xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 1409 (Cy.146)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) 2008

Gwnaed

30 Mai 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

2 Mehefin 2008

Yn dod i rym

1 Awst 2008 ac eithrio'r hyn a ddarperir gan erthyglau 4(1), 5(1), 6(1), 7(1), 8(1), 9(1), 10(1), 11(1), 12(1), 13(1), 14(1), 15(1) a (2)

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 108(3)(a) a (b), (5) ac adran 210 o Ddeddf Addysg 2002(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt(2) ac ar ôl gwneud y trefniadau hynny ar gyfer ymgynghori y maent o'r farn eu bod yn briodol yn unol ag adran 117 o Ddeddf Addysg 2002, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) 2008 ac yn ddarostyngedig i erthyglau 4(1), 5(1), 6(1), 7(1), 8(1), 9(1), 10(1), 11(1), 12(1), 13(1), 14(1) a 15(1) a (2) isod, daw i rym ar 1 Awst 2008.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y ddogfen addysg gorfforol” (“the physical education document”) yw'r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn Ionawr 2008 sy'n dwyn y teitl “Addysg gorfforol yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru”(3);

ystyr “y ddogfen celf a dylunio” (“the art and design document”) yw'r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn Ionawr 2008 sy'n dwyn y teitl “Celf a dylunio yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru”(4);

ystyr “y ddogfen dylunio a thechnoleg” (“the design and technology document”) yw'r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn Ionawr 2008 sy'n dwyn y teitl “Dylunio a thechnoleg yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru”(5);

ystyr “y ddogfen ddaearyddiaeth” (“the geography document”) yw'r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn Ionawr 2008 sy'n dwyn y teitl “Daearyddiaeth yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru”(6);

ystyr “y ddogfen fathemateg” (“the mathematics document”) yw'r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn Ionawr 2008 sy'n dwyn y teitl “Mathemateg yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru”(7);

ystyr “y ddogfen gerddoriaeth” (“the music document”) yw'r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn Ionawr 2008 sy'n dwyn y teitl “Cerddoriaeth yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru”(8);

ystyr “y ddogfen Gymraeg” (“the Welsh document”) yw'r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn Ionawr 2008 sy'n dwyn y teitl “Cymraeg yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru”(9);

ystyr “y ddogfen hanes” (“the history document”) yw'r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn Ionawr 2008 sy'n dwyn y teitl “Hanes yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru”(10);

ystyr “y ddogfen ieithoedd tramor modern” (“the modern foreign language document”) yw'r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn Ionawr 2008 sy'n dwyn y teitl “Ieithoedd tramor modern yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru”(11);

ystyr “y ddogfen Saesneg” (“the English document”) yw'r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn Ionawr 2008 sy'n dwyn y teitl “Saesneg yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru”(12);

ystyr “y ddogfen technoleg gwybodaeth a chyfathrebu” (“the information and communication technology document”) yw'r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn Ionawr 2008 sy'n dwyn y teitl “Technoleg gwybodaeth a chyfathrebu yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru”(13);

ystyr “y ddogfen wyddoniaeth” (“the science document”) yw'r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn Ionawr 2008 sy'n dwyn y teitl “Gwyddoniaeth yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru”(14); ac

mae cyfeiriadau at y cyfnodau allweddol cyntaf, yr ail gyfnod allweddol, y trydydd cyfnod allweddol a'r pedwerydd cyfnod allweddol i'w dehongli yn unol ag adran 103 o Ddeddf Addysg 2002.

Dirymu a darpariaethau trosiannol

3.—(1Dirymir y Gorchmynion a restrir yn yr Atodlen ar 1 Awst 2008.

(2Er gwaethaf paragraff (1) mae'r darpariaethau yn y Gorchmynion a restrir yn yr Atodlen yn parhau yn gymwys i ddisgyblion yn yr ail gyfnod allweddol, y trydydd cyfnod allweddol a'r pedwerydd cyfnod allweddol hyd nes y bydd darpariaethau'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddynt.

Celf a dylunio

4.—(1Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r ddogfen celf a dylunio i rym ar—

(a)1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol ac yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol; a

(b)1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol ac yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol.

(2Y darpariaethau ynghylch y targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen celf a dylunio yn cael effaith at ddibenion pennu'r targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran celf a dylunio.

(3Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen celf a dylunio (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.

Dylunio a thechnoleg

5.—(1Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r ddogfen dylunio a thechnoleg i rym ar—

(a)1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol ac yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol; a

(b)1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol ac yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol.

(2Y darpariaethau ynghylch y targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen dylunio a thechnoleg yn cael effaith at ddibenion pennu'r targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran dylunio a thechnoleg.

(3Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen dylunio a thechnoleg (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.

Saesneg

6.—(1Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r ddogfen Saesneg i rym ar—

(a)1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol ac yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol;

(b)1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol ac yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol;

(c)1 Awst 2010 o ran disgyblion ym mlwyddyn gyntaf y pedwerydd cyfnod allweddol; ac

(ch)1 Awst 2011 o ran disgyblion yn ail flwyddyn y pedwerydd cyfnod allweddol.

(2Y darpariaethau ynghylch targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen Saesneg yn cael effaith at ddibenion pennu'r targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran Saesneg.

(3Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen Saesneg (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.

Daearyddiaeth

7.—(1Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r ddogfen ddaearyddiaeth i rym ar—

(a)1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol ac yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol; a

(b)1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol ac yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol.

(2Y darpariaethau ynghylch y targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen ddaearyddiaeth yn cael effaith at ddibenion pennu'r targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran daearyddiaeth.

(3Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen ddaearyddiaeth (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.

Hanes

8.—(1Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r ddogfen hanes i rym ar—

(a)1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol ac yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol; a

(b)1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol ac yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol.

(2Y darpariaethau ynghylch y targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen hanes yn cael effaith at ddibenion pennu'r targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran hanes.

(3Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen hanes (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.

Technoleg gwybodaeth a chyfathrebu

9.—(1Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r ddogfen technoleg gwybodaeth a chyfathrebu i rym ar—

(a)1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol ac yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol; a

(b)1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol ac yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol.

(2Y darpariaethau ynghylch y targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen technoleg gwybodaeth a chyfathrebu yn cael effaith at ddibenion pennu'r targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran technoleg gwybodaeth a chyfathrebu.

(3Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.

Mathemateg

10.—(1Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r ddogfen fathemateg i rym ar—

(a)1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol ac yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol;

(b)1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol ac yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol;

(c)1 Awst 2010 o ran disgyblion ym mlwyddyn gyntaf y pedwerydd cyfnod allweddol; ac

(ch)1 Awst 2011 o ran disgyblion yn ail flwyddyn y pedwerydd cyfnod allweddol.

(2Y darpariaethau ynghylch y targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen fathemateg yn cael effaith at ddibenion pennu'r targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran mathemateg.

(3Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen fathemateg (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.

Ieithoedd tramor modern

11.—(1Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r ddogfen ieithoedd tramor modern i rym ar—

(a)1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol; a

(b)1 Awst 2009 o ran disgyblion yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol.

(2Y darpariaethau ynghylch targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen ieithoedd tramor modern yn cael effaith at ddibenion pennu'r targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran ieithoedd tramor modern.

(3Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen ieithoedd tramor modern (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.

Cerddoriaeth

12.—(1Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r ddogfen gerddoriaeth i rym ar—

(a)1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol ac yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol; a

(b)1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol ac yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol.

(2Y darpariaethau ynghylch y targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen gerddoriaeth yn cael effaith at ddibenion pennu'r targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran cerddoriaeth.

(3Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen gerddoriaeth (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.

Addysg gorfforol

13.—(1Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r ddogfen addysg gorfforol i rym ar—

(a)1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol ac yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol;

(b)1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol, yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol ac ym mlwyddyn gyntaf y pedwerydd cyfnod allweddol; ac

(c)1 Awst 2010 o ran disgyblion yn ail flwyddyn y pedwerydd cyfnod allweddol.

(2Y darpariaethau ynghylch y targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen addysg gorfforol yn cael effaith at ddibenion pennu'r targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran addysg gorfforol.

(3Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen addysg gorfforol (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.

Gwyddoniaeth

14.—(1Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r ddogfen wyddoniaeth i rym ar—

(a)1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol, yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol ac yn y pedwerydd cyfnod allweddol; a

(b)1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol ac yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol.

(2Y darpariaethau ynghylch y targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen wyddoniaeth yn cael effaith at ddibenion pennu'r targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran gwyddoniaeth.

(3Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen wyddoniaeth (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.

Cymraeg

15.—(1Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r rhan honno o'r ddogfen Gymraeg sy'n dwyn y teitl “Cymraeg” i rym ar—

(a)1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol ac yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol;

(b)1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol ac yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol;

(c)1 Awst 2010 o ran disgyblion ym mlwyddyn gyntaf y pedwerydd cyfnod allweddol; ac

(ch)1 Awst 2011 o ran disgyblion yn ail flwyddyn y pedwerydd cyfnod allweddol.

(2Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r rhan honno o'r ddogfen Gymraeg sy'n dwyn y teitl “Cymraeg ail iaith” i rym ar—

(a)1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol ac yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol;

(b)1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol, yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol ac ym mlwyddyn gyntaf y pedwerydd cyfnod allweddol; ac

(c)1 Awst 2010 o ran disgyblion yn ail flwyddyn y pedwerydd cyfnod allweddol.

(3Y darpariaethau ynghylch targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen Gymraeg yn cael effaith at ddibenion pennu'r targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran Cymraeg.

(4Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen Gymraeg (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.

30 Mai 2008

(Erthygl 3)

YR ATODLENGorchmynion a ddirymir

1.  At ddibenion erthygl 3(1) caiff y Gorchmynion canlynol eu dirymu —

(a)Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Addysg Gorfforol) (Cymru) 2000(15);

(b)Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Gwyddoniaeth) (Cymru) 2000(16);

(c)Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Mathemateg) (Cymru) 2000(17);

(ch)Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Cymraeg) 2000(18);

(d)Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Celf) (Cymru) 2000(19);

(dd)Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Saesneg) (Cymru) 2000(20);

(e)Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Daearyddiaeth) (Cymru) 2000(21);

(f)Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Hanes) (Cymru) 2000(22);

(g)Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Ieithoedd Tramor Modern) (Cymru) 2000(23);

(ff)Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Cerddoriaeth) (Cymru) 2000(24); ac

(ng)Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Technoleg) (Cymru) 2000(25).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Diwygir Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru o 1 Awst 2008 ymlaen. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi effaith gyfreithiol i'r rhaglenni astudio, sy'n gosod yr hyn y dylid ei addysgu i ddisgyblion a thargedau cyrhaeddiad ar eu cyfer. Nodir manylion ohonynt mewn deuddeg dogfen a elwir:

Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn gosod trefniadau ar gyfer cyflwyno'r Cwricwlwm Cenedlaethol diwygiedig fesul cam.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(3)

ISBN Rhif 9780750444279.

(4)

ISBN Rhif 9880750444255.

(5)

ISBN Rhif 9780750444217.

(6)

ISBN Rhif 9780750444248.

(7)

ISBN Rhif 9780750444194.

(8)

ISBN Rhif 9780750444262.

(9)

ISBN Rhif 9780750444187.

(10)

ISBN Rhif 9780750444231.

(11)

ISBN Rhif 9780750444286.

(12)

ISBN Rhif 9780750444170.

(13)

ISBN Rhif 9780750444224.

(14)

ISBN Rhif 9780750444200.