2008 Rhif 2437 (Cy.210)
Rheoliadau Iechyd Meddwl (Eiriolwyr Annibynnol Iechyd Meddwl) (Cymru) 2008
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn a rhychwant1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Meddwl (Eiriolwyr Annibynnol Iechyd Meddwl) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 3 Tachwedd 2008.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “cleifion cymwys” (“qualifying patients”) yw'r personau hynny sy'n gymwys i gael cymorth gan EAIM o dan adrannau 130C(2), (3) a (4) o'r Ddeddf;
ystyr “darparydd gwasanaethau eirioli” (“provider of advocacy services”) yw corff neu berson, gan gynnwys corff gwirfoddol, sy'n cyflogi personau y gellir peri eu bod ar gael i weithredu fel EAIM;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Meddwl 1983; ac
ystyr “EAIM” (“IMCA”) yw eiriolwr annibynnol iechyd meddwl.
Trefniadau ar gyfer eiriolwyr annibynnol iechyd meddwl3
1
Yn ddarostyngedig i gyfarwyddiadau y caiff Gweinidogion Cymru eu rhoi, bydd Bwrdd Iechyd Lleol yn gwneud trefniadau y mae'n ystyried eu bod yn rhesymol er mwyn galluogi EAIMau i fod ar gael i weithredu mewn cysylltiad â chlaf cymwys sydd—
a
yn agored i gael ei gadw'n gaeth mewn ysbyty neu mewn sefydliad cofrestredig sydd yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol;
b
yn ddarostyngedig i warcheidiaeth o dan y Ddeddf neu sy'n glaf cymunedol ac sydd fel arfer yn preswylio yn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer;
c
yn gymwys o dan adran 130C(3) o'r Ddeddf ac sydd fel arfer yn preswylio yn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer.
2
Wrth wneud trefniadau o dan baragraff (1) caiff Bwrdd Iechyd Lleol wneud trefniadau gyda darparydd gwasanaethau eirioli.
3
Ni chaiff unrhyw berson weithredu fel EAIM onid yw'r person hwnnw wedi cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu onid yw wedi cael ei gyflogi gan ddarparydd gwasanaethau eirioli i weithredu fel EAIM.
4
Cyn cymeradwyo unrhyw berson o dan baragraff (3) rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol gael ei fodloni bod y person yn bodloni'r gofynion penodi yn rheoliad 4.
5
Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol sicrhau ei bod yn ofynnol i unrhyw ddarparydd gwasanaethau eirioli y mae'r Bwrdd yn gwneud trefniant ag ef o dan baragraff (2), yn unol â thelerau'r trefniant hwnnw, sicrhau bod unrhyw berson—
a
a gyflogir gan y darparydd gwasanaethau eirioli hwnnw, a
b
y perir ei fod ar gael i weithredu fel EAIM,
yn bodloni'r gofynion penodi yn rheoliad 4.
6
At ddibenion rheoliad 2(2) o Reoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 20033 nid yw Bwrdd Iechyd Lleol yn gyfrifol am wneud trefniadau'n unol â pharagraff (1) mewn perthynas â chlaf cymwys os yw'r claf cymwys hwnnw—
a
fel arfer yn preswylio yn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer; a
b
yn agored i gael ei gadw'n gaeth mewn ysbyty neu mewn sefydliad cofrestredig nad yw yn yr un ardal y mae ef fel arfer yn preswylio ynddi
Gofynion penodi ar gyfer eiriolwyr annibynnol iechyd meddwl4
1
Y gofynion penodi yn rheoliad 3(4) a (5) yw–
a
bod gan y person brofiad neu hyfforddiant priodol neu gyfuniad priodol o brofiad a hyfforddiant;
b
bod y person yn meddu ar uniondeb a chymeriad da; ac
c
y bydd y person yn gweithredu'n annibynnol ar unrhyw berson
i
sy'n gofyn i'r person hwnnw ymweld neu gyf-weld â'r claf cymwys;
ii
sy'n ymwneud yn broffesiynol â thriniaeth feddygol y claf cymwys.
2
Wrth benderfynu a yw person yn bodloni'r gofyniad penodi ym mharagraff (1)(a) rhoddir ystyriaeth i safonau mewn canllawiau y caiff Gweinidogion Cymru eu dyroddi o bryd i'w gilydd.
3
At ddibenion paragraff (2) caiff safonau gynnwys unrhyw gymhwyster y caiff Gweinidogion Cymru benderfynu eu bod yn briodol.
4
Cyn gwneud penderfyniad at ddibenion paragraff (1)(b) mewn perthynas ag unrhyw berson, rhaid cael gafael ar y canlynol mewn cysylltiad â'r person hwnnw—
a
tystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir yn unol ag adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 19974; neu
b
os nad yw'r diben y mae'r dystysgrif yn ofynnol o'i herwydd yn un a ragnodir o dan is-adran (2) o'r adran honno, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddir yn unol ag adran 113A o'r Ddeddf honno.
5
At ddibenion adran 130A(5) nid yw person yn ymwneud yn broffesiynol â thriniaeth feddygol y claf cymwys
a
os yw'n gweithredu, neu wedi gweithredu, fel EAIM i'r claf cymwys yn unol ag adran 130B o'r Ddeddf; neu
b
os yw'n cynrychioli neu'n cynorthwyo, neu wedi cynrychioli neu gynorthwyo, claf cymwys heb fod yn unol ag adran 130B ond nad yw fel arall yn ymwneud â thriniaeth y claf cymwys.
6
Yn y rheoliad hwn mae person yn cael ei gyflogi gan y darparydd gwasanaethau eirioli os yw'r person hwnnw—
a
yn gyflogedig o dan gontract gwasanaeth; neu
b
wedi ei gymryd ymlaen o dan gontract am wasanaethau.