- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
26. Rhaid i'r darpariaethau a ganlyn o'r Ddeddf fod yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn yn yr un modd ag y maent yn gymwys at ddibenion y Ddeddf —
(a)adran 3 (rhagdybiaeth bod bwyd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl);
(b)adran 30(8) (ynghylch tystiolaeth ddogfennol);
(c)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n ymddwyn yn ddidwyll).
27. Yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990(1), yn Atodlen 1 (darpariaethau nad yw'r Rheoliadau hynny yn gymwys iddynt) yn lle enw a chyfeirnod Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2008, rhodder enw a chyfeirnod y Rheoliadau hyn.
28.—(1) Diwygir Rheoliadau 2007 yn unol â pharagraffau (2) i (3).
(2) Yn rheoliad 2(1) —
(a)hepgorer y diffiniad o “Rheoliadau 2008”;
(b)yn y lle priodol mewnosoder y diffiniad a ganlyn—
“ystyr “Rheoliadau 2008” (“the 2008 Regulations”) yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) (Rhif 2) 2008(2);”.
(3) Ym mharagraff (5) o reoliad 11 (terfynau ymfudo ar gyfer caen cellwlos atgynyrchiedig wedi ei araenu â phlastigion), yn lle'r ymadrodd “fel y'i darllenir gyda rheoliad 11” rhodder “fel y'i darllenir gyda rheoliad 13”.
29. Yn rheoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Gasgedi mewn Caeadau) (Cymru) 2008(3), yn lle'r diffiniad “Rheoliad y Comisiwn” rhodder y diffiniad canlynol—
“ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 372/2007, sy'n gosod terfynau ymfudiad trosiannol ar gyfer plastigyddion mewn gasgedi mewn caeadau y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd, fel y mae wedi ei ddiwygio gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 597/2008(4);”.
30. Dirymir y Rheoliadau a ganlyn neu rannau ohonynt —
(a)Rheoliad 29(c) o Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2008(5);
(b)Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2008; ac
(c)Rheoliad 24 o Reoliadau 2007.
OJ Rhif L164 25.6.2008 tt.12-13.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: