- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
1. Yn ddarostyngedig i baragraffau 2, 4 a 5, rhaid i'r holl gyfryngau profi a bennir yn y Tabl yn y Rhan hon gael eu defnyddio yn y prawf braster disodli ar gyfer ymfudiad cyflawn neu benodol o dan amodau prawf sy'n cyfateb i'r amodau prawf ar gyfer efelychydd D.
2. Caniateir defnyddio amodau prawf ac eithrio'r rhai a bennir yn y Tabl yn y Rhan hon yn y prawf braster disodli os rhoddir ystyriaeth i'r tybiaethau sydd wrth wraidd yr amodau prawf a bennir yn y Tabl hwnnw ac, os polymer yw'r deunydd neu'r eitem plastig sy'n cael ei brofi, ystyriaeth i'r profiad presennol o'r math hwnnw o bolymer.
3. Ar gyfer pob prawf—
(a)rhaid defnyddio sbesimen newydd i'w brofi;
(b)rhaid cymhwyso'r rheolau sydd wedi eu rhagnodi ar gyfer efelychydd D yn Rhannau 3, 4 a 5 o'r Atodlen hon i bob cyfrwng prawf;
(c)yn ddarostyngedig i baragraff 4, rhaid penderfynu cydymffurfedd â therfyn ymfudiad drwy ddewis y gwerth uchaf drwy ddefnyddio'r holl ddulliau profi.
4. Os bydd gwneud prawf ymfudiad yn peri unrhyw newid ffisegol neu newid arall i'r sbesimen a brofir, a hwnnw'n newid nad yw'n digwydd o dan yr amodau defnyddio gwaethaf a ragwelir o ran y deunydd neu'r eitem plastig, rhaid i ganlyniad y prawf hwnnw beidio â chael ei ddefnyddio i gadarnhau cydymffurfedd â'r terfyn ymfudiad.
5. Rhaid peidio â defnyddio unrhyw amodau prawf a geir yn y Tabl yn y Rhan hon y cydnabyddir yn gyffredinol ar sail tystiolaeth wyddonol nad ydynt yn briodol i'r deunydd neu'r eitem sydd i'w brofi.
6. Rhaid darllen y Tabl yn y Rhan hon gyda'r nodiadau i'r Tabl.
| Amodau'r prawf gydag efelychydd D | Amodau'r prawf gydag isoocten | Amodau'r prawf gydag ethanol 95% | Amodau'r prawf gydag MPPO(1) |
|---|---|---|---|
(1) MPPO = Ocsid polyphenylen addasedig | |||
(2) Defnyddir y cyfryngau profi anweddol hyd at dymheredd uchaf o 60°C. Rhagamod o ddefnyddio'r profion hyn yw y bydd y deunydd neu'r eitem yn gwrthsefyll amodau'r prawf a fyddai fel arall yn cael ei ddefnyddio gydag efelychydd D. Trochwch sbesimen i'w brofi mewn olew olewydd o dan yr amodau priodol. Os newidir y nodweddion ffisegol (e.e. toddi, anffurfio) yna ystyrir bod y deunydd yn anaddas ar gyfer ei ddefnyddio ar y tymheredd hwnnw. Os na newidir y nodweddion ffisegol yna ewch ymlaen gyda'r profion disodli gan ddefnyddio sbesimenau newydd. | |||
| 10 niwrnod ar 5°C | 0.5 diwrnod ar 5°C | 10 niwrnod ar 5°C | |
| 10 niwrnod ar 20°C | 1 diwrnod ar 20°C | 10 niwrnod ar 20°C | |
| 10 niwrnod ar 40°C | 2 ddiwrnod ar 20°C | 10 niwrnod ar 40°C | |
| 2 awr ar 70°C | 0.5 awr ar 40°C | 2 awr ar 60°C | |
| 0.5 awr ar 100°C | 0.5 awr ar 60°C(2) | 2.5 awr ar 60°C | 0.5 awr ar 100°C |
| 1 awr ar 100°C | 1 awr ar 60°C(2) | 3 awr ar 60°C(2) | 1 awr ar 100°C |
| 2 awr ar 100°C | 1.5 awr ar 60°C(2) | 3.5 awr ar 60°C(2) | 2 awr ar 100°C |
| 0.5 awr ar 121°C | 1.5 awr ar 60°C(2) | 3.5 awr ar 60°C(2) | 0.5 awr ar 121°C |
| 1 awr ar 121°C | 2 awr ar 60°C(2) | 4 awr ar 60°C(2) | 1 awr ar 121°C |
| 2 awr ar 121°C | 2.5 awr ar 60°C(2) | 4.5 awr ar 60°C(2) | 2 awr ar 121°C |
| 0.5 awr ar 130°C | 2 awr ar 60°C(2) | 4 awr ar 60°C(2) | 0.5 awr ar 130°C |
| 1 awr ar 130°C | 2.5 awr ar 60°C(2) | 4.5 awr ar 60°C(2) | 1 awr ar 130°C |
| 2 awr ar 150°C | 3 awr ar 60°C(2) | 5 awr ar 60°C(2) | 2 awr ar 150°C |
| 2 awr ar 175°C | 4 awr ar 60°C(2) | 6 awr ar 60°C(2) | 2 awr ar 175°C |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: