- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Gwnaed
31 Awst 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
2 Medi 2008
Yn dod i rym
6 Hydref 2008
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â'r gofyniad i asesu'r effaith ar yr amgylchedd y mae prosiectau sy'n debygol o gael effeithiau arwyddocaol ar yr amgylchedd yn ei chael, i'r graddau y mae a wnelo â chynllunio gwlad a thref.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a freiniwyd ynddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac a roddwyd gan adran 333 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(3) a pharagraff 1 o Atodlen 6 iddi.
1972 p.68. Estynnwyd pwerau galluogi adran 2(2) yn rhinwedd diwygiad adran 1(2) gan adran 1 o Ddeddf yr Ardal Economaidd Ewropeaidd 1993 (p.51).
1990 p.8; diwygiwyd paragraff 1 o Atodlen 6 gan adran 120 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25) a pharagraff 44 o Atodlen 22 iddi. Mae'r pwerau hyn bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru. Trosglwyddwyd hwy gynt i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672: gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 fel y'i hamnewidiwyd gan erthygl 4 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253) a chan baragraff (d) o Atodlen 3 iddo. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, fe'u trosglwyddwyd i Weinidogion Cymru.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: