xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 1719 (Cy.165)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Conwy a Sir Ddinbych (Diddymu) 2008

Gwnaed

30 Mehefin 2008

Yn dod i rym

1 Gorffennaf 2008

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 204(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1) a pharagraff 28(1) o Atodlen 3 iddi, mae Gweinidogion Cymru, ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad a ragnodwyd o dan baragraff 28(3) o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno(2), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Conwy a Sir Ddinbych (Diddymu) 2008 a daw i rym ar 1 Gorffennaf 2008.

Diddymu Ymddiriedolaeth GIG

2.  Diddymir drwy hyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Conwy a Sir Ddinbych a sefydlwyd gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Conwy a Sir Ddinbych (Sefydlu) 1998(3) ac, yn unol â hynny, dirymir y Gorchymyn hwnnw .

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

30 Mehefin 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer diddymu Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Conwy a Sir Ddinbych ar 1 Gorffennaf 2008.

(2)

Rheoliadau Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ymgynghori ar Sefydlu a Diddymu) 1996, O.S. 1996/653, sy'n parhau i gael effaith yn rhinwedd paragraff 1(2) o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 p. 43.