- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
1. Daw'r Gorchymyn hwn a enwir Gorchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig) (Bwrdeistref Sirol Wrecsam) i rym ar 1 Mawrth 2008.
2. Yn y Gorchymyn hwn:
ystyr “yr ardal barcio” (“the parking area”) yw'r ardal a ddynodir yn ardal barcio a ganiateir ac yn ardal barcio arbennig gan erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn;
ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(1); ac
ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf Traffig Ffyrdd 1991.
3. Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i fwrdeistref sirol Wrecsam yn ei chyfanrwydd heblaw am —
(a)y darn cyfan o'r A483, gan gynnwys ei slipffyrdd ymuno a'i slipffyrdd ymadael, sy'n dod o fewn y fwrdeistref sirol;
(b)yr A5 tua'r de o'i chyffordd â'r A483 cyn belled â'r ffin sirol â Swydd Amwythig; ac
(c)yr A5 tua'r gorllewin o'i chyffordd â'r A483 i'w chyffordd â'r B5070.
4. Mae Gweinidogion Cymru drwy hyn yn dynodi'r ardal y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddi—
(a)yn ardal barcio a ganiateir; a
(b)yn ardal barcio arbennig.
5. Mae adrannau 66, 69 i 74, 78, 79 ac 82 o Ddeddf 1991, ac Atodlen 6 iddi, yn gymwys mewn perthynas â'r ardal barcio ac yn ôl y cymhwysiad hwnnw maent yn effeithiol yn ddarostyngedig i'r addasiadau a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn.
6. Caiff Deddf 1984 ei haddasu mewn perthynas â'r ardal barcio fel a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
8 Chwefror 2008
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: