Search Legislation

Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2008

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2008 Rhif 170 (Cy.23)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2008

Wedi'u gwneud

28 Ionawr 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

30 Ionawr 2008

Yn dod i rym

1 Ebrill 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 27 o Ddeddf Gofal Plant 2006(1), ac a freiniwyd ynddynt hwy bellach(2), drwy hyn yn gwneud y rheoliadau a ganlyn:

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2008.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “addysg feithrin am ddim” (“free nursery education”) yw darpariaeth a wneir o dan drefniadau rhwng y darparydd a'r awdurdod lleol yn unol â dyletswydd yr awdurdod lleol o dan adran 118 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(3);

Mae i “Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru” yr un ystyr ag sydd i “Her Majesty’s Inspectorate of Education and Training in Wales” yn Neddf Addysg 2005(4);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gofal Plant 2006;

ystyr “yn lleol” (“locally”) yw o fewn ardal yr Awdurdod Lleol.

Gwybodaeth a Ragnodwyd

3.  Mae'r wybodaeth y cyfeirir ati yn Rhannau 2 a 3 o'r Rheoliadau hyn yn wybodaeth a ragnodwyd at ddibenion adran 27(2) o Ddeddf 2006.

RHAN 2GWYBODAETH AM DDARPARIAETH GOFAL PLANT

4.—(1Pan fo awdurdod lleol yn darparu i rieni neu i ddarpar rieni wybodaeth am ddarpariaeth gofal plant yn ei ardal yn unol ag adran 27(2)(a) o Ddeddf 2006 rhaid i'r wybodaeth honno gynnwys y canlynol ar gyfer pob darpariaeth:

(a)yn ddarostyngedig i Reoliad 4(2), manylion cyswllt gan gynnwys enw'r ddarpariaeth, ei chyfeiriad, Rhif ffôn a chyfeiriad e-bost;

(b)y math o ddarpariaeth, hynny yw, darpariaeth mewn grŵp, yn y cartref neu yn yr ysgol.

(c)yr ystod oed a gwmpesir;

(ch)yr oriau agor, cyfanswm nifer yr wythnosau pan fo'r ddarpariaeth ar agor a'r wythnosau penodol pan fo'r ddarpariaeth wedi cau;

(d)nifer y lleoedd sydd ar gael ar gyfer pob grŵp oedran;

(dd)cost y ddarpariaeth;

(e)mewn perthynas ag addysg feithrin am ddim:

(i)a yw ei ddarpariaeth yn ddarpariaeth amser-llawn neu ran-amser ac a yw'n derbyn plant yn flynyddol neu fesul tymor;

(ii)sut mae'n ymwneud â'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg neu leoliadau seiliedig ar ffydd;

(iii)manylion am y lleoedd a ddarperir yn yr adran a gynhelir a'r adran nas cynhelir (ond ariennir) fel ei gilydd. Dylai'r wybodaeth gynnwys:

(aa)ar gyfer y sector a gynhelir:

(i)enw, cyfeiriad a manylion cyswllt yr ysgol;

(ii)cyfrwng y ddarpariaeth yn yr ysgol; a

(iii)nifer y lleoedd perthnasol yn yr ysgol.

(bb)ar gyfer y sector nas cynhelir:

(i)enw, cyfeiriad a manylion cyswllt y lleoliad;

(ii)math y lleoliad (a yw'n Gylch Meithrin, cylch chwarae cyfrwng Saesneg, gwarchodydd plant neu feithrinfa dydd breifat etc.);

(iii)cyfrwng y ddarpariaeth yn y lleoliad; a

(iv)nifer y lleoliadau (rhan-amser) a gytunwyd gyda Phartneriaeth Datblygu'r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant eu bod yn gymwys i'w hariannu.

(f)a yw'r ddarpariaeth wedi'i chofrestru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (drwy Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC)) yn unol â Deddf Plant 1989(5), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Safonau Gofal 2000(6), ac os felly, sut y gall rhieni gael copïau o'r adroddiad perthnasol.

(ff)a yw'r ddarpariaeth yn cael ei harolygu gan Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru yn unol â Phennod 3 o Ddeddf Addysg 2005, ac os yw, sut y gall rhieni gael copïau o'r adroddiad perthnasol;

(g)gwybodaeth ynghylch yr Iaith Gymraeg a natur ddwyieithog y ddarpariaeth.

(2Rhaid i awdurdod lleol beidio â rhoi manylion cyswllt person sy'n gweithredu fel gwarchodydd plant, nac unrhyw ran ohonynt, pan fo'r person hwnnw wedi rhoi hysbysiad i'r Awdurdod Lleol ei fod yn gwrthwynebu i'w fanylion cyswllt neu unrhyw ran ohonynt, gael eu rhoi.

Darpariaeth mewn ysgol

5.  Pan fo'r ddarpariaeth mewn ysgol, rhaid i'r awdurdod lleol nodi a yw'r ddarpariaeth yn cael ei rhedeg a'i rheoli gan yr ysgol.

Cyfleusterau ar gyfer plant anabl

6.  Pan fo rhiant yn rhiant i blentyn anabl, rhaid i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth am fynediad at wasanaethau a chyfleusterau arbenigol sydd ar gael ar gyfer plant anabl o fewn lleoliad gofal plant.

RHAN 3GWYBODAETH ARALL SYDD I'W DDARPARU GAN AWDURDODAU LLEOL

7.  Mae'r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas â rhwymedigaeth yr awdurdod lleol i ddarparu gwybodaeth yn unol ag adran 27(2)(b) ac adran (c) o Ddeddf 2006, a rhaid i'r wybodaeth gynnwys gwybodaeth ar y pynciau canlynol:—.

(a)Cynllun Plant a Phobl Ifanc Awdurdod Lleol sy'n ymwneud ag adran 26 o Ddeddf Plant 2004;

(b)gwasanaethau addysg a dysgu teuluol;

(c)gwasanaethau iechyd a lles;

(ch)chwarae, chwaraeon a chyfleusterau hamddena eraill;

(d)gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymorth i deuluoedd;

(dd)gwasanaethau ieuenctid;

(e)gwasanaethau ariannol a chyfreithiol;

(f)datblygu plant;

(ff)cadw'n ddiogel;

(g)gwasanaethau lleol a chenedlaethol ar gyfer plant anabl a pobl ifanc;

(ng)gwasanaethau sy'n hyrwyddo defnyddio'r Iaith Gymraeg.

Gwasanaethau, cyfleusterau neu gyhoeddiadau

8.  Pan gaiff gwybodaeth ei darparu gan yr awdurdod lleol am wasanaethau, cyfleusterau neu gyhoeddiadau sydd ar gael yn lleol, dylai'r wybodaeth a ddarperir gynnwys y canlynol, lle bo hynny'n briodol:

(a)enw'r gwasanaeth, y cyfleuster neu'r cyhoeddiad;

(b)cwmpas y gwasanaeth, y cyfleuster neu'r cyhoeddiad;

(c)manylion cyswllt y gwasanaeth neu'r cyfleuster gan gynnwys enw'r gwasanaeth neu'r cyfleuster a, pan fo hynny ar gael, cyfeiriad, Rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a chyfeiriad gwefan;

(ch)dull o gael at y cyhoeddiad;

(d)lleoliad y gwasanaeth neu'r cyfleuster;

(dd)math y gwasanaeth a'r cyfleuster a ddarperir;

(e)oriau agor y gwasanaeth neu'r cyfleuster;

(f)cost y gwasanaeth, y cyfleuster neu'r cyhoeddiad;

(ff)unrhyw feini prawf ar gyfer bod y gwasanaeth, y cyfleuster neu'r cyhoeddiad ar gael, neu unrhyw gyfyngiadau arno.

9.  Pan na gaiff gwybodaeth ei darparu gan yr awdurdod lleol ar wasanaethau, cyfleusterau neu gyhoeddiadau, bydd yn ddigonol i'r awdurdod lleol ddarparu manylion am asianteithau neu adnoddau gwybodaeth priodol.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

28 Ionawr 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r rheoliadau hyn yn gosod y mathau o wybodaeth y mae'n ofynnol i awdurdodau lleol eu darparu i rieni ac i ddarpar rieni o dan eu dyletswyddau yn adran 27 o Ddeddf Gofal Plant 2006.

(2)

Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources