- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gwnaed
3 Chwefror 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
5 Chwefror 2008
Yn dod i rym
29 Chwefror 2008
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraeth Leol (Swyddi dan Gyfyngiadau Gwleidyddol) (Cymru) 2008, a deuant i rym ar 29 Chwefror 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;
ystyr “y Cyd-gyngor Cenedlaethol” (“the National Joint Council”) yw'r Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol; a
ystyr “Cynllun y Cyd-gyngor Cenedlaethol” (“the National Joint Council’s Scheme”) yw Cynllun Amodau Gwasanaeth y Cyd-gyngor Cenedlaethol.
3. Y swm at ddibenion adran 2(2) o'r Ddeddf (cyhyd â bod y swm yn fwy na £19,500) yw'r swm hwnnw a gyhoeddir gan y Cyd-gyngor Cenedlaethol o dro i dro o ran swyddi llawnamser o dan awdurdod lleol yng Nghymru neu Loegr fel y swm a ddynodir ar gyfer pwynt 49 ar y golofn gyflog ar y graddfeydd cyflog ar gyfer swyddogion awdurdod lleol a ymgorfforir yng Nghynllun y Cyd-gyngor Cenedlaethol.
4. Dirymir Rheoliadau Llywodraeth Leol (Swyddi dan Gyfyngiadau Gwleidyddol) (Rhif 2) 1990(3).
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
3 Chwefror 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru gan adran 2(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 baratoi a chynnal rhestr o swyddi y mae cyfradd y cydnabyddiaethau ariannol blynyddol mewn perthynas â hwy yn £19,500 neu'n fwy na hynny neu'n swm uwch a bennir neu a benderfynir o dan reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn darparu mai'r swm uwch hwnnw yw'r swm a bennir o dro i dro gan y Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol fel yr un sy'n gymwys i bwynt 49 ar y golofn gyflog ar eu graddfeydd cyflog ar gyfer swyddogion llywodraeth leol.
Mae'r Rheoliadau'n dirymu Rheoliadau Llywodraeth Leol (Swyddi dan Gyfyngiadau Gwleidyddol) (Rhif 2) 1990.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 2(2)(a) a 190(1), i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Gymru o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hynny i Weinidogion Cymru o dan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: