- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
1. Yn ddarostyngedig i Rannau 3, 4, 5 a 7, mae'r efelychwyr sydd i'w defnyddio mewn profion ymfudiad yn cael eu pennu yn y Tabl yn y paragraff hwn (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “y Tabl”).
| 1 | 2 |
|---|---|
| Byrfodd | Efelychydd Bwyd |
| Efelychydd A: cyfatebol | Dŵr distyll neu ddŵr o ansawdd |
| Efelychydd B: | 3% Asid asetig (w/v) mewn hydoddiant dyfrllyd |
| Efelychydd C | 10% Ethanol (v/v) mewn hydoddiant dyfrllyd ac eithrio bod yn rhaid i grynodiad yr hydoddiant ethanol gael ei addasu yn ôl gwir gryfder alcoholaidd y bwyd os yw'n fwy na 10% (v/v) |
| Efelychydd D: | Olew olewydd coeth ac iddo'r nodweddion a bennir ym mharagraff 3 neu, yn ddarostyngedig i baragraff 5, unrhyw un neu rai o'r efelychwyr bwyd brasterog a bennir ym mharagraff 4 |
2. At ddibenion yr Atodlen hon ystyr cyfeiriad at fyrfodd yng ngholofn 1 yn y Tabl yw cyfeiriad at yr efelychydd yng ngholofn 1 yn y Tabl hwnnw sydd gyferbyn â'r byrfodd hwnnw.
3. Y nodweddion olew olewydd coeth y cyfeirir atynt yn y Tabl yw —
(a)Gwerth ïodin (Wijs) = 80 i 88;
(b)Indecs plygiant ar 25°C = 1.4665 i 1.4679;
(c)Asidedd (wedi ei fynegi fel % o asid olëig) = mwyafswm o 0.5%;
(ch)Rhif perocsid (wedi ei fynegi fel miligyfwerthoedd ocsigen fesul kg o olew) = mwyafswm o 10.
4. Yr efelychwyr bwyd brasterog y cyfeirir atynt yn y Tabl yw—
(a)olew corn ac iddo fanylebau wedi eu safoni;
(b)olew blodau'r haul, y mae ei nodweddion fel a ganlyn —
(i)Gwerth ïodin (Wijs) = 120 i 145;
(ii)Indecs plygiant ar 20°C = 1.474 i 1.476;
(iii)Rhif seboneiddiad = 188 i 193;
(iv)Crynodiad cymharol ar 20°C = 0.918 i 0.925;
(v)Deunydd anseboneiddiadwy = 0.5% i 1.5%;
(c)cymysgedd synthetig o driglyseridau y mae ei gyfansoddiad fel a nodir yn y tablau a ganlyn:
| Y nifer o C-atomau mewn gweddillion asid brasterog | 6 | 8 | 10 | 12 | 14 | 16 | 18 | eraill |
| Maes GLC (%) | 1 | 6—9 | 8—11 | 45—52 | 12—15 | 8—10 | 8—12 | 1 |
| Cynnwys monogl yseridau (yn ensymig) | <0.2% |
| Cynnwys diglyseridau (yn ensymig) | <2.0% |
| Deunydd anseboneiddiadwy | <0.2% |
| Gwerth ïodin(Wijs) | <0.1% |
| Gwerth asid | <0.1% |
| Cynnwys dŵr (K Fischer) | <0.1% |
| Ymdoddbwynt | 28 ± 2°C |
| Tonfedd (nm) | 290 | 310 | 330 | 350 | 370 | 390 | 430 | 470 | 510 |
| Trawsyriant (%) | 2 | 15 | 37 | 64 | 80 | 88 | 95 | 97 | 98 |
| Trawsyriant golau o 10% o leiaf ar 310 nm | |||||||||
5. Pan ddefnyddir efelychydd bwyd brasterog a bennir ym mharagraff 4 mewn prawf ymfudiad a bod canlyniad y prawf hwnnw'n dangos nad yw deunydd neu eitem plastig yn cydymffurfio ag unrhyw derfyn ymfudiad a bennir yn rheoliad 9 neu yn yr Atodiadau, rhaid gwirio nad yw'r deunydd neu'r eitem plastig yn cydymffurfio â'r ymfudiad penodedig drwy brofi'r deunydd neu'r eitem hwnnw gan ddefnyddio olew olewydd os yw profi o'r fath yn dechnegol bosibl, ac os nad yw'r cyfryw brofi'n dechnegol bosibl bernir nad yw'r deunydd neu'r eitem plastig yn cydymffurfio â'r terfyn ymfudiad penodedig.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: