- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae Atodlen 3 i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 yn gwneud darpariaeth ar gyfer dynodi ardaloedd parcio a ganiateir ac ardaloedd parcio arbennig. Mae paragraff 1(1) yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru i ddynodi'r cyfan neu unrhyw ran o ardal cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru yn ardal barcio a ganiateir yn dilyn cais gan yr awdurdod lleol. Mae paragraff 2(1) yn rhoi pŵer cyffelyb mewn perthynas ag ardaloedd parcio arbennig.
Caiff y Gorchymyn hwn ei wneud yn dilyn cais gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (“yr awdurdod lleol”) ac ymgynghoriad statudol â Phrif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru ac â'r Cyngor ar Dribiwnlysoedd.
Effaith y Gorchymyn hwn yw dynodi'n ardal barcio a ganiateir ac yn ardal barcio arbennig y cyfan o fwrdeistref sirol Wrecsam heblaw am y darn cyfan o'r A483 sydd o fewn y fwrdeistref sirol, gan gynnwys ei slipffyrdd ymuno a'i slipffyrdd ymadael, ac heblaw hefyd am yr A5 tua'r de o'i chyffordd â'r A483 i'r ffin sirol â Swydd Amwythig ac am yr A5 tua'r gorllewin o'i chyffordd â'r A483 i'w chyffordd â'r B5070 (“yr ardal barcio”). Unwaith y bydd y Gorchymyn mewn grym, rhoddir y pŵer i swyddogion parcio a gyflogir gan yr awdurdod lleol (neu a gyflogir yn swyddogion parcio gan berson y mae'r awdurdod lleol wedi gwneud trefniadau ag ef) i osod hysbysiadau ffioedd cosb ar gerbydau sy'n torri rheoliadau parcio a chânt, mewn achosion priodol, awdurdodi llusgo ymaith neu barlysu cerbydau.
Yn rhinwedd y Gorchymyn, mae'r ffioedd cosb yn yr ardal barcio i'w gosod gan yr awdurdod lleol gan roi ystyriaeth i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru. Gall yr awdurdod lleol eu hadennill fel dyledion sifil. Gwneir darpariaeth ar gyfer gwneud sylwadau i'r awdurdod lleol os digwydd i ffi gosb gael ei rhoi neu os digwydd i gerbyd gael ei lusgo ymaith neu ei barlysu. Gwaith dyfarnwyr parcio a benodwyd gan gyd-bwyllgor a ffurfiwyd yn unol â threfniadau a wnaed o dan adran 101(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fydd dyfarnu os cyfyd anghytundebau.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: