- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
24. Ar ôl rheoliad 83, mewnosoder—
83A.—(1) Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion ar yr amod—
(a)nad yw'r myfyriwr rhan-amser wedi'i hepgor rhag bod â hawl gan unrhyw un o'r paragraffau canlynol, rheoliad 79 neu reoliad 81; a
(b)bod y myfyriwr rhan-amser yn bodloni amodau'r hawl i gael y grant penodol y mae'n gwneud cais amdano.
(2) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion os yw'n garcharor.
83B.—(1) Mae'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn cynnwys yr elfennau canlynol—
(a)grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed;
(b)grant rhan-amser ar gyfer gofal plant;
(c)lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni.
(2) Mae amodau'r hawl ar gyfer pob elfen a'r symiau sy'n daladwy mewn perthynas â phob elfen wedi'u nodi, yn eu tro, yn rheoliadau 83C i 83G ac wedi'u penderfynu'n unol â'r rheoliadau hynny.
(3) Caniateir didynnu swm o unrhyw un o elfennau'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn unol â rheoliadau 83F ac 83Ff.
83C.—(1) Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs rhan-amser dynodedig yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Mae'r grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed ar gael mewn perthynas ag un dibynnydd myfyriwr rhan-amser cymwys sydd naill ai —
(a)yn bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys; neu
(b)yn ddibynnydd mewn oed i'r myfyriwr rhan-amser cymwys nad yw ei incwm net yn fwy na £3,705.
(3) Mae swm y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliadau 83Dd ac 83F i 83G, a'r swm sylfaenol yw—
(a)£2,580; neu
(b)os yw'r person y mae'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn gwneud cais mewn perthynas ag ef am grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed yn preswylio fel arfer y tu allan i'r Deyrnas Unedig, unrhyw swm nad yw'n fwy na £2,580 ac sydd ym marn Gweinidogion Cymru yn rhesymol yn yr amgylchiadau.
83CH.—(1) Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl, mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs rhan-amser dynodedig, i gael grant rhan-amser ar gyfer gofal plant yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), mae'r grant rhan-amser ar gyfer gofal plant ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn tynnu costau gofal plant rhagnodedig ynddi ar gyfer —
(a)plentyn dibynnol sydd o dan 15 oed yn union cyn dechrau'r flwyddyn academaidd; neu
(b)plentyn dibynnol sydd ag anghenion addysgol arbennig o fewn ystyr adran 312 o Ddeddf Addysg 1996(1) ac sydd o dan 17 oed yn union cyn dechrau'r flwyddyn academaidd.
(3) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn os yw'r myfyriwr neu bartner y myfyriwr wedi dewis cael elfen gofal plant y credyd treth gweithio o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002(2).
(4) Nid yw myfyriwr rhan-amser cymwys yn gymwys i gael grant o dan y rheoliad hwn os yw'r costau gofal plant rhagnodedig y mae'n eu tynnu'n cael eu talu neu os ydynt i'w talu gan y myfyriwr i'w bartner.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rheoliad83Dd a rheoliadau 83F i 83G, swm sylfaenol y grant gofal plant am bob wythnos yw—
(a)ar gyfer un plentyn dibynnol, 85 y cant o'r costau gofal plant rhagnodedig, hyd at uchafswm o £157.25 yr wythnos; neu
(b)ar gyfer dau neu fwy o blant dibynnol, 85 y cant o'r costau gofal plant rhagnodedig, hyd at uchafswm o £267.67 yr wythnos,
ac eithrio nad oes gan y myfyriwr hawl i gael unrhyw grant o'r fath mewn perthynas â phob wythnos sy'n syrthio o fewn y cyfnod rhwng diwedd y cwrs a diwedd y flwyddyn academaidd y daw'r cwrs i ben ynddi.
(6) Er mwyn cyfrifo swm sylfaenol y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant—
(a)mae wythnos yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sul; a
(b)os yw wythnos y caiff costau gofal plant rhagnodedig eu tynnu mewn perthynas â hi yn syrthio'n rhannol o fewn y flwyddyn academaidd y mae grant rhan-amser ar gyfer gofal plant yn daladwy mewn perthynas â hi o dan y rheoliad hwn ac yn rhannol y tu allan iddi, mae uchafswm wythnosol y grant yn cael ei gyfrifo drwy luosi'r uchafswm wythnosol perthnasol ym mharagraff (5) â nifer y dyddiau yn yr wythnos honno sy'n syrthio o fewn y flwyddyn academaidd a rhannu'r canlyniad â saith.
(7) Yn y rheoliad hwn, ystyr “costau gofal plant rhagnodedig” (“prescribed childcare charges”) yw costau gofal plant o ddisgrifiad a ragnodir at ddibenion adran 12 o Ddeddf Credydau Treth2002(3).
83D.—(1) Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs rhan-amser dynodedig i gael y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni os oes ganddo un neu fwy o ddibynyddion sy'n blant dibynnol.
(2) Mae swm y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo'n unol â rheoliadau 83Dd ac 83F i 83G, a'r swm sylfaenol yw £1,470.
83Dd.—(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol a rheoliadau 83F i 83G, y swm sy'n daladwy mewn perthynas ag elfen benodol o'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i'w cael yw'r swm hwnnw o'r elfen honno sy'n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes y daw i ben, swm sy'n hafal i (A − B) fel a ganlyn ac yn y drefn ganlynol—
(a)i ostwng swm sylfaenol y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 83C;
(b)i ostwng swm sylfaenol y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant am y flwyddyn academaidd os oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 83Ch; ac
(c)i ostwng swm sylfaenol y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni os oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 83D.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5) a (13), os yw B yn fwy nag A neu'n hafal iddi, mae swm sylfaenol pob elfen o'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i'w chael yn daladwy.
(3) Os yw (A − B) yn hafal i gyfanswm symiau sylfaenol elfennau'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i'w cael neu os yw'n fwy na chyfanswm y symiau hynny, y swm sy'n daladwy mewn perthynas â phob elfen yw dim.
(4) Gostyngir swm y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan baragraff (1) mewn perthynas â dibynnydd mewn oed gan hanner y swm—
(a)os yw partner y myfyriwr rhan-amser cymwys—
(i)yn fyfyriwr rhan-amser cymwys; neu
(ii)yn dal dyfarniad statudol; a
(b)os cymerir i ystyriaeth ddibynyddion y partner hwnnw wrth gyfrifo swm y cymorth y mae'r partner yn ymgymhwyso ar ei gyfer neu'r taliad y mae ganddo hawl iddo o dan y dyfarniad statudol.
(5) Gostyngir swm y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant a gyfrifir o dan baragraff (1) gan hanner y swm—
(a)os yw partner y myfyriwr rhan-amser cymwys—
(i)yn fyfyriwr rhan-amser cymwys; neu
(ii)yn dal dyfarniad statudol; a
(a)os cymerir i ystyriaeth ddibynyddion y partner hwnnw wrth gyfrifo swm y cymorth y mae'r partner yn ymgymhwyso ar ei gyfer neu'r taliad y mae ganddo hawl iddo o dan y dyfarniad statudol.
(6) Os yw swm y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu fwy ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni sy'n daladwy yw £50.
(7) Yn y rheoliad hwn—
A yw cyfanswm incwm net pob un o ddibynyddion y myfyriwr rhan-amser cymwys; a
B yw—
£1,130 os nad oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys blentyn dibynnol;
£3,385 os nad yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;
£4,515 yn achos y myfyriwr rhan-amser cymwys—
os nad yw'n rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol; neu
os yw'n rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;
£5,650 os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.
(8) Mae paragraffau (9) i (12) yn gymwys os bydd unrhyw un o'r canlynol yn digwydd yn ystod y flwyddyn academaidd—
(a)bod nifer dibynyddion y myfyriwr rhan-amser cymwys yn newid;
(b)bod person yn dod yn ddibynnydd i'r myfyriwr rhan-amser cymwys neu'n peidioâ bod yn ddibynnydd iddo;
(c)bod y myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod yn rhiant unigol neu'n peidio â bod yn rhiant unigol;
(ch)bod myfyriwr yn dod yn fyfyriwr rhan-amser cymwys o ganlyniad i ddigwyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 79(21)(a), (b), (d), (dd), (e), (f) neu (ff).
(9) Er mwyn penderfynu priod werthoedd A a B ac a oes grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed neu lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni yn daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y canlynol mewn perthynas â phob chwarter perthnasol drwy gyfeirio at amgylchiadau'r myfyriwr yn y chwarter perthnasol—
(a)faint o ddibynyddion y mae'r myfyriwr rhan-amser cymwys i gael ei drin fel pe baent ganddo;
(b)pwy yw'r dibynyddion hynny;
(c)a yw'r myfyriwr i gael ei drin fel rhiant unigol.
(10) Swm y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm symiau'r grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed a'r lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni wedi'u cyfrifo mewn perthynas â phob chwarter perthnasol o dan baragraff (11) a swm unrhyw grant rhan-amser ar gyfer gofal plant am y flwyddyn academaidd.
(11) Mae swm y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed a'r lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni mewn perthynas â chwarter perthnasol yn draean o'r hyn a fyddai'n swm y grant neu'r lwfans am y flwyddyn academaidd pe bai amgylchiadau'r myfyriwr yn y chwarter perthnasol fel y'u pennir o dan baragraff (9) yn gymwys drwy gydol y flwyddyn academaidd.
(12) Yn y rheoliad hwn, ystyr “chwarter perthnasol” (“relevant quarter”) yw—
(a)yn achos person y cyfeirir ato ym mharagraff (8)(ch), chwarter sy'n dechrau ar ôl i'r digwyddiad perthnasol ddigwydd ac eithrio chwarter pryd y mae'r un hiraf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn Gweinidogion Cymru;
(b)fel arall, chwarter ac eithrio'r chwarter pryd y mae'r un hiraf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn Gweinidogion Cymru.
(13) Caniateir i ddidyniad gael ei wneud yn unol â rheoliadau 83F ac 83Ff o'r swm sy'n daladwy o ran elfen benodol o'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion a gyfrifir o dan y Rhan hon.
83E.—(1) Yn rheoliadau 83C i 83Dd—
(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (j), ystyr “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys, yw person mewn oed sy'n dibynnu ar y myfyriwr ac eithrio plentyn y myfyriwr, partner y myfyriwr (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru o'r farn bod y myfyriwr wedi gwahanu oddi wrtho) neu gyn bartner y myfyriwr;
(b)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr sy'n ddibynnol arno ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr gyfrifoldeb rhiant drosto ac sy'n ddibynnol arno;
(c)ystyr “dibynnydd” (“dependant”), mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys, yw partner y myfyriwr, plentyn dibynnol y myfyriwr neu ddibynnydd mewn oed, nad yw ym mhob achos yn fyfyriwr cymwys ac nad oes ganddo ddyfarniad statudol;
(ch)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf;
(d)ystyr “plentyn dibynnol” (“dependent child”), mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys yw plentyn sy'n ddibynnol arno;
(dd)ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw myfyriwr rhan-amser cymwys nad oes ganddo bartner ac sydd â phlentyn dibynnol neu blant dibynnol;
(e)mae i “incwm net” (“net income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (2);
(f)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (ff), (g), (ng), (h) ac (i), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o'r canlynol —
(i)priod myfyriwr rhan-amser cymwys;
(ii)partner sifil myfyriwr rhan-amser cymwys;
(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel petai'n briod iddo pan fo myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod o dan baragraff 2(1)(a) o Atodlen 6 a'i fod wedi dechrau'r cwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;
(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel petai'n bartner sifil iddo pan fo myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod o dan baragraff 2(1)(a) o Atodlen 6 a'i fod wedi dechrau'r cwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;
(ff)oni nodir fel arall, nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (f) yn cael ei drin fel partner—
(i)os yw'r person hwnnw a'r myfyriwr rhan-amser cymwys, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu; neu
(ii)os yw'r person fel arfer yn byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac nad yw'n cael ei gynnal gan y myfyriwr rhan-amser cymwys;
(g)at ddibenion y diffiniad o “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), mae person i'w drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (f) oni bai am y ffaith nad yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn syrthio o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 6;
(ng)at ddibenion y diffiniadau o “plentyn” (“child”) a “rhiant unigol” (“lone parent”), mae person i'w drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (f) oni bai am y dyddiad y dechreuodd y myfyriwr rhan-amser cymwys ar ei gwrs dynodedig a bennir neu'r ffaith nad yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn syrthio o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 6;
(h)at ddibenion rheoliad 83Ch —
(i)nid yw is-baragraff (ff) yn gymwys; a
(ii)mae person i'w drin fel pe bai'n bartner pe byddai'n bartner o dan is-baragraff (f) oni bai am y ffaith nad yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys y mae fel arfer yn byw gydag ef yn syrthio o fewn paragraff (2)(1)(a) o Atodlen 6;
(i)at ddibenion penderfynu a yw rhywun yn gynbartner i bartner i fyfyriwr rhan-amser cymwys, ystyr “partner” (“partner”), o ran partner i fyfyriwr rhan-amser cymwys, yw—
(i)priod partner i fyfyriwr rhan-amser cymwys;
(ii)partner sifil i bartner myfyriwr rhan-amser cymwys;
(iii)pan fo myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dechrau'r cwrs rhan-amser dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2000, rhywun sydd fel arfer yn byw gyda phartner myfyriwr rhan-amser cymwys fel petai'n briod iddo;
(iv)pan fo myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dechrau'r cwrs rhan-amser dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2005, rhywun sydd fel arfer yn byw gyda phartner myfyriwr rhan-amser cymwys fel petai'n bartner sifil iddo;
(j)yn ddarostyngedig i is-baragraff (l), at ddibenion y diffiniadau o “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”) a “plentyn dibynnol” (“dependent child”), caiff Gweinidogion Cymru ymdrin ag oedolyn neu blentyn fel un sy'n ddibynnol ar fyfyriwr rhan-amser cymwys os ydynt wedi'u bodloni nad yw'r oedolyn neu'r plentyn—
(i)yn ddibynnol ar—
(aa)y myfyriwr rhan-amser cymwys; neu
(bb)ei bartner; ond
(ii)yn ddibynnol ar y myfyriwr rhan-amser cymwys a'i bartner gyda'i gilydd;
(l)rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thrin oedolyn (“A”) fel un sy'n ddibynnol ar fyfyriwr rhan-amser cymwys yn unol ag is-baragraff (j), os yw A—
(i)yn briod neu'n bartner sifil i bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys (yn cynnwys priod neu bartner sifil yr ystyria Gweinidogion Cymru bod partner y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi gwahanu oddi wrtho); neu
(ii)yn gynbartner partner y myfyriwr rhan-amser cymwys.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell am y flwyddyn academaidd o dan sylw wedi'i ostwng yn ôl swm y dreth incwm a'r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy'n daladwy mewn perthynas â hi ond gan anwybyddu—
(a)unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd sydd gan y dibynnydd;
(b)budd-dal plant sy'n daladwy o dan Ran IX o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(4);
(c)unrhyw gymorth ariannol sy'n daladwy i'r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 2, 3 a 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(5);
(ch)unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;
(d)yn achos dibynnydd y mae plentyn sy'n derbyn gofal awdurdod lleol wedi'i fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i'r dibynnydd hwnnw yn unol ag adran 23 o Ddeddf Plant 1989(6);
(dd)unrhyw daliadau a wneir i'r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn perthynas â pherson nad yw'n blentyn i'r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 24 o'r Ddeddf honno(7); ac
(e)unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002(8).
(3) Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys neu bartner y myfyriwr yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd gynt yn cael eu gwneud gan y myfyriwr yn unol â rhwymedigaeth a ysgwyddwyd cyn blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y myfyriwr, incwm net y partner yw'r incwm net wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2) ac wedi'i ostwng yn ôl—
(a)swm sy'n hafal i'r taliadau o dan sylw am y flwyddyn academaidd, os cafodd y rhwymedigaeth, ym marn Gweinidogion Cymru, ei hysgwyddo'n rhesymol; neu
(b)unrhyw swm llai, os bydd unrhyw swm o gwbl, sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru, pe gallai rhwymedigaeth lai fod wedi'i hysgwyddo'n rhesymol yn eu barn hwy.
(4) At ddibenion paragraff (2), os yw'r dibynnydd yn blentyn dibynnol a bod taliadau'n cael eu gwneud i'r myfyriwr rhan-amser cymwys tuag at gynhaliaeth y plentyn, mae'r taliadau hynny i gael eu trin fel incwm y plentyn.
83F.—(1) Cyfraniadau myfyriwr rhan-amser cymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd a grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn perthynas â'r flwyddyn honno yw'r swm a gyfrifir o dan Atodlen 6, os oes unrhyw swm o gwbl.
(2) At ddibenion arfer swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan y Ddeddf a'r rheoliadau a wnaed odani, caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr rhan-amser cymwys roi o bryd i'w gilydd unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn angenrheidiol am incwm unrhyw berson y mae ei foddion yn berthnasol ar gyfer asesu cyfraniad y myfyriwr.
83Ff.—(1) Mae swm sy'n hafal i'r cyfraniad neu i weddill y cyfraniad, yn ôl y digwydd, a gyfrifir o dan Atodlen 6 i'w gymhwyso nes ei ddihysbyddu yn erbyn swm yr elfen benodol o'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i'w cael fel a ganlyn—
(a)yn gyntaf, i ostwng PTADG;
(b)yn ail, i ostwng PTCCG;
(c)yn drydydd, i ostwng PTPLA.
(2) Yn y rheoliad hwn—
(a)PTADG yw swm y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 83Dd;
(b)PTCCG yw swm y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 83Dd;
(c)PTPLA yw swm y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 83Dd (ac eithrio £50 cyntaf y lwfans).
83G.—(1) Penderfynir y swm sy'n daladwy mewn perthynas ag elfen benodol o'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Mae'r swm sy'n daladwy yn amrywio yn ôl pa mor ddwys yw'r astudio. Cyfrifir pa mor ddwys yw'r astudio fel a ganlyn a'i fynegi fel canran
ac mae i
PT ac FT yr ystyron a roddir iddynt gan reoliad 82(2) a (3).
(3) Yn achos grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed, os yw dwysedd yr astudio yn—
(a)50 y cant neu fwy ond yn llai na 60 y cant, mae'r swm sy'n daladwy yn hafal i 50 y cant o'r swm sy'n deillio o hyn;
(b)60 y cant neu fwy ond yn llai na 75 y cant, mae'r swm sy'n daladwy yn hafal i 60 y cant o'r swm sy'n deillio o hyn;
(c)75 y cant neu fwy, mae'r swm sy'n daladwy yn hafal i 75 y cant o'r swm sy'n deillio o hyn.
(4) At ddibenion paragraff (3), ystyr “y swm sy'n deillio o hyn” (“the resulting amount”) yw swm y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed a benderfynir yn unol â rheoliad 83Dd a'r didyniadau (os oes rhai o gwbl) wedi'u cymhwyso'n unol â rheoliad 83Ff.
(5) Yn achos grant rhan-amser ar gyfer gofal plant, os yw dwysedd yr astudio yn—
(a)50 y cant neu fwy ond yn llai na 60 y cant, mae'r swm sy'n daladwy yn hafal i 50 y cant o'r swm sy'n deillio o hyn;
(b)60 y cant neu fwy ond yn llai na 75 y cant, mae'r swm sy'n daladwy yn hafal i 60 y cant o'r swm sy'n deillio o hyn;
(c)75 y cant neu fwy, mae'r swm sy'n daladwy yn hafal i 75 y cant o'r swm sy'n deillio o hyn.
(6) At ddibenion paragraff (5), ystyr “y swm sy'n deillio o hyn” (“the resulting amount”) yw swm y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant a benderfynir yn unol â rheoliad 83Dd a'r didyniadau (os oes rhai o gwbl) wedi'u cymhwyso'n unol â rheoliad 83Ff.
(7) Yn achos lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni, os yw dwysedd yr astudio yn—
(a)50 y cant neu fwy ond yn llai na 60 y cant, mae'r swm sy'n daladwy yn hafal i 50 y cant o'r swm sy'n deillio o hyn;
(b)60 y cant neu fwy ond yn llai na 75 y cant, mae'r swm sy'n daladwy yn hafal i 60 y cant o'r swm sy'n deillio o hyn;
(c)75 y cant neu fwy, mae'r swm sy'n daladwy yn hafal i 75 y cant o'r swm sy'n deillio o hyn.
(8) At ddibenion paragraff (7), ystyr “y swm sy'n deillio o hyn” (“the resulting amount”) yw swm y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni a benderfynir yn unol â rheoliad 83Dd a'r didyniadau (os oes rhai o gwbl) wedi'u cymhwyso'n unol â rheoliad 83Ff.”.
1996 p. 56; diwygiwyd adran 312 gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), Atodlen 7, paragraff 23, Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140, Atodlen 30, paragraff 71 ac Atodlen 31 a Deddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21), Atodlen 9, paragraff 56 a Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40), Atodlen 1, paragraff 3.
2002 (p. 21) y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
Mae rheoliad 14 o Reoliadau Credyd Treth Gwaith (Hawlogaeth a'r Gyfradd Uchaf) 2002 (O.S. 2002/2005) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/701, O.S. 2003/2815, O.S. 2004/762, O.S. 2004/1276, O.S. 2004/2663, O.S. 2005/769, O.S. 2005/2919, O.S. 2006/766, O.S. 2007/824, O.S. 2007/2479 ac O.S. 2008/604 yn nodi'r costau a ragnodir, ac felly costau gofal plant perthnasol, at ddibenion adran 12 o Ddeddf Credydau Treth 2002.
1992 p. 4 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
1989 p. 41. Diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf y Llysoedd a Gwasanaethau Cyfreithiol 1990 (p. 41), Atodlen 16, paragraff 12, Deddf Safonau Gofal 2000 (p.14), Atodlen 4, paragraff 14 a Deddf Plant 2004 (p.31), adran 49(3).
Mae diwygiadau i adrannau 15 a 24 ac Atodlen 1 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
2002 p. 21 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: