Search Legislation

Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2008

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2008 Rhif 1732 (Cy.169)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2008

Gwnaed

1 Gorffennaf 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

3 Gorffennaf 2008

Yn dod i rym

Yn unol ag erthygl 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 102, adran 108(2) ac adran 210 o Ddeddf Addysg 2002(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2), ac wedi gwneud y cyfryw drefniadau y maent yn eu hystyried yn briodol ar gyfer ymgynghori yn unol ag adran 117 o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2008.

(2Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i rym—

(a)ar 1 Awst 2008 o ran disgyblion ym mlwyddyn gyntaf y cyfnod sylfaen;

(b)ar 1 Awst 2009 o ran disgyblion yn ail flwyddyn y cyfnod sylfaen;

(c)ar 1 Awst 2010 o ran disgyblion yn nhrydedd flwyddyn y cyfnod sylfaen; ac

(ch)ar 1 Awst 2011 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn y cyfnod sylfaen.

(3Yn y Gorchymyn hwn —

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002; ac

ystyr “y ddogfen” (“the document”) yw'r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2008 o dan yr enw “Cyfnod Sylfaen: Fframwaith ar gyfer Dysgu Plant 3 i 7 oed yng Nghymru”(3).

(4Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Y cyfnod sylfaen

2.—(1Y cyfnod sylfaen o ran disgybl yw'r cyfnod sy'n dechrau gyda'r amser perthnasol (fel y'i diffinnir ym mharagraff (2)) ac sy'n diweddu ar yr un amser â'r flwyddyn ysgol y bydd mwyafrif y disgyblion yn nosbarth y disgybl yn cyrraedd saith oed ynddi.

(2Ym mharagraff (1) ystyr “yr amser perthnasol” (“the relevant time”) yw—

(a)yn achos plentyn y darperir iddo addysg feithrin a ariennir cyn iddo gyrraedd tair oed, ei drydydd pen-blwydd;

(b)yn achos plentyn y darperir iddo addysg feithrin a ariennir ar ôl iddo gyrraedd yr oedran hwnnw, yr amser pan ddarperir yr addysg honno iddo gyntaf; ac

(c)yn achos plentyn na ddarperir iddo unrhyw addysg feithrin a ariennir, yr amser pan fydd yn cael gyntaf addysg gynradd nad yw'n addysg feithrin.

Y meysydd dysgu, y canlyniadau dymunol a'r rhaglenni addysgol

3.—(1Y darpariaethau sy'n ymwneud â meysydd dysgu, canlyniadau dymunol a rhaglenni addysgol a osodir yn y ddogfen yn effeithiol at ddibenion pennu'r meysydd dysgu, y canlyniadau dymunol a'r rhaglenni addysgol ar gyfer y cyfnod sylfaen.

(2Nid yw'r canlyniadau dymunol a'r rhaglenni addysgol sy'n ymwneud â'r maes dysgu a elwir Datblygu'r Gymraeg a osodir yn y ddogfen i'w cymhwyso i ddisgybl yn y cyfnod sylfaen os caiff y disgybl hwnnw ei addysgu yn gyfan gwbl neu'n bennaf drwy gyfrwng y Cymraeg.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

1 Gorffennaf 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Cyflwynir y cyfnod sylfaen ar gyfer blwyddyn gyntaf y cyfnod sylfaen ar 1 Awst 2008, ar gyfer ail flwyddyn y cyfnod sylfaen ar 1 Awst 2009, ar gyfer trydedd flwyddyn y cyfnod sylfaen ar 1 Awst 2010 ac ar gyfer pedwaredd flwyddyn y cyfnod sylfaen ar 1 Awst 2011. Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn pennu cyfnod y cyfnod sylfaen ac yn rhoi effaith gyfreithiol i'r meysydd dysgu, sy'n gosod y canlyniadau dymunol a'r rhaglenni addysgol.

(2)

Cafodd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(3)

ISBN Rhif 9780750444293.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources