Offerynnau Statudol Cymru
IECHYD MEDDWL, CYMRU
Gwnaed
15 Medi 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
17 Medi 2008
Yn dod i rym
3 Tachwedd 2008
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Meddwl (Eiriolwyr Annibynnol Iechyd Meddwl) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 3 Tachwedd 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “cleifion cymwys” (“qualifying patients”) yw'r personau hynny sy'n gymwys i gael cymorth gan EAIM o dan adrannau 130C(2), (3) a (4) o'r Ddeddf;
ystyr “darparydd gwasanaethau eirioli” (“provider of advocacy services”) yw corff neu berson, gan gynnwys corff gwirfoddol, sy'n cyflogi personau y gellir peri eu bod ar gael i weithredu fel EAIM;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Meddwl 1983; ac
ystyr “EAIM” (“IMCA”) yw eiriolwr annibynnol iechyd meddwl.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i gyfarwyddiadau y caiff Gweinidogion Cymru eu rhoi, bydd Bwrdd Iechyd Lleol yn gwneud trefniadau y mae'n ystyried eu bod yn rhesymol er mwyn galluogi EAIMau i fod ar gael i weithredu mewn cysylltiad â chlaf cymwys sydd—
(a)yn agored i gael ei gadw'n gaeth mewn ysbyty neu mewn sefydliad cofrestredig sydd yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol;
(b)yn ddarostyngedig i warcheidiaeth o dan y Ddeddf neu sy'n glaf cymunedol ac sydd fel arfer yn preswylio yn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer;
(c)yn gymwys o dan adran 130C(3) o'r Ddeddf ac sydd fel arfer yn preswylio yn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer.
(2) Wrth wneud trefniadau o dan baragraff (1) caiff Bwrdd Iechyd Lleol wneud trefniadau gyda darparydd gwasanaethau eirioli.
(3) Ni chaiff unrhyw berson weithredu fel EAIM onid yw'r person hwnnw wedi cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu onid yw wedi cael ei gyflogi gan ddarparydd gwasanaethau eirioli i weithredu fel EAIM.
(4) Cyn cymeradwyo unrhyw berson o dan baragraff (3) rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol gael ei fodloni bod y person yn bodloni'r gofynion penodi yn rheoliad 4.
(5) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol sicrhau ei bod yn ofynnol i unrhyw ddarparydd gwasanaethau eirioli y mae'r Bwrdd yn gwneud trefniant ag ef o dan baragraff (2), yn unol â thelerau'r trefniant hwnnw, sicrhau bod unrhyw berson—
(a)a gyflogir gan y darparydd gwasanaethau eirioli hwnnw, a
(b)y perir ei fod ar gael i weithredu fel EAIM,
yn bodloni'r gofynion penodi yn rheoliad 4.
(6) At ddibenion rheoliad 2(2) o Reoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003(3) nid yw Bwrdd Iechyd Lleol yn gyfrifol am wneud trefniadau'n unol â pharagraff (1) mewn perthynas â chlaf cymwys os yw'r claf cymwys hwnnw—
(a)fel arfer yn preswylio yn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer; a
(b)yn agored i gael ei gadw'n gaeth mewn ysbyty neu mewn sefydliad cofrestredig nad yw yn yr un ardal y mae ef fel arfer yn preswylio ynddi
4.—(1) Y gofynion penodi yn rheoliad 3(4) a (5) yw–
(a)bod gan y person brofiad neu hyfforddiant priodol neu gyfuniad priodol o brofiad a hyfforddiant;
(b)bod y person yn meddu ar uniondeb a chymeriad da; ac
(c)y bydd y person yn gweithredu'n annibynnol ar unrhyw berson
(i)sy'n gofyn i'r person hwnnw ymweld neu gyf-weld â'r claf cymwys;
(ii)sy'n ymwneud yn broffesiynol â thriniaeth feddygol y claf cymwys.
(2) Wrth benderfynu a yw person yn bodloni'r gofyniad penodi ym mharagraff (1)(a) rhoddir ystyriaeth i safonau mewn canllawiau y caiff Gweinidogion Cymru eu dyroddi o bryd i'w gilydd.
(3) At ddibenion paragraff (2) caiff safonau gynnwys unrhyw gymhwyster y caiff Gweinidogion Cymru benderfynu eu bod yn briodol.
(4) Cyn gwneud penderfyniad at ddibenion paragraff (1)(b) mewn perthynas ag unrhyw berson, rhaid cael gafael ar y canlynol mewn cysylltiad â'r person hwnnw—
(a)tystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir yn unol ag adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997(4); neu
(b)os nad yw'r diben y mae'r dystysgrif yn ofynnol o'i herwydd yn un a ragnodir o dan is-adran (2) o'r adran honno, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddir yn unol ag adran 113A o'r Ddeddf honno.
(5) At ddibenion adran 130A(5) nid yw person yn ymwneud yn broffesiynol â thriniaeth feddygol y claf cymwys
(a)os yw'n gweithredu, neu wedi gweithredu, fel EAIM i'r claf cymwys yn unol ag adran 130B o'r Ddeddf; neu
(b)os yw'n cynrychioli neu'n cynorthwyo, neu wedi cynrychioli neu gynorthwyo, claf cymwys heb fod yn unol ag adran 130B ond nad yw fel arall yn ymwneud â thriniaeth y claf cymwys.
(6) Yn y rheoliad hwn mae person yn cael ei gyflogi gan y darparydd gwasanaethau eirioli os yw'r person hwnnw—
(a)yn gyflogedig o dan gontract gwasanaeth; neu
(b)wedi ei gymryd ymlaen o dan gontract am wasanaethau.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
15 Medi 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau ynghylch y trefniadau ar gyfer penodi Eiriolwyr Annibynnol Iechyd Meddwl (EAIMau). Maent yn cynnwys darpariaeth ynghylch pwy y caniateir ei benodi'n EAIM.
2. Mae rheoliad 3 yn darparu—
(a)bod yn rhaid i Fyrddau Iechyd Lleol (BILl) drefnu bod EAIMau ar gael i cleifion sy'n gymwys am help o dan adran 130C o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (“y Ddeddf”). Cleifion cymwys yw'r cleifion hynny sydd
(i)yn agored i gael eu cadw'n gaeth mewn ysbyty (ac eithrio o dan adrannau 4, 5(2)(4), 135 neu 136 o'r Ddeddf);
(ii)yn ddarostyngedig i orchmynion gwarcheidiaeth neu driniaeth gymunedol;
(iii)cleifion anffurfiol sy'n cael eu hystyried am ffurf ar driniaeth sy'n dod o dan adran 57 o'r Ddeddf;
(iv)cleifion anffurfiol nad ydynt wedi cyrraedd eu deunaw mlwydd oed ac sy'n cael eu hystyried am ffurf ar driniaeth o dan adran 58A o'r Ddeddf (rheoliad 3(1));
(b)y caiff BILlau wneud trefniadau gyda darparwyr gwasanaethau eirioli ar gyfer darparu EAIMau (rheoliad 3(2));
(c)bod yn rhaid i unrhyw berson a benodwyd i weithredu fel EAIM fod naill ai wedi'i gymeradwyo gan y BILl neu wedi'i gyflogi gan ddarparydd gwasanaethau eirioli (rheoliad 3(3));
(ch)bod yn rhaid i BILl, cyn cymeradwyo EAIM, gael ei fodloni ei fod yn cwrdd â gofynion y penodiad (rheoliad 3(4));
(d)y dylai fod yn ofynnol i ddarparydd gwasanaethau eirioli sicrhau bod unrhyw EAIMau y gallant eu cyflogi yn bodloni gofynion y penodiad (rheoliad 3(5));
(dd)eglurhad ynghylch pa BILl sy'n gyfrifol am drefnu i EAIM weithredu dros glaf tra bydd yn cael ei gadw'n gaeth mewn ysbyty.
3. Mae rheoliad 4 yn nodi'r gofynion penodi y mae'n rhaid i EAIM eu bodloni cyn y caniateir ei benodi.
4. Ni luniwyd asesiad effaith llawn ar gyfer yr offeryn hwn gan ragwelir y caiff effaith arwyddocaol ar y sector preifat nac ar y sector gwirfoddol.
1983 (p.20). Mewnosodwyd adran 130A gan Ddeddf Iechyd Meddwl 2007 (c. 12).
1997 p.50. Mewnosodir adrannau 113A i 113D gan adran 163 o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005 (p.14).