- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau penodol sy'n ymwneud â gwasanaethau meddygol sylfaenol ac i Reoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol bod cyflawnwyr gwasanaethau meddygol sylfaenol neu wasanaethau deintyddol sylfaenol yn cael eu cynnwys mewn rhestr cyflawnwyr a gynhelir gan Fwrdd Iechyd Lleol.
Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 2004 (“y Rheoliadau Contractau GMC”). Yn benodol, mae:
(a)yn gwneud diwygiadau i'r cyfeiriadau at “incapable adults”, ac at y rhai y caniateir iddynt weithredu ar eu rhan, er mwyn adlewyrchu'r termau a ddefnyddir yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005;
(b)yn gwneud diwygiadau i'r darpariaethau sy'n ymwneud â system llywodraethu clinigol y contractiwr er mwyn darparu bod rhaid i systemau o'r fath gynnwys gweithdrefnau gweithredu safonol mewn perthynas â rheoli a defnyddio cyffuriau a reolir; ac
(c)yn gwneud mân newidiadau i'r cyfyngiadau ar y rhai sy'n gymwys i gontractio i ddarparu gwasanaethau meddygol sylfaenol ac i'r darpariaethau sy'n ymwneud â chyflwyno hysbysiadau adfer a hysbysiadau torcyfraith.
Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) 2004 (“y Rheoliadau Rhestri Cyflawnwyr”). Yn benodol:
mae rheoliadau 4A, 22, 23A a 29 o'r Rheoliadau Rhestri Cyflawnwyr wedi'u diwygio i estyn o ddeufis i dri mis y cyfnod pryd y caiff cyflawnwr ddarparu gwasanaethau meddygol neu ddeintyddol sylfaenol ac yntau heb fod ar restr cyflawnwyr.
mae rheoliad 13 o'r Rheoliadau Rhestri Cyflawnwyr wedi'i ddiwygio er mwyn ei gwneud yn glir bod cyflawnwr y mae ei enw wedi'i dynnu dros dro oddi ar restr yn dal i gael ei drin fel petai wedi'i gynnwys yn y rhestr honno mewn perthynas ag unrhyw gais y caiff y cyflawnwr ei wneud i gael ei gynnwys mewn rhestr arall; ac
mae rheoliad 22 o'r Rheoliadau Rhestri Cyflawnwyr wedi'i ddiwygio er mwyn caniatáu i feddyg, sy'n ymgymryd â'r rhan ôl-gofrestru o'r rhaglen sylfaen i feddygon sydd newydd gymhwyso, gyflawni gwasanaethau meddygol syflaenol ac yntau heb fod yn ymarferydd cyffredinol na'i enw wedi'i gynnwys ar restr, ond dim ond i'r graddau y mae cyflawni'r gwasanaethau meddygol sylfaenol yn rhan o'r rhaglen honno.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: