- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
1 Gorffennaf 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
3 Gorffennaf 2008
Yn dod i rym
1 Awst 2008
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2008 a deuant i rym ar 1 Awst 2008.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003(3) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3, yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—
“mae “cyfnod sylfaen” (“foundation stage”) i'w ddehongli yn unol ag adran 102 o Ddeddf Addysg 2002(4)”.
(3) Yn rheoliad 5 yn lle paragraff (1) rhodder—
“(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw sesiwn ysgol sy'n dod o fewn y blynyddoedd ysgol 2008—2009 a 2009—2010 a gaiff ei neilltuo (yn llwyr neu yn bennaf) i ddarparu hyfforddiant (gan gynnwys hyfforddiant a fynychir gan staff sy'n addysgu a staff nad yw'n addysgu a hyfforddiant a gynhelir ar y cyd ag ysgolion eraill), neu baratoi a chynllunio, ar gyfer y canlynol—
(a)cyflwyno'r cyfnod sylfaen;
(b)gweithredu cynlluniau a anelir at hwyluso disgyblion i bontio o'r cyfnod sylfaen i'r ail gyfnod allweddol ac o un cyfnod allweddol i'r un nesaf neu o ysgol gynradd i ysgol uwchradd (gan gynnwys cynlluniau o'r fath y cyfeirir atynt yn adran 198 o Ddeddf Addysg 2002 os yw Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu'r ysgol gymryd rhan mewn llunio cynllun o'r fath neu os yw'r corff llywodraethu yn disgwyl hynny);
(c)y newidiadau arfaethedig i Gwricwlwm Cenedlaethol Cymru;
(ch)gweithredu'r cynigion sydd yng nghylchlythyr 37/2004 o dan y teitl “Llwybrau Dysgu 14—19” ar gyfer ymestyn ystod yr opsiynau dysgu sydd ar gael i bobl ifanc 14—19 oed (gan gynnwys datblygu rôl Anogwr Dysgu i gynorthwyo gyda dysgu pobl ifanc, a datblygu Cynllun Llwybrau Dysgu cynhwysfawr).”
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
1 Gorffennaf 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3231 (Cy.311)) (“Rheoliadau 2003”) yn gymwys i ysgolion a gynhelir gan awdurdodau addysg lleol ac i ysgolion arbennig (os cynhelir hwy felly ai peidio). Maent yn darparu (ymysg pethau eraill) bod diwrnod ysgol sydd fel arfer i'w rannu'n ddwy sesiwn (gydag egwyl yn y canol), a bod ysgolion (heblaw ysgolion meithrin) yn cyfarfod am o leiaf 380 o sesiynau yn ystod unrhyw flwyddyn ysgol.
Mae rheoliad 5 o Reoliadau 2003 (fel y'u diwygiwyd gan Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Diwygio) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1262 (Cy.119))) yn darparu bod hyd at bedair sesiwn ym mhob un o flynyddoedd ysgol 2006/7 a 2007/8 yn cyfrif fel sesiynau pan gyfarfu'r ysgol os cawsant eu neilltuo i ddarparu ffurfiau penodol o hyfforddiant.
Mae'r Rheoliadau hyn yn amnewid rheoliad 5 newydd yn Rheoliadau 2003 sydd, yn fras, yn darparu bod hyd at bedair sesiwn ym mhob un o flynyddoedd ysgol 2008/9 a 2009/10 yn cyfrif fel sesiynau pan gyfarfu'r ysgol os cawsant eu neilltuo i ddarparu hyfforddiant, neu baratoi a chynllunio, ar gyfer y canlynol—
cyflwyno'r cyfnod sylfaen,
paratoi a gweithredu cynlluniau a anelir at hwyluso disgyblion i bontio o'r cyfnod sylfaen ac o un cyfnod allweddol i gyfnod allweddol arall, a rhwng ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd (gan gynnwys, yn yr ail achos, y cynlluniau statudol y mae angen eu llunio o dan adran 198 o Ddeddf Addysg 2002),
newidiadau sydd i ddod yn y Cwricwlwm Cenedlaethol, a
cynlluniau Gweinidogion Cymru ar gyfer ymestyn opsiynau dysgu ar gyfer pobl ifanc 14—19 oed.
1996 p.56. Mewnosodwyd adran 551(1A) gan baragraff 39 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44), a diwygiwyd adran 551(2) gan baragraff 166 o Atodlen 30 ac Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). I gael ystyr “prescribed” a “regulations” gweler adran 579(1).
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i'r Cynulliad Cenedlaethol gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
2002 p.32. Mae O.S. 2008/1732 (Cy.169) yn pennu beth yw cyfnod y cyfnod sylfaen.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: