- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
GWASANAETHAU TÅN AC ACHUB, CYMRU
Gwnaed
30 Ionawr 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1 Chwefror 2008
Yn dod i rym
29 Chwefror 2008
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn yr Awdurdodau Tân ac Achub (Cynlluniau Gwella) (Cymru) 2008 a daw i rym ar 29 Chwefror 2008.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “cynllun gwella” (“improvement plan”) yw cynllun perfformiad gwerth gorau o fewn ystyr “best value performance plan” yn adran 6(1) o'r Ddeddf; ac
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1999.
(3) Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys ond i awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru sydd yn awdurdod tân ac achub a gyfansoddir drwy gynllun y mae adran 4 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(3) yn gymwys iddo ac yn cael effaith mewn perthynas â'r flwyddyn 2008-2009 a blynyddoedd ariannol dilynol.
2. Rhaid i awdurdodau gwerth gorau gyhoeddi eu cynllun gwella am flwyddyn ariannol erbyn 31 Hydref o'r flwyddyn y mae'r cynllun yn berthnasol iddi.
3. Rhaid i gopïau o adroddiad archwilydd ynghylch cynllun gwella gael ei anfon yn unol ag adran 7(5) o'r Ddeddf erbyn 30 Tachwedd o'r flwyddyn y mae'r cynllun yn berthnasol iddi.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
30 Ionawr 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae Rhan I o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol ac awdurdodau eraill i baratoi cynllun perfformiad gwerth gorau (a elwir “cynllun gwella” yn y Gorchymyn hwn) ar gyfer pob blwyddyn ariannol.
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid cyhoeddi cynllun gwella awdurdod tân ac achub ar gyfer blwyddyn ariannol ac erbyn pa ddyddiad y mae copïau o adroddiad archwilydd ynglŷn â'r cynllun i gael eu hanfon at yr awdurdod, at Archwilydd Cyffredinol Cymru, ac os yw hynny'n ofynnol, at Weinidogion Cymru.
Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi gan y Gangen Gwasanaethau Tân ac Achub, Yr Is-adran Diogelwch Cymuned, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Rhydycar, Merthyr Tydfil, CF48 1UZ (ffôn 01685 729221).
Roedd pwer yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 6(3) a 7(6), o ran Cymru, yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd adran 29(1). Mae'r pwer hwnnw bellach wedi'i freinio yng Ngweinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: