- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Mae'r Offeryn Statudol hwn wedi cael ei argraffu yn lle'r OS sydd â'r un rhif ac mae'n cael ei ddosbarthu yn rhad ac am ddim i holl dderbynyddion hysbys yr Offeryn Statudol hwnnw.
Offerynnau Statudol
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Gwnaed
5 Awst 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
11 Awst 2008
Yn dod i rym
1 Medi 2008
Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac fe ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli'r cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at—
(a)Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 sy'n sefydlu trefniadaeth gyffredin o farchnadoedd amaethyddol ac sy'n ymwneud â darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodol (Rheoliad Sengl CMO)(3), a
(b)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 657/2008 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 ynghylch cymorth Cymunedol am gyflenwi llaeth a chynhyrchion llaeth penodol i ddisgyblion mewn sefydliadau addysgol(4)
fel cyfeiriad at y Rheoliad hwnnw fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi(5).
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 1 Medi 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—
mae i “addysg feithrin” yr ystyr a roddir i “nursery education” o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(6);
mae i “addysg gynradd” yr ystyr a roddir i “primary education” gan adran 2(1) o Ddeddf 1996;
ystyr “ceisydd” (“claimant”) yw sefydliad addysgol cymwys neu awdurdod addysg lleol neu unrhyw gyflenwydd neu gymdeithas sy'n ceisio cymorth Cymunedol neu gymorth gwladol mewn perthynas â chynhyrchion llaeth cymwys ar ran sefydliad addysgol cymwys neu awdurdod addysg lleol;
ystyr “cost cyflenwi” (“cost of supply”) mewn perthynas â chynhyrchion llaeth cymwys yw cost eu prynu ac yn ychwanegol swm y mae'n Gweinidogion Cymru yn rhesymol ystyried ei fod yn ddigonol i dalu costau caffael a gweinyddu cyflenwi'r cynhyrchion llaeth hynny;
ystyr “y costau gweddillol” (“the residual costs”) yw'r costau cyflenwi, a dynnir gan brynwr mewn cysylltiad â chyflenwi cynhyrchion llaeth cymwys i sefydliad addysgol cymwys, llai unrhyw gymorth Cymunedol a chymorth gwladol a all gael ei roi mewn perthynas â'r cyflenwi hwnnw;
mae i “cyfnod allweddol 2” yr ystyr a roddir i “ ey stage 2” gan adran 355 o Ddeddf 1996;
ystyr “cymorth Cymunedol” (“Community aid”) yw cymorth Cymunedol a roddwyd yn unol ag Erthygl 102(1) o Reoliad y Cyngor ac yn unol â Rheoliad y Comisiwn;
ystyr “cymorth gwladol” (“national aid”) yw cymorth a roddir gan Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn yn unol ag Erthygl 102(2) o Reoliad y Cyngor;
ystyr “cynhyrchion llaeth cymwys” (“qualifying mil products”) yw'r llaeth a'r cynhyrchion llaeth a restrir yn Atodiad 1 i Reoliad y Comisiwn fel cynhyrchion sy'n gymwys ar gyfer cymorth Cymunedol;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(7);
ystyr “disgyblion cymwys” (“eligible pupils”) yw disgyblion sy'n derbyn addysg gynradd heblaw'r rhai sydd yng nghyfnod allweddol 2 neu'r rhai sy'n derbyn addysg feithrin;
ystyr “y rheolau Cymunedol” (“the Community rules”) yw'r rheolau ynghylch darparu llaeth a chynhyrchion llaeth cymorthdaledig i ddisgyblion sy'n mynychu sefydliadau addysgol, a osodir gan Reoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn;
ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 657/2008 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) 1234/2007 ynghylch cymorth Cymunedol am gyflenwi llaeth a chynhyrchion llaeth penodol i ddisgyblion mewn sefydliadau addysgol(8), fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd;
ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 sy'n ymwneud â threfniadaeth gyffredin o farchnadoedd amaethyddol ac ar ddarpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodol (Rheoliad Sengl CMO)(9) fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd;
ystyr “sefydliad addysgol cymwys” (“qualifying educational establishment”) yw sefydliad addysgol y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn; ac
ystyr “yr hyn sy'n gyfwerth â llaeth” (“mil equivalent”) yw'r swm a bennir yn Erthygl 5(2) o Reoliad y Comisiwn fel swm sy'n cynrychioli'r cynnwys sy'n gyfwerth â llaeth mewn cynhyrchion llaeth penodol.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 4 caiff Gweinidogion Cymru roi cymorth gwladol mewn cysylltiad â chyflenwi cynhyrchion llaeth cymwys i ddisgyblion mewn sefydliadau addysgol.
(2) At ddibenion paragraff (1), caiff Gweinidogion Cymru bennu math neu ddosbarthiad sefydliadau addysgol cymwys neu gynhyrchion llaeth cymwys y ceir talu cymorth gwladol mewn perthynas â hwy, drwy gyfeirio at unrhyw set o amgylchiadau sy'n briodol yn nhyb Gweinidogion Cymru.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae'r darpariaethau a ganlyn o Reoliad y Comisiwn yn gymwys mewn perthynas â chymorth gwladol megis petai yn gymorth Cymunedol—
(a)Erthygl 2 (buddiolwyr);
(b)Erthyglau 3(1) a 3(4) (cynhyrchion llaeth cymwys);
(c)Erthygl 5(4), yr is-baragraff cyntaf (nid yw llaeth a chynhyrchion llaeth a ddefnyddir wrth baratoi prydau i gael cymorth);
(ch)Erthygl 8 (amodau cyffredinol ar gyfer cymeradwyaeth),
(d)Erthygl 9 (amodau penodol ar gyfer cymeradwyo ymgeiswyr penodol);
(dd)Erthygl 10 (atal cymeradwyaeth dros dro a'i dynnu'n ôl);
(e)Erthygl 11 (ceisiadau am daliadau);
(f)Erthygl 12 (talu cymorth);
(ff)Erthygl 14 (monitro prisiau);
(g)Erthygl 15 (rheolaethau a sancsiynau).
4.—(1) Rhaid i gymorth gwladol o dan reoliad 3 gael ei roi yn ddarostyngedig i'r amodau a bennir ym mharagraff (2).
(2) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
(a)bod ceisyddion wedi'u cofrestru neu wedi'u cymeradwyo gan Weinidogion Cymru at ddibenion hawlio cymorth Cymunedol;
(b)bod Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod ceisydd a sefydliad addysgol cymwys (os ydynt yn wahanol), yn cydymffurfio, ac wedi cydymffurfio, â'r rheolau Cymunedol ac ag unrhyw rwymedigaethau neu ofynion eraill a all fod Gweinidogion Cymru wedi eu hysbysu hwy ohonynt;
(c)ar gyfer unrhyw sefydliad addysgol cymwys, mai mwyafswm y cynhyrchion llaeth cymwys y ceir rhoi cymorth gwladol mewn perthynas ag ef yw 0.25 litr o laeth neu'r hyn sy'n gyfwerth â llaeth, yn ôl y digwydd, am bob disgybl ar gofrestr yr ysgol, am bob diwrnod ysgol;
5. Pan roddir cymorth gwladol mewn cysylltiad â chyflenwi cynnyrch llaeth cymwys sydd naill ai â chyflas neu hebddo, yn llaeth cyflawn neu'n laeth hanner sgim, i ddisgyblion cymwys, caiff y swm a roddir felly fod yn swm digonol i dalu'r costau gweddilliol a fuasai fel arall yn cael eu talu gan y disgyblion neu eu rhieni neu eu gwarcheidwaid mewn perthynas â'r cyflenwi hwnnw.
6. Rhaid i gymorth gwladol a roddir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 3 gael ei dalu i geisyddion gan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig sy'n gweithredu fel asiant Gweinidogion Cymru(10).
7.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru o hawlio hynny ddal yn ôl neu adennill oddi ar unrhyw geisydd y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gymorth Cymunedol neu gymorth gwladol a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn os ydynt wedi'u bodloni nad yw'r ceisydd neu sefydliad addysgol cymwys y mae ceisydd wedi gwneud cais mewn perthynas ag ef yn cydymffurfio neu nad yw wedi cydymffurfio ag unrhyw un o'r amodau a bennir yn rheoliad 4(2).
(2) Cyn cymryd unrhyw gamau o dan baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)roi rhesymau ysgrifenedig i'r ceisydd dros y camau y bwriada Gweinidogion Cymru eu cymryd;
(b)rhoi cyfle i'r ceisydd wneud sylwadau ysgrifenedig o fewn y fath gyfnod o amser a ystyrir yn rhesymol gan Weinidogion Cymru; ac
(c)ystyried unrhyw sylwadau o'r fath.
(3) Mae unrhyw arian sy'n ddyledus i Weinidogion Cymru yn rhinwedd y Rheoliadau hyn yn adenilladwy fel dyled.
8.—(1) At ddibenion cyfrifo cymorth gwladol mewn sterling, rhaid i Weinidogion Cymru bennu'r gyfradd gyfnewid rhwng sterling a'r ewro sydd i'w chymhwyso at gyfrifiad o'r fath ac, yn ddarostyngedig i baragraff (2) cânt ddiwygio'r gyfradd honno o dro i dro.
(2) Cyn unrhyw ddiwygiad arfaethedig ar y gyfradd gyfnewid rhwng sterling a'r ewro yn unol â pharagraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru roi o leiaf 14 niwrnod o hysbysiad ysgrifenedig i geisyddion am y gyfradd ddiwygiedig sydd i'w chymhwyso.
9. Mae Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2001(11) yn cael eu dirymu.
John Griffiths
O dan awdurdod y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
5 Awst 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 1 Medi 2008 yn rhoi ar waith fesurau mewn perthynas ag Erthygl 102 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 sy'n sefydlu trefniadaeth gyffredin o farchnadoedd amaethyddol ac sy'n ymwneud â darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodol (Rheoliad Sengl CMO)(12).
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2001(13).
Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 ac at Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 657/2008(14) sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 ynghylch cymorth Cymunedol am gyflenwi llaeth a chynhyrchion llaeth penodol i ddisgyblion mewn sefydliadau addysgol (OJ Rhif L 183, 11.7.08, t.17) yn gyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd.
Caiff Gweinidogion Cymru roi cymorth gwladol (sy'n cydategu cymorth y Gymuned Ewropeaidd) mewn cysylltiad â chyflenwi llaeth a chynhyrchion llaeth penodol i ddisgyblion mewn sefydliadau addysgol (rheoliad 3(1)).
Caiff Gweinidogion Cymru bennu math neu ddosbarthiad sefydliadau addysgol neu gynhyrchion llaeth y ceir talu cymorth gwladol mewn cysylltiad â hwy (rheoliad 3(2)).
Rhaid i gymorth gwladol a roddir gan Weinidogion Cymru fod yn ddarostyngedig i'r un rheolau a'r un gofynion ac amodau ag sy'n gymwys i gymorth y Gymuned o dan Erthygl 102(1) o Reoliad y Cyngor ac sydd i'w cael yn Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 657/2008 (rheoliad 4(2)).
Os rhoddir cymorth gwladol mewn cysylltiad â chyflenwi llaeth cyflawn neu laeth hanner sgim, â chyflas neu heb gyflas, i ddisgyblion cynradd heblaw'r rhai sy'n derbyn addysg feithrin neu'r rhai sydd yng nghyfnod allweddol 2, caiff cyfanswm y cymorth hwnnw fod yn swm sy'n ddigonol i dalu unrhyw gost a fuasai fel arall yn gorfod cael ei thalu gan y disgyblion hynny neu eu rhieni neu eu gwarcheidwaid mewn amgylchiadau lle nad yw cymorth Cymunedol yn talu'n llawn am gost cyflenwi'r cynnyrch hwnnw (rheoliad 5).
Yn rhinwedd adran 59(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.
1972 p. 68. Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi mewn perthynas â materion sydd wedi'u pennu yn Atodlen 3 i Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 2006 (O.S. 2005/2766).
OJ Rhif L 299, 16.11.07, t.1; a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 361/2008 (OJ Rhif L 121, 7.05.08, t 1).
OJ Rhif L 183, 11.07.08, t.17.
Mewnosodwyd gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoliadol 2006 (p. 51).
OJ Rhif L 183, 11.07.08, t.17
OJ Rhif L 299, 16.11.07, t.1; a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 361/2008 (OJ Rhif L 121, 7.05.08, t.1).
Mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud trefniadau gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i'r Asiantaeth Taliadau Gwledig wneud taliadau cymorth gwladol ar ran Gweinidogion Cymru yn unol ag adran 83 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
OJ Rhif L 299, 16.11.07, t.1.
OJ Rhif L 183, 11.07.08, t.17.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: