xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gwnaed
30 Mehefin 2008
Yn dod i rym
1 Gorffennaf 2008
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraff 29 o Atodlen 3 iddi(1) ac ar ôl cwblhau'r ymgynghori statudol fel y'i rhagnodwyd o dan baragraff 29(4) o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno(2), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn hwn.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Conwy a Sir Ddinbych (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008 a daw i rym ar 1 Gorffennaf 2008.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall:
ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) yw 1 Gorffennaf 2008;
ystyr “yr hen ymddiriedolaeth” (“the old trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Conwy a Sir Ddinbych a sefydlwyd ar 4 Ionawr 1999;
ystyr “yr ymddiriedolaeth newydd” (“the new trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Cymru a sefydlwyd ar 25 Mehefin 2008.
2.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), trosglwyddir contract cyflogaeth unrhyw berson a oedd yn union cyn y dyddiad trosglwyddo yn cael ei gyflogi gan yr hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo a bydd y contract hwnnw'n effeithiol fel pe bai wedi'i wneud yn wreiddiol rhwng y person a gyflogir felly a'r ymddiriedolaeth newydd.
(2) Heb ragfarnu paragraff (1) uchod —
(a)yn rhinwedd yr erthygl hon, trosglwyddir yr holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau o dan gontract neu mewn cysylltiad â chontract y mae'r paragraff hwnnw'n gymwys iddo i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo;
(b)bernir bod unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan yr hen ymddiriedolaeth neu mewn perthynas â hi ynglŷn â'r contract hwnnw neu'r cyflogai hwnnw, o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen wedi'i wneud gan yr ymddiriedolaeth newydd neu mewn perthynas â hi.
(3) Nid yw paragraffau (2) a (3) uchod yn rhagfarnu unrhyw hawl sydd gan unrhyw gyflogai i derfynu ei gontract cyflogaeth os gwneir newid sylweddol er niwed i'r cyflogai yn ei amodau gwaith, ond ni fydd unrhyw hawl o'r fath yn codi yn unig oherwydd y newid mewn cyflogwr a bernir gan yr erthygl hon.
3. Ar y dyddiad trosglwyddo trosglwyddir holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r hen ymddiriedolaeth, sydd heb eu crybwyll yn erthygl 2 uchod, i'r ymddiriedolaeth newydd gan gynnwys heb gyfyngiad—
(a)y ddyletswydd i baratoi'r cyfrifon sydd heb eu cwblhau gan yr hen ymddiriedolaeth a chyflawni'r holl ddyletswyddau statudol mewn perthynas â'r cyfrifon hynny;
(b)eiddo ymddiriedol yr hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 1.
(c)elusennau'r hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 2.
4. Trosglwyddir holl swyddogaethau'r hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd a byddant yn cael effaith o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
30 Mehefin 2008
Erthygl 3(b)
Eiddo | Deiliadaeth | Rhif Teitl os yw'n gymwys |
---|---|---|
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Dwyrain Cymru | ||
Ysbyty Cymuned Bae Colwyn | Rhydd-ddaliad | WS744530 |
Ysbyty Cymuned Dinbych, | Rhydd-ddaliad | WA560785 WA591765 |
Ysbyty HM Stanley | Rhydd-ddaliad | CYM62366 |
Ysbyty Cymuned Llangollen | Rhydd-ddaliad | WA827673 |
Ysbyty Cymuned Prestatyn | Rhydd-ddaliad | WA690439 |
Ysbyty Brenhinol Alexandra | Rhydd-ddaliad | WA703736 |
Ysbyty Cymuned Ruthin | Rhydd-ddaliad | WA690446 |
Ysbyty Glan Clwyd | Rhydd-ddaliad | WA703136 CYM357076 |
Clinigau/ Canolfannau Iechyd | ||
Canolfan Iechyd Corwen | Rhydd-ddaliad | WA693351 |
Canolfan Iechyd Llanfairfechan | Rhydd-ddaliad | WA750507 |
Canolfan Iechyd Llangollen | Rhydd-ddaliad | WA703727 WA690435 |
Canolfan Iechyd Llanelwy | Rhydd-ddaliad | WA703721 |
Clinig Abergele, Stryd y Farchnad, Conwy, LL22 7BP | Rhydd-ddaliad | |
Clinig Ffordd Argyll | Rhydd-ddaliad | WA789174 |
Clinig Cerrigydrudion, Kings Road, Sir Dinbych, LL21 9SU | Lesddaliad | |
Clinig Conwy, Adeiladau Muriau, Rosehill Street, Conwy LL32 8LD | Mân hawliau meddiannaeth | |
Clinig Fforddlas | Rhydd-daliad | WA690455 |
Clinig Bae Kinmel, 57 Ffordd Y Foryd, Bae Cinmel, Conwy LL18 5BB | Lesddaliad | |
Clinig Llanrwst | Rhydd-ddaliad | WA755331 |
Clinig Maes Derw | Rhydd-ddaliad | WA750501 |
Clinig Prestatyn | Rhydd-ddaliad | WA690461 |
Clinic a Canolfan Iechyd Plant Rhyddlan | Rhydd-ddaliad | WA360773 WA339587 WA690475 |
Clinig Ruthin | Rhydd-ddaliad | WA690466 |
Unedau Iechyd Meddwl | ||
Uned EMI Bodnant | Rhydd-ddaliad | WA789167 |
Uned Plant a Pobl Ifanc Bae Colwyn, 65 Ffordd Victoria , Bae Colwyn, LL29 7AJ | Lesddaliad | |
MHRC Bae Colwyn, | Rhydd-ddaliad | WA766562 |
Dyffryn Clwyd CMHT | Rhydd-ddaliad | WA703734 |
EMI Glan Traeth/ MHRC Hafod | Rhydd-ddaliad | WA603520 |
Tan-Y-Castell, Stryd Mwrog, Ruthin, Sir Dinbych, LL15 1LE | Lesddaliad | |
Gwasanaethau Plant a Teulu Lawnside | Rhydd-ddaliad | WA44152 WA867292 |
Oakleigh | Rhydd-ddaliad | WA748893 |
MHRC Roslin | Rhydd-ddaliad | WA751007 |
Canolfan Dydd Trefeirian | Rhydd-ddaliad | WA820256 |
Arall | ||
Tim Nyrsiau Cylch Ruthin,Plas Meddyg Ruthin, LL15 1BP | Lesddaliad | |
Uned 81, Cwrt Bowen, Parc Business Llanelwy, Llanelwy, Sir Dinbych, LL17 0JE | Lesddaliad | |
Uned 100 a 101 Cwrt Bowen, Parc Business Llanelwy, Llanelwy, Sir Dinbych, LL17 0JE | Lesddaliad | |
Partneriaeth Cefnogi Busnes Gogledd Cymru, Alder House, Alder Court, Parc Busnes Llanelwy, LL17 0JE | Lesddaliad | |
Gwasanaethau Iechyd Cyfreithiol Cymreig, Uned 17, Lambourne Crescent, Llanishen, Cardiff. | Lesddaliad | |
Gwasanaethau Iechyd Cyfreithiol Cymreig, Bevan House, Lambourne Crescent, Llanishen, Cardiff, CF14 5BG. | Lesddaliad |
Erthygl 3(c)
Cronfa Elusennol Gyffredinol Ymddiriedolaeth GIG Conwy a Sir Ddinbych (gan gynnwys is-elusennau) —Rhif 1047989.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff o Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Conwy a Sir Ddinbych i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Cymru o 1 Gorffennaf 2008 ymlaen.
Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn darparu ar gyfer trosglwyddo holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Conwy a Sir Ddinbych i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Cymru ar 1 Gorffennaf 2008.
Rheoliadau Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ymgynghori ar Sefydlu a Diddymu) 1996, O.S. 1996/653, sy'n parhau i gael effaith yn rhinwedd paragraff 1(2) o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 p.43.