- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Rhoddodd Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999 (O.S. 1999/293) (“Rheoliadau 1999”) ar waith, yng Nghymru a Lloegr, Gyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC (“Cyfarwyddeb AEA”) ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd (O.J. Rhif L175, 5.7.1985, t.40) fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/11/EC (O.J. Rhif L73, 14.3.1997, t.5). Diwygiwyd y Gyfarwyddeb AEA hefyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2003/35/EC (O.J. Rhif L156, 25.6.2003, t.17).
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1999 er mwyn rhoi'r Cyfarwyddebau ar waith o ran ceisiadau am gymeradwyo materion a gadwyd yn ôl a cheisiadau am gymeradwyo amodau tebyg sydd ynghlwm wrth roi caniatadau cynllunio (“ceisiadau dilynol”).
Mae rheoliadau 2 i 12 yn diwygio Rheoliadau 1999 fel bod eu darpariaethau yn gymwys i geisiadau dilynol. Diweddarwyd cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'u gwneud yn gyfeiriadau at Weinidogion Cymru.
Mae rheoliad 7 yn gymwys i gydsyniadau dilynol o dan erthygl 8 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995 ac Atodlen 3 iddi (O.S. 1995/419, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1999/293, 2004/3256 a 2006/1386), sy'n darparu bod gweithdrefnau cyhoeddusrwydd i'w dilyn gan awdurdodau cynllunio lleol yn achos caniatadau cynllunio sy'n ddarostyngedig i asesiad effaith amgylcheddol.
Mae rheoliad 13 yn diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Penderfynu ar Apelau gan Bersonau Penodedig) (Dosbarthau Rhagnodedig) 1997 sy'n rhagnodi'r dosbarthau ar apêl sydd i'w penderfynu gan bersonau a benodir gan Weinidogion Cymru yn unol â darpariaethau Atodlen 6 i Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn lle cael eu penderfynu gan Weinidogion Cymru. Mae'n allgáu o'r dosbarthau ar apêl a gedwir yn ôl, apelau gorfodi sy'n ymwneud â datblygiad anawdurdodedig y mae'r Gyfarwyddeb AEA yn gymwys iddo.
Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol a gellir cael copïau oddi wrth: Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: