'n agored i gael ei gadw'n gaeth neu sy'n destun gwarcheidiaeth o dan y Ddeddf yn cael ei drosglwyddo o ysbyty neu warcheidiaeth yng Nghymru i ysbyty neu warcheidiaeth yn Lloegr, bydd y trosglwyddiad hwnnw yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a ragnodir yn y Rheoliadau hyn.

(2Pan fo claf sy'n agored i gael ei gadw'n gaeth neu sy'n destun gwarcheidiaeth o dan y Ddeddf yn cael ei drosglwyddo o ysbyty neu warcheidiaeth yn Lloegr i ysbyty neu warcheidiaeth yng Nghymru, bydd y trosglwyddiad hwnnw a'r ddyletswydd i gofnodi derbyn y claf a drosglwyddir felly yn ddarostyngedig i'r amodau a ragnodir mewn Rheoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol at berwyl tebyg ar gyfer Lloegr.

(3Pan fo paragraff (2) yn gymwys a bod unrhyw Reoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol at berwyl tebyg ar gyfer Lloegr yn darparu ar gyfer awdurdod i gludo claf yn Lloegr, bydd y Rheoliadau hynny yn darparu awdurdod i gludo'r claf tra bydd yng Nghymru.

Symud cleifion

29.—(1Mae paragraffau (2) a (3) yn gymwys i unrhyw glaf sy'n cael ei symud o'r Alban, Gogledd Iwerddon, o unrhyw un o Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw i Gymru o dan—

(a)adran 82, 84 neu 85 (yn ôl y digwydd), neu

(b)Rheoliadau a wneir o dan adran 290 o Ddeddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (Yr Alban) 2003(6) (symud a dychwelyd cleifion o fewn y Deyrnas Unedig).

(2Pan fo claf y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo yn agored i gael ei gadw'n gaeth mewn ysbyty, rhaid i reolwyr yr ysbyty—

(a)gofnodi ar y ffurf a osodir yn Ffurflen TC 7 y dyddiad y derbyniwyd y claf i'r ysbyty, a

(b)cymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i hysbysu'r person (os oes un) y mae'n ymddangos mai ef yw perthynas agosaf y claf neu'r person y mae'n ymddangos ei fod yn cyflawni swyddogaethau sy'n cyfateb i swyddogaethau a gyflawnir gan berthnasau agosaf o dderbyniad y claf.

(3Pan fo claf y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo yn cael ei dderbyn i warcheidiaeth, rhaid i'r gwarcheidwad—

(a)cofnodi ar y ffurf a bennir yn Ffurflen TC 7 y dyddiad y mae'r claf yn cyrraedd y lle y mae i breswylio ynddo adeg ei dderbyn i warcheidiaeth o dan y Ddeddf;

(b)cymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i hysbysu'r person (os oes un) y mae'n ymddangos mai ef yw perthynas agosaf y claf neu berson y mae'n ymddangos ei fod yn cyflawni swyddogaethau sy'n cyfateb i swyddogaethau a gyflawnir gan berthnasau agosaf o dderbyniad y claf i warcheidiaeth o dan y Ddeddf; ac

(c)rhaid i warcheidwad preifat hysbysu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol o'r dyddiad a grybwyllwyd yn is-baragraff (a) ac o'r manylion a grybwyllwyd yn rheoliad 11(1)(b) a (d).

(4Mae paragraff (5) yn gymwys i glaf a symudir o'r Alban, o unrhyw un o Ynysoedd y Sianel neu o Ynys Manaw i Gymru o dan —

(a)adran 289 o Ddeddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (Yr Alban) 2003; neu

(b)adran 85ZA (cyfrifoldeb dros gleifion cymunedol a drosglwyddir o unrhyw un o Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw)(7) yn achos unrhyw un o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

(5Pan fo claf y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo i gael triniaeth yn y gymuned—

(a)rhaid i'r amodau a bennir gan y clinigydd cyfrifol o dan adran 80C(5) neu 85ZA(4) at ddibenion adran 17B(1) fod ar y ffurf a osodir yn Rhan 1 o Ffurflen TC 8;

(b)rhaid i gytundeb y gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy sy'n ofynnol o dan adran 80C(6) fod ar y ffurf a osodir yn Rhan 2 o Ffurflen TC 8;

(c)rhaid i reolwyr yr ysbyty cyfrifol y mae'r claf yn cael ei drin mewn cysylltiad ag ef fel claf sydd wedi'i dderbyn yn rhinwedd adran 80C(2) o'r Ddeddf gofnodi ar y ffurf a osodir yn Rhan 3 o Ffurflen TC 8 y dyddiad y cyrhaeddodd y claf y lle y mae i breswylio ynddo yng Nghymru (ac y mae'r claf yn cael ei drin o ganlyniad i hynny fel petai gorchymyn triniaeth gymunedol wedi'i wneud yn ei ollwng o'r ysbyty).

Darparu gwybodaeth – trosglwyddo

30.  Os bwriedir trosglwyddo neu os trosglwyddir mewn gwirionedd—

(a)claf ysbyty o dan reoliad 23(2) i ysbyty a chanddo reolwyr ysbyty gwahanol i'r rheolwyr sydd yn yr ysbyty y trosglwyddwyd y claf ohono, rhaid i reolwyr yr ysbyty mae'r claf i drosglwyddo iddo neu y trosglwyddir iddo hysbysu'r claf ac, ac eithrio pan fo claf yn gofyn fel arall, gymryd camau rhesymol ymarferol i hysbysu'r person (os oes un) y mae'n ymddangos mai ef yw perthynas agosaf y claf, yn ysgrifenedig, o'r trosglwyddiad ac enw a chyfeiriad yr ysbyty a manylion rheolwyr yr ysbyty hwnnw;

(b)claf ysbyty i warcheidiaeth o dan adran 23(4) rhaid i'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol, ac eithrio pan fo'r claf yn gofyn fel arall, gymryd camau rhesymol ymarferol i hysbysu'r person (os oes un) y mae'n ymddangos mai ef yw perthynas agosaf y claf o ddyddiad trosglwyddiad y claf neu, os nad yw wedi gwneud hynny, gofnodi ei resymau dros beidio â gwneud hynny;

(c)claf gwarcheidiaeth i warcheidiaeth awdurdod arall neu berson arall o dan reoliad 24(2) rhaid i'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol, ac eithrio pan fo claf yn gofyn fel arall, gymryd camau rhesymol ymarferol i hysbysu'r person (os oes un) y mae'n ymddangos mai ef yw perthynas agosaf y claf o ddyddiad trosglwyddiad y claf neu, os nad yw wedi gwneud hynny, gofnodi ei resymau dros beidio â gwneud hynny;

(ch)claf gwarcheidiaeth i ysbyty o dan reoliad 24(4), rhaid i reolwyr yr ysbyty y mae'r claf i drosglwyddo iddo neu y trosglwyddwyd iddo hysbysu'r claf ac, ac eithrio pan fo'r claf yn gofyn fel arall, gymryd camau rhesymol ymarferol i hysbysu'r person (os oes un) y mae'n ymddangos mai ef yw perthynas agosaf y claf, yn ysgrifenedig, o enw a chyfeiriad yr ysbyty a manylion rheolwyr yr ysbyty.

Darparu gwybodaeth – trosglwyddo yn achos marwolaeth, analluedd etc. y gwarcheidwad

31.  Oni bai bod y claf yn gofyn fel arall, pan freinir gwarcheidiaeth claf yn yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol neu pan fo swyddogaethau gwarcheidwad, yn ystod analluedd y gwarcheidwad, yn cael eu trosglwyddo i'r awdurdod neu berson a gymeradwyir ganddo o dan adran 10 (trosglwyddo gwarcheidiaeth yn achos marwolaeth, analluedd etc. y gwarcheidwad), rhaid i'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol gymryd camau rhesymol ymarferol i beri i'r person (os oes un) y mae'n ymddangos mai ef yw perthynas agosaf y claf gael ei hysbysu o'r breiniad hwnnw, neu yn ôl y digwydd, o'r trosglwyddiad cyn iddo ddigwydd neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedi hynny.

Darparu gwybodaeth – aseinio cyfrifoldeb dros gleifion cymunedol

32.  Os bwriedir aseinio cyfrifoldeb dros glaf cymunedol neu os caiff ei aseinio mewn gwirionedd, rhaid i reolwyr yr ysbyty yr aseiniwyd y cyfrifoldeb iddo—

(a)hysbysu'r claf, yn ysgrifenedig, o enw a chyfeiriad yr ysbyty cyfrifol a manylion rheolwyr yr ysbyty (ni waeth a oes newidiadau yn rheolwyr yr ysbyty ai peidio); a

(b)oni bai bod y claf yn gofyn fel arall, pan fo'r aseinio yn cael ei wneud i ysbyty o dan reolaeth wahanol i'r ysbyty aseinio o dan reoliad 25(2), gymryd camau rhesymol ymarferol i hysbysu'r person (os oes un) y mae'n ymddangos mai ef yw perthynas agosaf y claf, enw a chyfeiriad yr ysbyty cyfrifol a manylion rheolwyr yr ysbyty hwnnw.

RHAN 6Swyddogaethau'r Perthnasau Agosaf

Cyflawni swyddogaethau'r perthynas agosaf

33.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (8) a'r amodau ym mharagraff (7), caiff perthynas agosaf claf awdurdodi mewn ysgrifen unrhyw berson ac eithrio—

(a)y claf; neu

(b)person a grybwyllir yn adran 26(5) (personau y bernir nad un ohonynt hwy yw'r perthynas agosaf),

i weithredu ar ei ran mewn cysylltiad â'r materion a grybwyllir ym mharagraff (2).

(2Y materion hynny yw cyflawni mewn cysylltiad â'r claf y swyddogaethau a roddwyd i'r perthynas agosaf o dan—

(a)Rhan 2 o'r Ddeddf (fel y'i haddaswyd gan Atodlen 1 i'r Ddeddf yn ôl y digwydd); a

(b)adran 66 (ceisiadau i dribiwnlysoedd).

(3Mae awdurdod o'r fath yn rhoi i'r person a awdurdodwyd yr holl hawliau sydd gan y perthynas agosaf ac sy'n rhesymol angenrheidiol i gyflawni'r swyddogaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) ac yn gysylltiedig â'u cyflawni neu sy'n rhesymol angenrheidiol i roi effaith lawn i'r swyddogaethau hynny.

(4Mae unrhyw awdurdod o'r fath yn dod yn weithredol pan fydd y person a awdurdodwyd yn cael yr awdurdod.

(5Yn ddarostyngedig i amodau yn is-baragraff (7)(b), caiff perthynas agosaf claf ddirymu'r awdurdod hwnnw.

(6Mae unrhyw ddirymiad o'r awdurdod hwnnw yn dod yn weithredol pan fydd y person a awdurdodwyd yn cael yr hysbysiad.

(7Yr amodau a grybwyllir ym mharagraffau (1) a (5), fel y bônt yn berthnasol, yw—

(a)bod y person sydd i'w awdurdodi wedi cydsynio; a

(b)adeg gwneud neu ddirymu awdurdod o'r fath, rhaid i'r perthynas agosaf roi hysbysiad ysgrifenedig o'r ffaith i'r canlynol —

(i)y person a awdurdodwyd;

(ii)y claf;

(iii)yn achos claf sy'n agored i gael ei gadw'n gaeth mewn ysbyty, rheolwyr yr ysbyty hwnnw;

(iv)yn achos claf sy'n destun gwarcheidiaeth, yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol cyfrifol a'r gwarcheidwad preifat, os oes un;

(v)yn achos claf cymunedol, rheolwyr yr ysbyty cyfrifol.

(8Ni chaiff perthynas agosaf claf awdurdodi unrhyw berson o dan baragraff (1) i gyflawni swyddogaethau ar ei ran os bydd unrhyw berson wedi gwneud cais i'r llys am ddisodli'r perthynas agosaf hwnnw o dan adran 29 o'r Ddeddf ar y seiliau a restrir yn is-baragraffau (b) i (e) o is-adran (3) o'r adran honno.

(9Caniateir trosglwyddo awdurdodiad neu hysbysiad y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn drwy gyfrwng cyfathrebiad electronig os yw'r sawl sydd i gael yr awdurdodiad neu'r hysbysiad yn cytuno i hynny.

Cyfyngiad ar ollwng gan y perthynas agosaf

34.—(1Rhaid i unrhyw adroddiad a roddir gan y clinigydd cyfrifol at ddibenion adran 25 (cyfyngiadau ar ollwng gan y perthynas agosaf)—

(a)bod ar y ffurf a osodir yn Rhan 1 o Ffurflen NR 1; a

(b)bod, o ran y modd y mae'n dod i law—

(i)rheolwyr yr ysbyty y mae'r claf yn agored i gael ei gadw'n gaeth ynddo

(ii)rheolwyr yr ysbyty cyfrifol yn achos claf cymunedol

ar y ffurf a osodir yn Rhan 2 o Ffurflen NR 1.

(2Yn ychwanegol at y dulliau o gyflwyno dogfennau y darperir ar eu cyfer gan reoliad 3(1), caniateir darparu adroddiadau o dan y rheoliad hwn drwy—

(a)eu trosglwyddo drwy ffacs, neu

(b)trosglwyddo ffurf electronig ar atgynhyrchiad o'r adroddiad,

os yw rheolwyr yr ysbyty yn cytuno i hynny.

RHAN 7Dirprwyo

Dirprwyo swyddogaethau rheolwyr ysbyty o dan y Ddeddf

35.  Caniateir cyflawni swyddogaethau rheolwyr ysbyty gan unrhyw berson a awdurdodir ganddynt yn y cyswllt hwnnw mewn cysylltiad â'r canlynol—

(a)hysbysu awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol lleol o dan adran 14 (adroddiadau cymdeithasol) o gleifion a gedwir yn gaeth ar sail ceisiadau gan eu perthnasau agosaf;

(b)awdurdodi personau o dan adran 17(3) (caniatâd i fod yn absennol o'r ysbyty) i gadw mewn cystodaeth gleifion sydd wedi cael caniatâd i fod yn absennol sy'n ddarostyngedig i amod eu bod yn aros mewn cystodaeth,

(c)awdurdodi person o dan adrannau 18(1) a (2A) (dychwelyd ac aildderbyn cleifion sy'n absennol heb ganiatâd) i gymryd a dychwelyd cleifion a gedwir yn gaeth a chleifion cymunedol yn y drefn honno sy'n absennol heb ganiatâd.

Dirprwyo swyddogaethau rheolwyr ysbyty o dan Ddeddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr 2004

36.  Caniateir cyflawni swyddogaethau rheolwyr ysbyty o dan adrannau 35 i 44B o Ddeddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr 2004 (darparu gwybodaeth i ddioddefwyr cleifion o dan y Ddeddf etc.)(8) gan unrhyw berson a awdurdodir ganddynt yn y cyswllt hwnnw.

Dirprwyo gan awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol lleol

37.—(1Ac eithrio fel y darperir gan baragraff (2), caiff awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol ddirprwyo ei swyddogaethau o dan Rannau 2 a 3 o'r Ddeddf a'r Rheoliadau hyn yn yr un ffordd ac i'r un personau ag y caniateir dirprwyo ei swyddogaethau y cyfeirir atynt yn Neddf Llywodraeth Leol 1972(9) yn unol ag adran 101 o'r Ddeddf honno.

(2Ni chaniateir dirprwyo swyddogaeth yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol o dan adran 23 (gollwng cleifion) mewn dull nad yw'n unol â'r adran honno.

RHAN 8Cydsynio i Driniaeth

Ffurfiau ar driniaeth o dan Ran 4 o'r Ddeddf

38.—(1At ddibenion adran 57 (triniaeth y mae cydsyniad ac ail farn yn ofynnol ar ei chyfer) mewnblaniad llawfeddygol o hormonau at ddibenion lleihau'r ysfa rywiol gwrywaidd yw'r ffurf ar driniaeth y mae'r adran honno'n gymwys iddi, yn ychwanegol at y driniaeth a grybwyllir yn is-adran (1)(a) o'r adran honno (unrhyw lawdriniaeth lawfeddygol i ddistrywio meinwe yn yr ymennydd neu i ddistrywio gallu meinwe yn yr ymennydd i weithredu).

(2At ddibenion adran 58A (therapi electrogynhyrfol, etc.) rhoi meddyginiaethau fel rhan o therapi electrogynhyrfol yw'r ffurf ar driniaeth y mae'r adran honno'n gymwys iddi, yn ychwanegol at roi'r therapi electrogynhyrfol a grybwyllir yn is-adran (1)(a) o'r adran honno.

(3Nid yw adran 58A yn gymwys i driniaeth ar ffurf rhoi meddyginiaethau fel rhan o therapi electrogynhyrfol pan fo'r driniaeth honno yn dod o fewn adran 62(1)(a) neu (b) o'r Ddeddf (triniaeth y mae ei hangen ar unwaith i arbed bywyd claf neu i atal dirywiad difrifol yn ei gyflwr).

Ffurfiau ar driniaeth o dan Ran 4A o'r Ddeddf

39.  At ddibenion Rhan 4A o'r Ddeddf (triniaeth cleifion cymunedol nas galwyd yn eu hôl i'r ysbyty)—

(a)caniateir i driniaeth claf y mae adran 64B(3)(b) neu adran 64E(3)(b) (sy'n gosod allan pryd y caniateir rhoi triniaeth o dan Ran 4A o'r Ddeddf i oedolion o gleifion cymunedol a phlant o gleifion cymunedol yn y drefn honno) yn gymwys iddi gynnwys triniaeth ar ffurf rhoi meddyginiaethau fel rhan o therapi electrogynhyrfol ond dim ond pan fo'r driniaeth honno yn dod o fewn adran 64C(5)(a) neu (b).

(b)caniateir i driniaeth claf y mae adran 64G (triniaeth frys ar gyfer cleifion cymunedol sydd heb gymhwyster neu gymhwysedd) yn gymwys iddi gynnwys triniaeth ar ffurf meddyginiaethau a ddefnyddir mewn cysylltiad â therapi electrogynhyrfol ond dim ond pan fo'r driniaeth honno yn dod o fewn adran 64C(5)(a) neu (b).

Tystysgrifau ar gyfer rhoi triniaeth

40.—(1Rhaid i'r dystysgrif sy'n ofynnol o dan adrannau 57(2)(a) a (b) (triniaeth y mae cydsyniad ac ail farn yn ofynnol ar ei chyfer) fod ar y ffurf a osodir yn Ffurflen CO 1.

(2Rhaid i'r tystysgrifau sy'n ofynnol o dan adrannau 58(3)(a) a (b) (triniaeth y mae cydsyniad ac ail farn yn ofynnol ar ei chyfer) fod ar y ffurf a osodir yn Ffurflenni CO 2 a CO 3 yn y drefn honno.

(3Rhaid i'r tystysgrifau sy'n ofynnol o dan adrannau 58A(3)(c), (4)(c) a (5) (therapi electrogynhyrfol, etc.) fod ar y ffurf a osodir yn Ffurflenni CO 4, CO 5 a CO 6 yn y drefn honno.

(4Rhaid i'r dystysgrif sy'n ofynnol o dan adrannau 64B(2)(b) neu 64E(2)(b) (trin cleifion cymunedol) fod ar y ffurf a osodir yn Ffurflen CO 7.

RHAN 9Gohebiaeth Cleifion

Arolygu ac agor pecynnau post

41.—(1Pan fo unrhyw becyn post yn cael ei arolygu a'i agor o dan adran 134(4) (arolygu ac agor pecynnau post a gyfeirir at gleifion mewn ysbyty neu a gyfeirir ganddynt), ond nad yw'r pecyn nac ychwaith unrhyw beth sydd wedi'i gynnwys ynddo wedi'i atal o dan adran 134(1), rhaid i'r person a benodwyd gofnodi mewn ysgrifen—

(a)bod y pecyn wedi'i arolygu a'i agor felly;

(b)nad oes unrhyw beth yn y pecyn wedi'i atal; ac

(c)ei enw ac enw'r ysbyty,

a rhaid iddo, cyn ailselio'r pecyn, roi'r cofnod yn y pecyn hwnnw a chadw copi o'r cofnod hwnnw.

(2Pan fo unrhyw becyn post neu unrhyw beth sydd wedi'i gynnwys ynddo wedi'i atal o dan adran 134(1) gan y person a benodwyd—

(a)rhaid iddo gofnodi mewn cofrestr a gedwir i'r perwyl hwnnw—

(i)bod y pecyn neu unrhyw beth sydd wedi'i gynnwys ynddo wedi'i atal,

(ii)y dyddiad y cafodd ei atal felly,

(iii)ar ba seiliau y cafodd ei atal felly,

(iv)disgrifiad o gynnwys y pecyn a ataliwyd ac o unrhyw eitem a ataliwyd, a

(v)ei enw ac enw'r ysbyty; a

(b)os caiff unrhyw beth sydd wedi'i gynnwys yn y pecyn ei atal, rhaid iddo gofnodi mewn ysgrifen—

(i)bod y pecyn wedi'i arolygu a'i agor;

(ii)bod eitem sydd wedi'i gynnwys yn y pecyn wedi'i atal neu fod eitemau sydd wedi'u cynnwys ynddo wedi'u hatal,

(iii)disgrifiad o unrhyw eitem o'r fath, a

(iv)ei enw ac enw'r ysbyty,

a rhaid iddo, cyn ailselio'r pecyn, roi'r cofnod yn y pecyn hwnnw.

(3At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “y person a benodwyd” yw person a benodwyd o dan adran 134(7) i gyflawni swyddogaethau rheolwyr yr ysbyty o dan yr adran honno.

Gwasanaethau Eiriol Annibynnol

42.  At ddibenion adran 134(3A)(b)(iii), y trefniadau a ragnodwyd yw'r trefniadau mewn cysylltiad ag eiriolwyr galluedd meddyliol annibynnol a wneir o dan adrannau 35 i 41 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2000(10) (gwasanaeth eiriol annibynnol).

RHAN 10Dirymiadau

Dirymiadau

43.  Mae'r Rheoliadau a bennir yn Atodlen 2 wedi'u dirymu o ran Cymru.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

15 Medi 2008

ATODLEN 1FFURFLENNI

Regulation 4(1)(a)(ii)

Form HO 2Mental Health Act 1983 section 2–application by an approved mental health professional for admission for assessment

Regulation 4(1)(b)(i)

Form HO 3Mental Health Act 1983 section 2–joint medical recommendation for admission for assessment

Regulation 4(1)(b)(ii)

Form HO 4Mental Health Act 1983 section 2–medical recommendation for admission for assessment

Regulation 4(1)(c)(i)

Form HO 5Mental Health Act 1983 section 3–application by nearest relative for admission for treatment

Regulation 4(1)(c)(ii)

Form HO 6Mental Health Act 1983 section 3–application by an approved mental health professional for admission for treatment

Regulation 4(1)(d)(i)

Form HO 7Mental Health Act 1983 section 3–joint medical recommendation for admission for treatment

Regulation 4(1)(d)(ii)

Form HO 8Mental Health Act 1983 section 3–medical recommendation for admission for treatment

Regulation 4(1)(e)(i)

Form HO 9Mental Health Act 1983 section 4–emergency application by nearest relative for admission for assessment

Regulation 4(1)(e)(ii)

Form HO 10Mental Health Act 1983 section 4–emergency application by an approved mental health professional for admission for assessment

Regulation 4(1)(f)

Form HO 11Mental Health Act 1983 section 4–medical recommendation for emergency admission for assessment

Regulation 4(1)(g)

Form HO 12Mental Health Act 1983 section 5(2)–report on hospital in–patient

Regulation 4(1)(h)

Form HO 13Mental Health Act 1983 section 5(4) – record of hospital in–patient

Regulation 4(3)

Form HO 14Mental Health Act 1983 sections 2, 3 and 4 – record of detention in hospital

Regulation 5

Form HO 15Mental Health Act 1983 section 20–renewal of authority for detention

Regulation 6

Form HO 16Mental Health Act 1983 section 21B–authority for detention after absence without leave for more than 28 days

Regulation 7

Form HO 17Mental Health Act 1983 section 23 – discharge by the responsible clinician or the hospital managers

Regulation 9(1)(a)(i) and (b)

Form GU 1Mental Health Act 1983 section 7–guardianship application by nearest relative

Regulation 9(1)(a)(ii) and (b)

Form GU 2Mental Health Act 1983 section 7–guardianship application by an approved mental health professional

Regulation 9(1)(c)(i)

Form GU 3Mental Health Act 1983 section 7– joint medical recommendation for reception into guardianship

Regulation 9(1)(c)(ii)

Form GU 4Mental Health Act 1983 section 7–medical recommendation for reception into guardianship

Regulation 9(3)

Form GU 5Mental Health Act 1983 section 7–record of acceptance of guardianship application

Regulation 12

Form GU 6Mental Health Act 1983 section 20–renewal of authority for guardianship

Regulation 13

Form GU 7Mental Health Act 1983 section 21B – authority for guardianship after absence without leave for more than 28 days

Regulation 14

Form GU 8Mental Health Act 1983 section 23 – discharge by the responsible clinician or the responsible local social services authority

Regulation 16(1)

Form CP 1Mental Health Act 1983 section 17A – community treatment order

Regulation 16(2)

Form CP 2Mental Health Act 1983 section 17B – variation of conditions of a community treatment order

Regulation 17

Form CP 3Mental Health Act 1983 section 20A – report extending the community treatment period

Regulation 18

Form CP 4Mental Health Act 1983 section 21B–authority for community treatment after absence without leave for more than 28 days

Regulation 19(1)(a)

Form CP 5Mental Health Act 1983 section 17E – Notice of recall to hospital

Regulation 19(1)(d) and (2)

Form CP 6Mental Health Act 1983 section 17E – Record of patient's detention in hospital following recall

Regulation 20

Form CP 7Mental Health Act 1983 section 17F – revocation of a community treatment order

Regulation 21

Form CP 8Mental Health Act 1983 section 23 – discharge by the responsible clinician or the hospital managers

Regulation 23(2) and (3)

Form TC 1Mental Health Act 1983 section 19 – authority for transfer from one hospital to another under different managers

Regulation 23(4) and (5)

Form TC 2Mental Health Act 1983 section 19 – authority for transfer from hospital to guardianship

Regulation 24(2) and (3)

Form TC 3Mental Health Act 1983 section 19 –Authority for transfer of a patient from the guardianship of one guardian to another

Regulation 24(4) and (5)

Form TC 4Mental Health Act 1983 section 19–authority for transfer from guardianship to hospital

Regulation 25(2)

Form TC 5Mental Health Act 1983 section 19A – authority for assignment of responsibility for a community patient from one hospital to another under different managers

Regulation 26(3) and (4)

Form TC 6Mental Health Act 1983 section 17F(2) – authority for transfer of recalled community patient to a hospital under different managers

Regulation 29(2)(a) and (3)(a)

Form TC 7Mental Health Act 1983 Part 6–Date of reception of a patient to hospital or into guardianship in Wales

Regulation 29(5)

Form TC 8Mental Health Act 1983 Part 6–transfer of patient subject to compulsion in the community

Regulation 34

Form NR 1Mental Health Act 1983 Section 25–report barring discharge by nearest relative

Regulation 40(1)

Form CO 1Mental Health Act 1983 section 57–certificate of consent to treatment and second opinion

Regulation 40(2)

Form CO 2Mental Health Act 1983 section 58(3)(a)–certificate of consent to treatment

Regulation 40(2)

Form CO 3Mental Health Act 1983 section 58(3)(b)–certificate of second opinion

Regulation 40(3)

Form CO 4Mental Health Act 1983 section 58A(3)(c) –certificate of consent to treatment (patients at least 18 years of age)

Regulation 40(3)

Form CO 5Mental Health Act 1983 section 58A(4)(c)–certificate of consent to treatment and second opinion (patients under 18 years of age)

Regulation 40(3)

Form CO 6Mental Health Act 1983 section 58A(5)–certificate of second opinion (patients who are not capable of understanding the nature, purpose and likely effects of the treatment)

Regulation 40(4)

Form CO 7Mental Health Act 1983 Part 4A – certificate of appropriateness of treatment to be given to a community patient (Part 4A Certificate)

Rheoliad 43

ATODLEN 2DIRYMIADAU

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Y Rheoliadau hyn yw'r prif Reoliadau sy'n ymdrin ag arfer pwerau gorfodol mewn cysylltiad â phersonau sy'n agored i gael eu cadw'n gaeth mewn ysbyty neu o dan warcheidiaeth, ynghyd â chleifion cymunedol, o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 p.20 (“y Ddeddf”) (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd Meddwl 2007, p.12).

Mae Rhan 1 (rheoliadau 1 i 3) yn cynnwys darpariaethau cyffredinol sy'n effeithio ar ddehongli'r Rheoliadau a gweithdrefnau sy'n ymwneud â'r dogfennau sy'n ofynnol gan y Ddeddf.

Mae Rhan 2 (rheoliadau 4 i 8) yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â'r weithdrefn ar gyfer, a dull cofnodi, derbyniadau i'r ysbyty, adnewyddu'r awdurdod i gadw cleifion yn gaeth a gollwng cleifion sy'n agored i gael eu cadw'n gaeth. Mae'n pennu ymhellach yr wybodaeth sydd i'w rhoi i gleifion sy'n agored i gael eu cadw'n gaeth a'u perthnasau agosaf.

Mae Rhan 3 (rheoliadau 9 i 15) yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â'r weithdrefn ar gyfer, a dull cofnodi, gwarcheidiaeth, adnewyddu gwarcheidiaeth, gollwng cleifion o dan warcheidiaeth. Mae'n cynnwys hefyd ddarpariaethau ynghylch dyletswyddau gwarcheidwaid preifat. Mae'n pennu ymhellach yr wybodaeth sydd i'w rhoi i gleifion o dan warcheidiaeth a'u perthnasau agosaf.

Mae Rhan 4 (rheoliadau 16 i 22) yn cynnwys darpariaethau ynghylch y weithdrefn ar gyfer, a dull cofnodi, gorchmynion triniaeth gymunedol ac estyn gorchmynion o'r fath. Mae'n cynnwys darpariaeth hefyd ynghylch galw'n ôl a rhyddhau cleifion cymunedol, dirymu gorchmynion triniaeth gymunedol adeg galw cleifion cymunedol yn ôl a gollwng cleifion cymunedol. Mae'n pennu ymhellach yr wybodaeth sydd i'w rhoi i gleifion cymunedol a'u perthnasau agosaf.

Mae Rhan 5 (rheoliadau 23 i 32) yn cynnwys darpariaethau ynghylch trosglwyddo a chludo cleifion rhwng ysbytai, neu warcheidiaeth, ac o ysbytai i warcheidiaeth ac i'r gwrthwyneb. Mae'n cynnwys darpariaethau hefyd ynghylch aseinio cyfrifoldeb ar gyfer cleifion cymunedol a throsglwyddo'r cleifion hynny adeg eu galw'n ôl. Mae darpariaeth wedi'i gwneud i symud cleifion i Gymru o'r Alban, Gogledd Iwerddon, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw. Gwneir darpariaeth hefyd mewn perthynas â throsglwyddo cleifion rhwng Cymru a Lloegr. Mae'n pennu hefyd yr wybodaeth sydd i'w rhoi i gleifion a'u perthnasau agosaf os caiff cleifion eu trosglwyddo.

Mae Rhan 6 (rheoliadau 33 a 34) yn cynnwys darpariaethau sy'n rhoi pŵer i'r perthnasau agosaf awdurdodi personau eraill i arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf, ynghyd â chyfyngiadau ar ollwng cleifion gan y perthnasau agosaf.

Mae Rhan 7 (rheoliadau 35 i 37) yn darparu bod rheolwyr ysbytai yn dirprwyo eu swyddogaethau o dan y Ddeddf a'u swyddogaethau o dan Ddeddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr 2004 yn ogystal â bod awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol lleol yn dirprwyo swyddogaethau.

Mae Rhan 8 (rheoliadau 38 i 40) yn rhagnodi triniaethau (ac eithrio'r rhai a bennir yn adrannau 57 a 58A o'r Ddeddf) sy'n ei gwneud yn ofynnol i gael cydsyniad ac ail farn neu gydsyniad neu ail farn. Mae'n nodi hefyd y gofynion ynghylch ardystio triniaethau a roddir o dan Ran 4 a Rhan 4A o'r Ddeddf.

Mae Rhan 9 (rheoliadau 41 a 42) yn cynnwys darpariaethau ynghylch gohebiaeth cleifion, gan nodi'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn wrth agor pecynnau sy'n dod drwy'r post ac yn rhagnodi gwasanaethau eiriol penodol at ddibenion adran 134(3A) o'r Ddeddf.

Mae Rhan 10 (rheoliad 43 ac Atodlen 2) yn dirymu is-ddeddfwriaeth benodedig.

Mae Atodlen 1 yn cynnwys y ffurflenni statudol y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau.

Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol llawn wedi'i lunio ar gyfer yr offeryn hwn.

(1)

1983, p.20, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd Meddwl 2007, p.12.

(5)

Gweler Gorchymyn Iechyd Meddwl (Nyrsys) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/2441 (Cy.214)).

(7)

Mewnosodwyd adran 85ZA gan baragraff 12 o Atodlen 5 i Ddeddf Iechyd Meddwl 2007.

(8)

Fel y'i diwygiwyd gan adran 48 o Ddeddf Iechyd Meddwl 2007 ac Atodlen 6 iddi. Yn rhinwedd adran 45(4) o Ddeddf Trais Domestig, Trosedd a Dioddefwyr 2004 mae swyddogaeth a roddir i reolwyr ysbyty o dan adrannau 35 i 44B o'r Ddeddf honno i'w thrin fel un o swyddogaethau'r rheolwyr hynny o dan Ran 3 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 at ddibenion adran 32(3) o Ddeddf 1983 (rheoliadau am ddirprwyo swyddogaethau rheolwyr, etc).

(10)

2005 p.9.