- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
22.—(1) Er gwaethaf dirymu Rheoliadau 1998 a wneir gan reoliad 25 o Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2006 o ran unrhyw ddeunydd neu eitem plastig—
(a)a weithgynhyrchwyd cyn 1 Gorffennaf 1998, yr amddiffyniad yn rheoliad 3(3) o Reoliadau 1998;
(b)a weithgynhyrchwyd yn neu a fewnforiwyd i'r Gymuned Ewropeaidd cyn 1 Ionawr 2003, yr amddiffyniad yn rheol 10(15) o Reoliadau 1998;
(c)a roddwyd i gylchredeg yn rhydd yn y Gymuned Ewropeaidd cyn 30 Tachwedd 2002, yr amddiffyniad yn rheoliad 10(16) o Reoliadau 1998;
(ch)a weithgynhyrchwyd yn neu a fewnforiwyd i'r Gymuned Ewropeaidd cyn 1 Mawrth 2004, yr amddiffyniad yn rheol 10(21)(a) o Reoliadau 1998;
(d)a weithgynhyrchwyd yn neu a fewnforiwyd i'r Gymuned Ewropeaidd cyn 1 Mawrth 2003, yr amddiffyniad yn rheol 10(21)(b) o Reoliadau 1998;
(dd)sy'n cynnwys azodicarbonamid ac a gafodd ei ddwyn i gyffyrddiad â bwyd cyn 2 Awst 2005, yr amddiffyniad yn rheoliad 10(23) o Reoliadau 1998; neu
(e)a weithgynhyrchwyd yn neu a fewnforiwyd i'r Gymuned Ewropeaidd cyn 1 Mawrth 2006, yr amddiffyniad yn rheoliad 10(25) o Reoliadau 1998;
rhaid i'r amddiffyniad fod yn gymwys mewn perthynas â thramgwyddau o dan y Rheoliadau hyn yn yr un modd ag yr oedd yn gymwys i dramgwyddau o dan y darpariaethau cyfatebol yn y Rheoliadau hynny.
(2) Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn ac eithrio tramgwydd a grybwyllir yn rheoliad 21(1), mae'n amddiffyniad i brofi—
(a)bod y weithred sy'n destun y tramgwydd honedig wedi'i chyflawni mewn perthynas â deunydd neu eitem plastig a weithgynhyrchwyd neu a fewnforiwyd i'r Gymuned Ewropeaidd cyn 19 Tachwedd 2007; a
(b)na fyddai'r mater sy'n destun y tramgwydd honedig yn dramgwydd fel arall o dan y Rheoliadau hyn pe na byddai'r diwygiadau i'r Gyfarwyddeb a wnaed gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/79/EC wedi eu gweithredu yng Nghymru pan ddigwyddodd y mater.
(3) Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn ac eithrio tramgwydd y cyfeirir ato yn rheoliad 21(1), mae profi'r canlynol yn amddiffyniad—
(a)yn achos caeadau y mae ynddynt gasged ac nad ydynt yn cydymffurfio â'r cyfyngiadau a'r manylebau ar gyfer Rhifau Cyfeirnod 30340, 30401, 56800, 76815, 76866, 88640 neu 93760 a geir yn yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 372/2007 sy'n gosod terfynau ymfudiad trosiannol ar gyfer plastigyddion mewn gasgedi mewn caeadau y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd(1), bod y rhanddirymiad a geir yn Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 597/2008 sy'n diwygio Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 372/2007(2) yn gymwys; neu
(b)yn achos caeadau y mae ynddynt gasged ac nad ydynt yn cydymffurfio â'r cyfyngiadau a'r manylebau ar gyfer Rhif Cyfeirnod 36640 (azodicarbonamid) a geir yn Atodiad III neu yn achos deunyddiau neu eitemau plastig nad ydynt yn cydymffurfio â'r cyfyngiadau a'r manylebau ar gyfer ffthaladau o dan Rifau Cyfeirnod 74560, 74640, 74880, 75100 neu 75105 a geir yn yr Atodiad hwnnw, bod y weithred yr honnir ei bod yn dramgwydd wedi ei chyflawni mewn perthynas â deunydd neu eitem plastig a weithgynhyrchwyd yn neu a fewnforiwyd i'r Gymuned Ewropeaidd cyn 1 Gorffennaf 2008; neu
(c)mewn unrhyw achos ac eithrio'r rhai a grybwyllir yn is-baragraff (a) neu (b), bod y weithred yr honnir ei bod yn dramgwydd honedig wedi ei chyflawni mewn perthynas â deunydd neu eitem plastig a weithgynhyrchwyd yn neu a fewnforiwyd i'r Gymuned Ewropeaidd cyn 1 Mai 2009; ac
(ch)na fyddai'r weithred yr honnir ei bod yn dramgwydd wedi bod yn dramgwydd fel arall o dan y Rheoliadau hyn pe na byddai'r diwygiadau i'r Gyfarwyddeb a wnaed gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2007/19/EC wedi eu gweithredu yng Nghymru pan ddigwyddodd y mater.
OJ Rhif L92, 3.4.2007, t.9.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 597/2008 (OJ Rhif L164 25.06.2008, tt.12-13).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: