- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
28. Ar ôl rheoliad 89, mewnosoder—
“89A.—(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, caiff Gweinidogion Cymru dalu grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn unrhyw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar unrhyw adegau y maent yn barnu eu bod yn briodol.
(2) Mae'n ofynnol i sefydliad anfon cadarnhad o bresenoldeb at Weinidogion Cymru.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r rhandaliad cyntaf neu, os penderfynwyd peidio â thalu grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn rhandaliadau, wneud unrhyw daliad o'r grant hwnnw i fyfyriwr rhan-amser cymwys cyn iddynt gael cadarnhad o bresenoldeb oni bai bod yr eithriad ym mharagraff (4) yn gymwys.
(4) Mae'r eithriad yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu y byddai'n briodol, o achos amgylchiadau eithriadol, iddynt wneud taliad heb gael cadarnhad o bresenoldeb.
(5) Pan na ellir gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a ddarparwyd gan y myfyriwr, caiff Gweinidogion Cymru wneud asesiad a thaliad dros dro o grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion.
(6) Caniateir i daliadau o grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion gael eu gwneud mewn unrhyw fodd sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru a chânt ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad fod yn rhaid i'r myfyriwr rhan-amser cymwys roi iddynt fanylion cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.
(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), nid oes unrhyw gymorth ar ffurf grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn ddyledus mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod mewn blwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn garcharor arno, oni fyddai'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru yn yr holl amgylchiadau i'r cymorth gael ei dalu mewn perthynas â'r diwrnod hwnnw.
(8) Wrth benderfynu a fyddai'n briodol i gymorth fod yn ddyledus o dan baragraff (7), mae'r amgylchiadau y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt yn cynnwys y caledi ariannol a fyddai'n cael ei achosi pe na bai'r cymorth yn cael ei dalu ac a fyddai'n effeithio ar allu'r myfyriwr i barhau â'r cwrs pe na bai'r cymorth yn cael ei dalu.
(9) Nid oes unrhyw gymorth ar ffurf grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn ddyledus mewn perthynas ag unrhyw gyfnod talu sy'n dechrau ar ôl i gyfnod cymhwystra myfyriwr rhan-amser cymwys ddod i ben.
(10) Pan fo cyfnod cymhwystra myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod i ben ar neu ar ôl y dyddiad perthnasol, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu—
(a)swm pob grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael ac a fyddai'n daladwy mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol os nad oedd cyfnod cymhwystra'r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dod i ben (y “swm llawn”); a
(b)faint o'r cyfanswm sy'n ddyledus mewn perthynas â'r cyfnod sy'n ymestyn o ddiwrnod cyntaf y cyfnod talu perthnasol hyd at a chan gynnwys y diwrnod y daeth cyfnod cymhwystra'r myfyriwr rhan-amser cymwys i ben (y “swm rhannol”).
(11) Yn y rheoliad hwn “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw'r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd o dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.
(12) Os yw Gweinidogion Cymru wedi gwneud taliad o grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol cyn y pwynt yn y cyfnod hwnnw pryd y daeth cyfnod cymhwystra'r myfyriwr rhan-amser cymwys i ben a bod y taliad hwnnw'n fwy na swm rhannol y grant hwnnw—
(a)cânt drin y tôl dros ben fel gordaliad o'r grant hwnnw; neu
(b)os ydynt o'r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny, cânt estyn cyfnod cymhwystra'r myfyriwr mewn perthynasâ'r grant rhan-amser hwnnw ar gyfer dibynyddion hyd ddiwedd y cyfnod talu perthnasol a chânt benderfynu bod cyfanswm y grant yn ddyledus mewn perthynas â'r cyfnod talu hwnnw.
(13) Os yw taliad grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol i'w dalu ar ôl i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr rhan-amser cymwys ddod i ben neu os dyna pryd y caiff ei dalu, swm y grant rhan-amser hwnnw ar gyfer dibynyddion sy'n ddyledus yw'r swm rhannol onid yw Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn briodol i estyn y cyfnod cymhwystra mewn perthynas â'r grant hwnnw hyd ddiwedd y cyfnod talu perthnasol ac i benderfynu bod cyfanswm y grant hwnnw'n ddyledus mewn perthynas â'r cyfnod talu hwnnw.
(14) Nid oes unrhyw gymorth ar ffurf grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn ddyledus mewn perthynas â chyfnod talu y mae myfyriwr rhan-amser cymwys yn absennol o'i gwrs yn ystod unrhyw ran ohono, oni fyddai'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru yn yr holl amgylchiadau i'r cymorth gael ei dalu mewn perthynas â'r cyfnod o absenoldeb.
(15) Wrth benderfynu a fyddai'n briodol i gymorth fod yn ddyledus o dan baragraff (14), mae'r amgylchiadau y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt yn cynnwys y rheswm dros absenoldeb y myfyriwr, hyd y cyfnod o absenoldeb a'r caledi ariannol a fyddai'n cael ei achosi pe na fyddai'r cymorth yn cael ei dalu.
(16) Ni ddylid ystyried bod myfyriwr rhan-amser cymwys yn absennol o'i gwrs os yw'n methu ei fynychu oherwydd salwch ac os nad yw wedi bod yn absennol am fwy na 60 o ddiwrnodau.
(17) Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl iddynt wneud unrhyw daliad o gymorth ar ffurf grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion, yn penderfynu swm y grant hwnnw y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael naill ai am y tro cyntaf neu ar ffurf adolygiad o benderfyniad dros dro neu benderfyniad arall ynghylch y swm hwnnw—
(a)os yw'r penderfyniad yn cynyddu swm y grant hwnnw y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael, rhaid iddynt dalu'r swm ychwanegol mewn unrhyw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar unrhyw adegau y maent yn barnu eu bod yn briodol;
(b)os yw'r penderfyniad yn gostwng swm y grant hwnnw y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael, rhaid iddynt dynnu i ffwrdd swm y gostyngiad o swm y grant hwnnw sydd ar ôl i'w dalu;
(c)os yw swm y gostyngiad yn fwy na swm y grant hwnnw sydd ar ôl i'w dalu, gostyngir y swm diwethaf hwn i ddim a chaiff y balans ei dynnu i ffwrdd o unrhyw elfen arall o grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr hawl i'w chael mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd;
(ch)gellir adennill unrhyw ordaliad sy'n weddill yn unol â rheoliad 91.”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: