xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliadau 9 a 13
1. Yn ddarostyngedig i baragraffau 2, 3 a 4 o'r Rhan hon, rhaid gwneud profion ymfudiad i benderfynu ymfudiad penodol a chyflawn drwy ddefnyddio'r efelychwyr bwyd a bennir yn Rhannau 2, 3 a, phan fo hynny'n briodol 4, ac o dan amodau prawf ymfudiad confensiynol fel a bennir yn Rhan 5.
2. Yn ddarostyngedig i baragraffau 3 a 4 o'r Rhan hon, rhaid gwneud profion disodli sy'n defnyddio cyfryngau prawf o dan yr amodau profion disodli confensiynol fel a bennir yn Rhan 6 os nad yw'r prawf ymfudiad sy'n defnyddio'r efelychwyr bwyd brasterog a bennir yn Rhan 3 yn bosibl am resymau technegol sy'n gysylltiedig â'r dull dadansoddi.
3. Yn ddarostyngedig i baragraff 4 o'r Rhan hon, caniateir defnyddio profion amgen fel a bennir yn Rhan 7 yn lle'r prawf ymfudiad gydag efelychwyr bwyd brasterog a bennir yn Rhan 3 ond ni chaniateir defnyddio canlyniadau'r cyfryw brofion amgen i benderfynu cydymffurfedd â therfyn ymfudiad oni chyflawnir yr amodau a bennir yn Rhan 7.
4. Mewn profion ymfudiad caniateir—
(a)gostwng nifer y profion sydd i'w gwneud gan ddefnyddio dim ond y prawf hwnnw neu'r profion hynny y cydnabyddir yn gyffredinol mai ef neu hwy, yn yr achos penodol o dan sylw, yw'r rhai mwyaf heriol ar sail tystiolaeth wyddonol;
(b)hepgor y profion ymfudiad, y profion disodli neu'r profion amgen —
(i)os bod prawf digamsyniol na ellir mynd dros ben y terfynau ymfudiad o dan unrhyw amodau y gellir eu rhagweld o ran defnyddio'r deunydd neu'r eitem, neu
(ii)os bodlonir yr amodau ar gyfer profion nad ydynt yn orfodol a geir yn Erthygl 8(2) neu 8(3) o'r Gyfarwyddeb.
1. Yn ddarostyngedig i Rannau 3, 4, 5 a 7, mae'r efelychwyr sydd i'w defnyddio mewn profion ymfudiad yn cael eu pennu yn y Tabl yn y paragraff hwn (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “y Tabl”).
1 | 2 |
---|---|
Byrfodd | Efelychydd Bwyd |
Efelychydd A: cyfatebol | Dŵr distyll neu ddŵr o ansawdd |
Efelychydd B: | 3% Asid asetig (w/v) mewn hydoddiant dyfrllyd |
Efelychydd C | 10% Ethanol (v/v) mewn hydoddiant dyfrllyd ac eithrio bod yn rhaid i grynodiad yr hydoddiant ethanol gael ei addasu yn ôl gwir gryfder alcoholaidd y bwyd os yw'n fwy na 10% (v/v) |
Efelychydd D: | Olew olewydd coeth ac iddo'r nodweddion a bennir ym mharagraff 3 neu, yn ddarostyngedig i baragraff 5, unrhyw un neu rai o'r efelychwyr bwyd brasterog a bennir ym mharagraff 4 |
2. At ddibenion yr Atodlen hon ystyr cyfeiriad at fyrfodd yng ngholofn 1 yn y Tabl yw cyfeiriad at yr efelychydd yng ngholofn 1 yn y Tabl hwnnw sydd gyferbyn â'r byrfodd hwnnw.
3. Y nodweddion olew olewydd coeth y cyfeirir atynt yn y Tabl yw —
(a)Gwerth ïodin (Wijs) = 80 i 88;
(b)Indecs plygiant ar 25°C = 1.4665 i 1.4679;
(c)Asidedd (wedi ei fynegi fel % o asid olëig) = mwyafswm o 0.5%;
(ch)Rhif perocsid (wedi ei fynegi fel miligyfwerthoedd ocsigen fesul kg o olew) = mwyafswm o 10.
4. Yr efelychwyr bwyd brasterog y cyfeirir atynt yn y Tabl yw—
(a)olew corn ac iddo fanylebau wedi eu safoni;
(b)olew blodau'r haul, y mae ei nodweddion fel a ganlyn —
(i)Gwerth ïodin (Wijs) = 120 i 145;
(ii)Indecs plygiant ar 20°C = 1.474 i 1.476;
(iii)Rhif seboneiddiad = 188 i 193;
(iv)Crynodiad cymharol ar 20°C = 0.918 i 0.925;
(v)Deunydd anseboneiddiadwy = 0.5% i 1.5%;
(c)cymysgedd synthetig o driglyseridau y mae ei gyfansoddiad fel a nodir yn y tablau a ganlyn:
Y nifer o C-atomau mewn gweddillion asid brasterog | 6 | 8 | 10 | 12 | 14 | 16 | 18 | eraill |
Maes GLC (%) | 1 | 6—9 | 8—11 | 45—52 | 12—15 | 8—10 | 8—12 | 1 |
Cynnwys monogl yseridau (yn ensymig) | <0.2% |
Cynnwys diglyseridau (yn ensymig) | <2.0% |
Deunydd anseboneiddiadwy | <0.2% |
Gwerth ïodin(Wijs) | <0.1% |
Gwerth asid | <0.1% |
Cynnwys dŵr (K Fischer) | <0.1% |
Ymdoddbwynt | 28 ± 2°C |
Tonfedd (nm) | 290 | 310 | 330 | 350 | 370 | 390 | 430 | 470 | 510 |
Trawsyriant (%) | 2 | 15 | 37 | 64 | 80 | 88 | 95 | 97 | 98 |
Trawsyriant golau o 10% o leiaf ar 310 nm |
5. Pan ddefnyddir efelychydd bwyd brasterog a bennir ym mharagraff 4 mewn prawf ymfudiad a bod canlyniad y prawf hwnnw'n dangos nad yw deunydd neu eitem plastig yn cydymffurfio ag unrhyw derfyn ymfudiad a bennir yn rheoliad 9 neu yn yr Atodiadau, rhaid gwirio nad yw'r deunydd neu'r eitem plastig yn cydymffurfio â'r ymfudiad penodedig drwy brofi'r deunydd neu'r eitem hwnnw gan ddefnyddio olew olewydd os yw profi o'r fath yn dechnegol bosibl, ac os nad yw'r cyfryw brofi'n dechnegol bosibl bernir nad yw'r deunydd neu'r eitem plastig yn cydymffurfio â'r terfyn ymfudiad penodedig.
1. Rhaid profi deunyddiau ac eitemau plastig o dan yr amodau prawf a bennir yn Rhan 5 gan ddefnyddio efelychydd neu efelychwyr a ddewisir yn unol â'r Rhan hon a chan gymryd sbesimen newydd i'w brofi o'r deunydd neu'r eitem plastig ar gyfer pob efelychydd a ddefnyddir.
2.—(1) Pan fo prawf yn cael ei wneud ar ddeunydd neu eitem plastig y bwriedir iddo ddod i gyffyrddiad â mwy nag un bwyd neu grŵp o fwydydd a bod ffactor rhydwytho wedi ei bennu ar gyfer un neu fwy o'r bwydydd hynny neu o'r grwpiau hynny o fwydydd nad yw'n gyfwerth â'r ffactor rhydwytho sydd wedi ei bennu ar gyfer un neu fwy o'r bwydydd eraill neu o'r grwpiau eraill o fwydydd y bwriedir i'r deunydd neu'r eitem plastig ddod i gyffyrddiad â hwy—
(a)rhaid cymhwyso i ganlyniad y prawf y ffactor rhydwytho sydd wedi ei bennu ar gyfer pob bwyd neu grŵp o fwydydd, fel y bo'n briodol; a
(b)rhaid trin y deunydd neu'r eitem plastig fel pe bai'n gallu trosglwyddo'i gyfansoddion i fwyd y gallai ddod i gyffyrddiad ag ef dros ben y terfyn ymfudiad sydd wedi ei bennu yn rheoliad 9 neu yn yr Atodiadau os bydd un neu fwy o'r canlyniadau, yn dilyn cymhwyso'r ffactorau rhydwytho penodedig hynny, yn dangos nad yw'r deunydd neu'r eitem yn cydymffurfio â'r terfyn ymfudiad penodedig hwnnw.
(2) At ddibenion y paragraff hwn —
(a)y ffigur sy'n dilyn “X” a blaenslaes yn y grŵp o golofnau sy'n dwyn y pennawd “Efelychwyr i'w defnyddio” yn y Tabl i Ran 4 yw'r ffactor rhydwytho;
(b)mae ffactor rhydwytho wedi ei bennu ar gyfer bwyd neu grŵp o fwydydd pan fydd, yn y Tabl yn Rhan 4 —
(i)y bwyd neu'r grŵp o fwydydd wedi ei ddisgrifo yn y golofn sy'n dwyn y pennawd “Disgrifiad o'r bwyd”, a
(ii)“X” wedi ei osod mewn colofn ac iddi efelychydd penodedig yn bennawd, gyferbyn â'r bwyd hwnnw neu'r grŵp hwnnw o fwydydd a chyda blaenslaes a ffactor rhydwytho ar ei ôl;
(c)mae ffactor rhydwytho i'w gymhwyso i ganlyniad prawf drwy rannu'r canlyniad â'r ffactor rhydwytho hwnnw.
3. Mae mathau o fwyd wedi eu diffinio yn Nhabl 1 isod fel a ganlyn—
Diffiniad | Ystyr |
---|---|
Bwydydd dyfrllyd â pH > 4.5 | Bwydydd nad oes ond efelychydd A wedi ei bennu mewn perthynas â hwy yn y Tabl yn Rhan 4 |
Bwydydd asidig â pH < 4.5 | Bwydydd nad oes ond efelychydd B wedi ei bennu mewn perthynas â hwy yn y Tabl yn Rhan 4 |
Bwydydd alcoholaidd | Bwydydd nad oes ond efelychydd C wedi ei bennu mewn perthynas â hwy yn y Tabl yn Rhan 4 |
Bwydydd brasterog | Bwydydd nad oes ond efelychydd D wedi ei bennu mewn perthynas â hwy yn y Tabl yn Rhan 4 |
Bwydydd Sych | Bwydydd nad oes efelychydd wedi ei bennu mewn perthynas â hwy yn y Tabl yn Rhan 4 |
4. Efelychydd B, efelychydd C ac efelychydd D, sef y rhai a gânt eu hystyried yn rhai mwy heriol o dan yr amodau prawf sydd wedi eu diffinio yn Rhan 5 yw'r efelychwyr sydd i'w defnyddio i brofi deunydd neu eitem plastig y bwriedir iddo ddod i gyffyrddiad â phob math o fwyd.
5. Y canlynol yw'r efelychydd neu'r efelychwyr sydd i'w defnyddio i brofi deunydd neu eitem plastig sydd eisoes mewn cyffyrddiad â bwyd hysbys—
(a)pan fydd—
(i)y bwyd hysbys yn fwyd penodol neu'n fwyd sydd yn dod o fewn grŵp penodol o fwydydd a ddisgrifir yng ngholofn 2 o'r Tabl yn Rhan 4 a,
(ii)at ddibenion y Rhan honno, efelychydd neu efelychwyr wedi ei bennu neu eu pennu mewn perthynas â'r bwyd penodol hwnnw neu'r grŵp penodol hwnnw o fwydydd,
yr efelychydd neu'r efelychwyr a bennir felly;
(b)pan—
(i)nad yw'r bwyd hysbys yn fwyd penodol, nac
(ii)yn dod o fewn grŵp penodol o fwydydd a ddisgrifir yn y Tabl yn Rhan 4 o'r Atodlen hon,
yr efelychydd neu'r efelychwyr yng ngholofn 2 yn Nhabl 2 gyferbyn â'r disgrifiad o'r bwyd yng ngholofn 1 yn y Tabl hwnnw sy'n cyfateb yn fwyaf agos i'r bwyd hysbys.
6. Mae'n orfodol mai'r efelychydd neu'r efelychwyr, a geir yng ngholofn 2 yn Nhabl 2 gyferbyn â'r bwyd mewn cyffyrddiad a geir yng ngholofn 1 yn y Tabl hwnnw, ac sy'n cyfateb yn fwyaf agos at y math neu'r mathau o fwyd y caniateir defnyddio'r deunydd neu'r eitem plastig gydag ef, fel a nodir gan y dangosiad sy'n mynd gyda'r deunydd neu'r eitem plastig, yw'r efelychydd neu'r efelychwyr sydd i'w ddefnyddio neu i'w defnyddio i brofi deunydd neu eitem plastig y mae yn mynd gydag ef, yn unol â Rheoliad 1935/2004, ddangosiad penodol sy'n nodi unrhyw fath neu fathau o fwyd a ddisgrifir yn Nhabl 1 ac y caniateir neu na chaniateir defnyddio'r deunydd neu'r eitem plastig gydag ef neu gyda hwy.
7. Y canlynol yw'r efelychydd neu'r efelychwyr sydd i'w defnyddio i brofi deunydd neu eitem plastig y mae yn mynd gydag ef, yn unol â Rheoliad 1935/2004, ddangosiad penodol wedi ei fynegi yn unol â pharagraff 8, sy'n nodi unrhyw fwyd neu grŵp o fwydydd a ddisgrifir yn y Tabl yn Rhan 4 y caniateir neu na chaniateir defnyddio'r deunydd neu'r eitem plastig gydag ef—
(a)pan fydd y dangosiad yn datgan y caniateir i'r deunydd neu'r eitem plastig gael ei ddefnyddio gyda bwyd neu grŵp o fwydydd a ddisgrifir yng ngholofn 2 yn y Tabl yn Rhan 4, yr efelychydd bwyd neu'r efelychwyr bwyd sydd, at ddibenion Rhan 4, wedi ei bennu neu eu pennu mewn perthynas â'r bwyd hwnnw neu â'r grŵp hwnnw o fwydydd;
(b)pan fydd y dangosiad yn datgan na chaniateir i'r deunydd neu'r eitem plastig gael ei ddefnyddio gydag unrhyw fwyd neu grŵp o fwydydd a ddisgrifir yng ngholofn 2 yn y Tabl yn Rhan 4, efelychydd ac eithrio'r un sydd, at ddibenion Rhan 4, wedi ei bennu mewn perthynas â'r bwyd hwnnw neu â'r grŵp hwnnw o fwydydd.
8. Mae dangosiad penodol y cyfeirir ato ym mharagraff 7 wedi ei fynegi'n unol â'r paragraff hwn os yw wedi ei fynegi—
(a)ar gam marchnata ac eithrio manwerthu, drwy ddefnyddio'r rhif cyfeirnod yng ngholofn 1 yn y Tabl yn Rhan 4 o'r Rheoliadau hyn neu'r disgrifiad o fwyd yng ngholofn 2 o'r Tabl hwnnw sydd, yn y naill achos a'r llall, yn cyfateb i'r bwyd;
(b)ar y cam manwerthu, drwy ddefnyddio dangosiad sy'n cyfeirio at rai bwydydd neu grwpiau o fwydydd a ddisgrifir yn y Tabl yn Rhan 4 yn unig.
Bwyd sy'n dod i gyffyrddiad | Efelychydd |
---|---|
Dim ond bwydydd dyfrllyd | Efelychydd A |
Dim ond bwydydd asidig | Efelychydd B |
Dim ond bwydydd alcoholaidd | Efelychydd C |
Dim ond bwydydd brasterog | Efelychydd D |
Pob bwyd dyfrllyd ac asidig | Efelychydd B |
Pob bwyd alcoholaidd a dyfrllyd | Efelychydd C |
Pob bwyd alcoholaidd ac asidig | Efelychydd C a B |
Pob bwyd brasterog a dyfrllyd | Efelychwyr D ac A |
Pob bwyd brasterog ac asidig | Efelychwyr D a B |
Pob bwyd brasterog, alcoholaidd a dyfrllyd | Efelychwyr D ac C |
Pob bwyd brasterog, alcoholaidd ac asidig | Efelychwyr D, C a B |
1. At ddibenion yr Atodlen hon mae efelychydd wedi ei bennu mewn perthynas â bwyd penodol neu grŵp penodol o fwydydd pan fo “X” wedi ei osod yn y golofn â'r efelychydd hwnnw'n bennawd iddi gyferbyn â'r bwyd penodol hwnnw neu'r grŵp penodol hwnnw o fwydydd yn y Tabl yn y Rhan hon, a rhaid darllen y Tabl ar y cyd â'r nodiadau ar y tabl a chyda pharagraffau 2 i 5.
2. At ddibenion y Rhan hon —
(a)y ffigur sy'n dilyn “X” a blaenslaes yn y grŵp o golofnau sy'n dwyn y pennawd “Efelychwyr i'w defnyddio” yn y Tabl yn y Rhan hon yw'r ffactor rhydwytho;
(b)mae ffactor rhydwytho wedi ei bennu mewn perthynas â bwyd penodol neu grŵp penodol o fwydydd pan fydd, yn y Tabl—
(i)y bwyd neu'r grŵp o fwydydd wedi ei ddisgrifio yn y golofn sy'n dwyn y pennawd “Disgrifiad o'r bwyd”; a
(ii)“X” wedi ei osod mewn colofn ag efelychydd penodedig yn bennawd iddi, gyferbyn â'r bwyd hwnnw neu'r grŵp hwnnw o fwydydd a chyda blaenslaes a ffactor rhydwytho ar ei ôl.
3. Pan fydd ffactor rhydwytho wedi ei bennu yn y Tabl mewn perthynas â bwyd penodol neu grŵp penodol o fwydydd, rhaid i'r ffactor rhydwytho hwnnw gael ei gymhwyso i ganlyniad unrhyw brawf ymfudiad gan ddefnyddio'r efelychydd sydd wedi ei bennu mewn perthynas â'r bwyd hwnnw neu'r grŵp hwnnw o fwydydd drwy rannu canlyniad y prawf â'r ffactor rhydwytho.
4.—(1) Os ceir y llythyren “a” mewn cromfachau ar ôl yr “X”, rhaid defnyddio yn y prawf ymfudiad ddim ond un o'r ddau efelychydd a bennir, hynny yw —
(a)os yw gwerth pH y bwyd yn uwch na 4.5, rhaid defnyddio efelychydd A;
(b)os 4.5 neu lai yw gwerth pH y deunydd bwyd, rhaid defnyddio efelychydd B.
(2) Os ceir y llythyren “b” mewn cromfachau ar ôl yr “X”, rhaid gwneud y prawf a ddynodir gydag ethanol 50% (v/v).
5. Os yw bwyd wedi ei restru yn y Tabl o dan bennawd penodol ac o dan bennawd cyffredinol, yr efelychydd sy'n berthnasol i'r pennawd penodol yw'r efelychydd sydd i'w ddefnyddio ar gyfer y prawf ymfudiad.
Rhif Cyfeirnod | Disgrifiad o'r bwyd | Efelychwyr i'w defnyddio | |||
---|---|---|---|---|---|
A | B | C | D | ||
(1) Rhaid peidio â defnyddio efelychydd B pan fydd y pH yn fwy na 4.5. | |||||
(2) Rhaid gwneud y prawf hwn yn achos hylifau neu ddiodydd o gryfder alcoholaidd sy'n fwy na chyfaint o 10% gyda hydoddiannau dyfrllyd o ethanol o gryfder tebyg. | |||||
(3) Os gellir dangos o dan reoliad 13(2) neu brofi drwy gyfrwng prawf priodol nad oes cyffyrddiad brasterog i fod â'r deunydd neu'r eitem plastig, rhaid peidio â defnyddio efelychydd D. | |||||
01 | Diodydd | ||||
01.01 | Diodydd nad ydynt yn rhai alcoholaidd neu ddiodydd alcoholaidd â chryfder alcoholaidd sy'n llai na chyfaint o 5%:
| X (a) | X (a) | ||
01.02 | Diodydd alcoholaidd â chryfder alcoholaidd sy'n gyfwerth â neu'n fwy na chyfaint o 5%
| X(1) | X(2) | ||
01.03 | Amrywiol: alcohol ethyl a'i nodweddion heb eu newid | X(1) | X(1) | ||
02 | Grawnfwydydd, cynnyrch grawn, crwst, bisgedi, cacennau a nwyddau eraill a werthir gan bobyddion | ||||
02.01 | Startsiau | ||||
02.02 | Grawnfwydydd heb eu prosesu, pyffion grawnfwydydd, creision grawnfwydydd (gan gynnwys popgorn, creision ŷd a'u tebyg) | ||||
02.03 | Blawd a phowdr grawnfwydydd | ||||
02.04 | Macaroni, sbageti a chynhyrchion tebyg | ||||
02.05 | Crwst, bisgedi, cacennau a nwyddau eraill a werthir gan bobyddion, sych: | ||||
A Å sylweddau brasterog ar yr wyneb | X/5 | ||||
B Arall | |||||
02.06 | Crwst, bisgedi, cacennau a nwyddau eraill a werthir gan bobyddion, ffresh | ||||
A Å sylweddau brasterog ar yr wyneb | X(5) | ||||
B Arall | X | ||||
03 | Siocled, siwgr a'u cynhyrchion Cynhyrchion melys | ||||
03.01 | Siocled, cynhyrchion ac arnynt haenen o siocled, yr hyn a ddefnyddir yn lle siocled, a chynhyrchion ac arnynt haenen o'r hyn a ddefnyddir yn lle siocled | X/5 | |||
03.02 | Cynhyrchion melys: | ||||
A ar ffurf solid | |||||
— gyda sylweddau brasterog ar yr wyneb | X/5 | ||||
— Arall | |||||
B ar ffurf pâst: | |||||
— gyda sylweddau brasterog ar yr wyneb | X/3 | ||||
— llaith | X | ||||
03.03 | Siwgr a chynhyrchion siwgr | ||||
A Ar ffurf solid | |||||
B Mêl a'i debyg | X | ||||
C Triagl a syrypau siwgr | X | ||||
04 | Ffrwythau, llysiau a'u cynhyrchion | ||||
04.01 | Ffrwythau cyfan, ffres neu o'r oergell | ||||
04.02 | Ffrwythau wedi eu prosesu: | ||||
A Ffrwythau sych neu ddadhydredig, cyfan neu ar ffurf blawd neu bowdr | |||||
B Ffrwythau ar ffurf darnau, piwrî neu bâst | X (a) | X (a) | |||
C Cyffeithiau ffrwythau (jamiau a chynhyrchion tebyg | |||||
— ffrwythau cyfan neu mewn darnau neu ar ffurf blawd neu bowdr, wedi eu cadw mewn cyfrwng hylifol): | |||||
— i) Mewn cyfrwng dyfrllyd | X (a) | X (a) | |||
— ii) Mewn cyfrwng olewog | X (a) | X (a) | X | ||
— iii) Mewn cyfrwng alcoholaidd> cyfaint 5% | X(1) | X | |||
04.03 | Cnau (pysgnau, cnau castan, cnau almon, cnau cyll, cnau Ffrengig, cnau pin ac eraill) | ||||
A Heb y plisgyn, sych | |||||
B Heb y plisgyn ac wedi eu rhostio | X/5(3) | ||||
C Ar ffurf pâst neu hufen | X | X/3(3) | |||
04.04 | Llysiau cyfan, ffres neu o'r oergell | ||||
04.05 | Llysiau wedi eu prosesu: | ||||
A Llysiau sych neu ddadhydredig yn gyfan neu ar ffurf blawd neu bowdr | |||||
B Llysiau, wedi eu torri, ar ffurf piwrî | X (a) | X (a) | |||
C Llysiau wedi eu cadw: | |||||
— i) Mewn cyfrwng dyfrllyd | X (a) | X (a) | |||
— ii) Mewn cyfrwng olewog | X (a) | X (a) | X | ||
— iii) Mewn cyfrwng alcoholaidd (> 5% cyfaint) | X(1) | X | |||
05 | Brasterau ac olewau | ||||
05.01 | Brasterau ac olewau anifeiliaid a llysiau, p'un a ydynt yn naturiol neu wedi eu trin (gan gynnwys saim coco, lard, a menyn wedi ailymsolido) | X | |||
05.02 | Margarîn, menyn a brasterau ac olewau eraill wedi eu gwneud o emylsiynau dŵr mewn olew | X/2 | |||
06 | Cynhyrchion anifeiliaid ac wyau | ||||
06.01 | Pysgod: | ||||
A Ffres, o'r oergell, wedi eu halltu, wedi eu mygu | X | X/3(3) | |||
B Ar ffurf pâst | X | X/3(3) | |||
06.02 | Cramenogion a molwsgiaid (gan gynnwys wystrys, cregyn glas, malwod) nad yw eu cregyn yn eu diogelu'n naturiol | X | |||
06.03 | Cig pob rhywogaeth sŵolegol (gan gynnwys dofednod a helgig): | ||||
A Ffres, o'r oergell, wedi ei halltu, wedi ei fygu | X | X/4 | |||
B Ar ffurf pâst, hufennau | X | X/4 | |||
06.04 | Cynhyrchion cig wedi eu prosesu (ham, salami, bacwn ac eraill) | X | X/4 | ||
06.05 | Cig a physgod wedi eu cadw neu wedi eu rhan-gadw: | ||||
A Mewn cyfrwng dyfrllyd | X (a) | X (a) | |||
B Mewn cyfrwng olewog | X (a) | X (a) | X | ||
06.06 | Wyau heb fod yn eu plisgyn: | ||||
Powdr neu sych | |||||
B Arall | X | ||||
06.07 | Melynwy: | ||||
A Hylif | X | ||||
B Powdr neu o'r rhewgell | |||||
06.08 | Gwynwy sych | ||||
07 | Cynhyrchion llaeth | ||||
07.01 | Llaeth: | ||||
A Cyflawn | X(b) | ||||
B Wedi ei sychu'n rhannol | X(b) | ||||
C Sgim neu'n rhannol sgim | X(b) | ||||
D Sych | |||||
07.02 | Llaeth wedi ei eplesu megis iogwrt, llaeth enwyn a'r cyfryw gynhyrchion mewn cysylltiad â ffrwythau a chynhyrchion ffrwythau | X | X(b) | ||
07.03 | Hufen a hufen sur | X (a) | X (b) | ||
07:04 | Cawsiau: | ||||
A Cyfan, ac arnynt groen anfwytadwy B Pob un arall | X (a) | X (a) | X/3(3) | ||
B Pob un arall | |||||
07:05 | Rennet: | ||||
A Ar ffurf hylifol neu ludiog | X (a) | X (a) | |||
B Powdr neu sych | |||||
08 | Cynhyrchion amrywiol | ||||
08.01 | Finegr | X | |||
08.02 | Bwydydd wedi eu ffrio neu eu rhostio: | ||||
A Tatws wedi eu ffrio, ffriteri a'u tebyg | X/5 | ||||
B Sy'n dod o anifeiliaid | X/4 | ||||
08.03 | Paratoadau ar gyfer cawl, potes ar ffurf hylif, solid neu bowdr (echdyniadau, crynodiadau); paratoadau bwyd cyfansawdd wedi eu homogeneiddio, prydau parod: | ||||
Powdr neu sych | |||||
— i) Å sylweddau brasterog ar yr wyneb | X/5 | ||||
— ii) Arall | |||||
B Hylif neu bâst: | |||||
— i) Å sylweddau brasterog ar yr wyneb | X (a) | X (a) | X/3 | ||
— ii) Arall | X (a) | X (a) | |||
08.04 | Burumau a chyfryngau codi: | ||||
A Ar ffurf pâst | X(a) | X(a) | |||
B Sych | |||||
08.05 | Halen | ||||
08.06 | Sawsiau: | ||||
A Heb sylweddau brasterog ar yr wyneb | X(a) | X(a) | |||
B Mayonnaise, sawsiau sy'n deillio o mayonnaise, hufennau salad ac emylsiynau eraill olew mewn dŵr | X(a) | X(a) | X/3 | ||
C Saws sy'n cynnwys olew a dŵr sy'n ffurfio dwy haenen ar wahân | X(a) | X(a) | X | ||
08.07 | Mwstard (ac eithrio mwstard mewn powdr o dan bennawd 08.17) | X(a) | X(a) | X/3(3) | |
08.08 | Brechdanau, bara wedi ei grasu a'u tebyg sy'n cynnwys unrhyw fath o ddeunydd bwyd: | ||||
Å sylweddau brasterog ar yr wyneb | X/5 | ||||
B Arall | |||||
08.09 | Hufen iâ | X | |||
08.10 | Bwydydd sych: | ||||
Å sylweddau brasterog ar yr wyneb | X/5 | ||||
B Arall | |||||
08.11 | Bwyd wedi ei rewi neu wedi ei rewi'n galed | ||||
08.12 | Echdyniadau crynodedig o gryfder alcoholaidd sy'n gyfwerth â neu'n fwy na chyfaint o 5% | X(1) | X | ||
08.13 | Coco: | ||||
A Powdr coco | X/5(3) | ||||
B Pâst coco | X/3(3) | ||||
08.14 | Coffi, p'un ai wedi ei rostio ai peidio, digaffein neu hydawdd, yr hyn a ddefnyddir yn lle coffi, gronynnau neu bowdr | ||||
08.15 | Echdyniadau coffi hylifol | X | |||
08.16 | Perlysiau aromatig a pherlysiau eraill: | ||||
Camil, hocys, mintys, te, blodau leim ac eraill | |||||
08.17 | Sbeisiau a sesnin yn eu cyflwr naturiol: | ||||
Sinamon, clofs, mwstard mewn powdr, pupur, fanila, saffrwm ac eraill |
1. Yn ddarostyngedig i baragraffau 2, 4, 6 a 7 isod ac i baragraff 4.4 o Bennod II o'r Atodiad i Gyfarwyddeb 82/711, rhaid defnyddio, ar gyfer yr amser a'r tymheredd a ddefnyddir pan gynhelir profion ymfudiad, yr amser a'r tymheredd a ddewisir o golofn 2 yn y Tabl yn y Rhan hon ac sy'n cyfateb i'r amodau cyffyrddiad gwaethaf a ragwelir ac a bennir yng ngholofn 1 yn y Tabl hwnnw ar gyfer y deunydd neu'r eitem plastig sy'n cael ei brofi ac sy'n cyfateb hefyd i unrhyw wybodaeth ar label am y tymheredd defnyddio uchaf.
2. Os bwriedir i'r cyfuniad canlynol fod yn berthnasol i'r defnydd a wneir o'r deunydd neu'r eitem plastig sy'n cael ei brofi, sef ei fod yn cael ei ddwyn i gyffyrddiad â bwyd ddwywaith neu fwy ac ar dymheredd a bennir yng ngholofn 2 yn y Tabl yn y Rhan hon, rhaid i'r prawf ymfudiad gael ei wneud drwy gymhwyso'r holl amodau gwaethaf sy'n gymwys ac a ragwelir ac sy'n briodol i'r sbesimen a brofir, a hynny un ar ôl y llall a chan ddefnyddio'r un gyfran o efelychydd bwyd.
3. At ddibenion y Rhan hon yr amodau cyffyrddiad gwaethaf a ragwelir yw'r rhai y cydnabyddir mai hwy yw'r mwyaf heriol ar sail tystiolaeth wyddonol.
4. Pan fydd prawf yn cael ei gynnal i brofi ymfudiad penodol sylweddau anweddol rhaid i unrhyw brawf sy'n defnyddio efelychydd gael ei gyflawni mewn dull sy'n cydnabod colli ymfudwyr anweddol, sef rhywbeth a all ddigwydd yn yr amodau defnyddio gwaethaf a ragwelir.
5. Pan fydd prawf ymfudiad yn cael ei wneud ar ddeunydd neu eitem plastig y bwriedir ei ddefnyddio mewn ffwrn microdon, os dewisir yr amser a'r tymheredd priodol o'r tabl yn y Rhan hon, caniateir defnyddio naill ai ffwrn gonfensiynol neu ffwrn microdon.
6. Os bydd gwneud prawf ymfudiad o dan amodau cyffyrddiad a bennir yn y Tabl yn y Rhan hon yn peri unrhyw newid ffisegol neu newid arall i'r sbesimen a brofir, a hwnnw'n newid nad yw'n digwydd o dan yr amodau defnyddio gwaethaf a ragwelir ar gyfer y deunydd neu'r eitem plastig, rhaid i'r prawf ymfudiad gael ei wneud yn yr amodau defnyddio gwaethaf a ragwelir ac nad yw newidiadau ffisegol neu newidiadau eraill yn digwydd oddi tanynt.
7. Pan fydd y deunydd neu'r eitem plastig yn cael ei ddefnyddio go iawn, os bwriedir ei ddefnyddio am gyfnodau llai na 15 munud ar unrhyw dymheredd nad yw'n is na 70°C ac nad yw'n fwy na 100°C a bod ei ddefnyddio felly'n cael ei ddangos ar label neu gyfarwyddyd priodol, nid oes rhaid gwneud unrhyw brawf ac eithrio am 2 awr ar dymheredd o 70°C ar y deunydd neu'r eitem plastig oni fwriedir hefyd i'r defnydd neu'r eitem plastig gael ei ddefnyddio ar gyfer storio ar dymheredd ystafell, ac yn yr achos hwn nid oes rhaid ond gwneud prawf am 10 niwrnod ar dymheredd o 40°C.
8. Darllenir y Tabl yn y Rhan hon ar y cyd â'r nodiadau i'r Tabl.
Amodau cyffyrddiad o ran y defnydd gwaethaf a ragwelir | Amodau'r prawf |
---|---|
(1) Y cyfnod o amser sy'n cynrychioli'r amodau cyffyrddiad gwaethaf posibl a ragwelir. | |
(2) Dim ond ar gyfer efelychydd D y caniateir defnyddio'r tymheredd hwn. Ar gyfer efelychydd A, B neu C caniateir disodli'r prawf â phrawf ar 100°C neu ar dymheredd adlifo am gyfnod sy'n para pedair gwaith yr amser a ddewisir yn unol â pharagraff 1 o'r Rhan hon. | |
Amser cyffyrddiad: | Amser profi: |
Llai na neu gymaint â 5 munud | (1) |
>5 munud ond llai na neu gymaint â 0.5 awr | 0.5 awr |
>0.5 awr ond llai na neu gymaint ag 1 awr | 1 awr |
>1 awr ond llai na neu gymaint â 2 awr | 2 awr |
>2 awr ond llai na neu gymaint â 4 awr | 4 awr |
>4 awr ond llai na neu gymaint â 24 awr | 24 awr |
>24 awr | 10 niwrnod |
Tymheredd cyffyrddiad: | Tymheredd profi: |
Llai na neu gyfuwch â 5°C | 5°C |
>5°C ond llai na neu gyfuwch ag 20°C | 20°C |
>20°C ond llai na neu gyfuwch â 40°C | 40°C |
>40°C ond llai na neu gyfuwch ag 70°C | 70°C |
>70°C ond llai na neu gyfuwch â 100°C | 100°C neu dymheredd adlifo |
>100°C ond llai na neu gyfuwch ag 121°C | 121°C (2) |
>121°C ond llai na neu gyfuwch â 130°C | 130°C (2) |
>130°C ond llai na 150°C | 150°C (2) |
>150°C | 175°C (2) |
1. Yn ddarostyngedig i baragraffau 2, 4 a 5, rhaid i'r holl gyfryngau profi a bennir yn y Tabl yn y Rhan hon gael eu defnyddio yn y prawf braster disodli ar gyfer ymfudiad cyflawn neu benodol o dan amodau prawf sy'n cyfateb i'r amodau prawf ar gyfer efelychydd D.
2. Caniateir defnyddio amodau prawf ac eithrio'r rhai a bennir yn y Tabl yn y Rhan hon yn y prawf braster disodli os rhoddir ystyriaeth i'r tybiaethau sydd wrth wraidd yr amodau prawf a bennir yn y Tabl hwnnw ac, os polymer yw'r deunydd neu'r eitem plastig sy'n cael ei brofi, ystyriaeth i'r profiad presennol o'r math hwnnw o bolymer.
3. Ar gyfer pob prawf—
(a)rhaid defnyddio sbesimen newydd i'w brofi;
(b)rhaid cymhwyso'r rheolau sydd wedi eu rhagnodi ar gyfer efelychydd D yn Rhannau 3, 4 a 5 o'r Atodlen hon i bob cyfrwng prawf;
(c)yn ddarostyngedig i baragraff 4, rhaid penderfynu cydymffurfedd â therfyn ymfudiad drwy ddewis y gwerth uchaf drwy ddefnyddio'r holl ddulliau profi.
4. Os bydd gwneud prawf ymfudiad yn peri unrhyw newid ffisegol neu newid arall i'r sbesimen a brofir, a hwnnw'n newid nad yw'n digwydd o dan yr amodau defnyddio gwaethaf a ragwelir o ran y deunydd neu'r eitem plastig, rhaid i ganlyniad y prawf hwnnw beidio â chael ei ddefnyddio i gadarnhau cydymffurfedd â'r terfyn ymfudiad.
5. Rhaid peidio â defnyddio unrhyw amodau prawf a geir yn y Tabl yn y Rhan hon y cydnabyddir yn gyffredinol ar sail tystiolaeth wyddonol nad ydynt yn briodol i'r deunydd neu'r eitem sydd i'w brofi.
6. Rhaid darllen y Tabl yn y Rhan hon gyda'r nodiadau i'r Tabl.
Amodau'r prawf gydag efelychydd D | Amodau'r prawf gydag isoocten | Amodau'r prawf gydag ethanol 95% | Amodau'r prawf gydag MPPO(1) |
---|---|---|---|
(1) MPPO = Ocsid polyphenylen addasedig | |||
(2) Defnyddir y cyfryngau profi anweddol hyd at dymheredd uchaf o 60°C. Rhagamod o ddefnyddio'r profion hyn yw y bydd y deunydd neu'r eitem yn gwrthsefyll amodau'r prawf a fyddai fel arall yn cael ei ddefnyddio gydag efelychydd D. Trochwch sbesimen i'w brofi mewn olew olewydd o dan yr amodau priodol. Os newidir y nodweddion ffisegol (e.e. toddi, anffurfio) yna ystyrir bod y deunydd yn anaddas ar gyfer ei ddefnyddio ar y tymheredd hwnnw. Os na newidir y nodweddion ffisegol yna ewch ymlaen gyda'r profion disodli gan ddefnyddio sbesimenau newydd. | |||
10 niwrnod ar 5°C | 0.5 diwrnod ar 5°C | 10 niwrnod ar 5°C | |
10 niwrnod ar 20°C | 1 diwrnod ar 20°C | 10 niwrnod ar 20°C | |
10 niwrnod ar 40°C | 2 ddiwrnod ar 20°C | 10 niwrnod ar 40°C | |
2 awr ar 70°C | 0.5 awr ar 40°C | 2 awr ar 60°C | |
0.5 awr ar 100°C | 0.5 awr ar 60°C(2) | 2.5 awr ar 60°C | 0.5 awr ar 100°C |
1 awr ar 100°C | 1 awr ar 60°C(2) | 3 awr ar 60°C(2) | 1 awr ar 100°C |
2 awr ar 100°C | 1.5 awr ar 60°C(2) | 3.5 awr ar 60°C(2) | 2 awr ar 100°C |
0.5 awr ar 121°C | 1.5 awr ar 60°C(2) | 3.5 awr ar 60°C(2) | 0.5 awr ar 121°C |
1 awr ar 121°C | 2 awr ar 60°C(2) | 4 awr ar 60°C(2) | 1 awr ar 121°C |
2 awr ar 121°C | 2.5 awr ar 60°C(2) | 4.5 awr ar 60°C(2) | 2 awr ar 121°C |
0.5 awr ar 130°C | 2 awr ar 60°C(2) | 4 awr ar 60°C(2) | 0.5 awr ar 130°C |
1 awr ar 130°C | 2.5 awr ar 60°C(2) | 4.5 awr ar 60°C(2) | 1 awr ar 130°C |
2 awr ar 150°C | 3 awr ar 60°C(2) | 5 awr ar 60°C(2) | 2 awr ar 150°C |
2 awr ar 175°C | 4 awr ar 60°C(2) | 6 awr ar 60°C(2) | 2 awr ar 175°C |
1. Yn ddarostyngedig i baragraff 2 o'r Rhan hon y canlynol yw'r amodau y mae'n rhaid eu bodloni i ganiatáu i ganlyniad y naill brawf neu'r llall a bennir ym mharagraff 3 gael ei ddefnyddio fel dewis amgen yn lle canlyniad prawf ymfudiad a wneir o dan Ran 3—
(a)mae'r canlyniad a geir mewn “prawf cymharu” yn dangos bod y gwerthoedd yn gyfwerth â neu'n fwy na'r rhai a geir yn y prawf gydag efelychydd D; a
(b)nid yw'r ymfudiad sy'n digwydd yn y naill brawf neu'r llall a bennir ym mharagraff 3 dros ben y terfyn ymfudiad priodol, ar ôl cymhwyso'r ffactor rhydwytho priodol.
2. Nid oes raid i'r amod yn is-baragraff (a) o baragraff 1 gael ei fodloni os gellir dangos ar sail canlyniad arbrawf gwyddonol fod y gwerthoedd a geir yn y naill brawf neu'r llall a bennir ym mharagraff 3 yn gyfwerth â neu'n fwy na'r rhai a geir yn unrhyw brofion ymfudiad a bennir yn Rhan 3.
3. Y canlynol yw'r profion ymfudiad y cyfeirir atynt ym mharagraff 2 a 3—
(a)prawf a wneir gan ddefnyddio cyfryngau anweddol gan gynnwys isoocten, ethanol 95%, toddyddion anweddol eraill neu gymysgedd o doddyddion o dan y cyfryw amodau cyffyrddiad ag a fyddai'n arwain at werthoedd cyfwerth â neu fwy na'r rhai a geir mewn prawf yn defnyddio efelychydd D;
(b)profion eraill sy'n defnyddio cyfryngau a chanddynt bŵer echdynnu cryf iawn o dan amodau prawf heriol iawn os cydnabyddir yn gyffredinol, ar sail tystiolaeth wyddonol, bod y canlyniadau, o ddefnyddio'r profion hyn, yn gyfwerth â neu'n uwch na'r rhai a geir mewn prawf yn defnyddio efelychydd D.