- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
30 Mai 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
2 Mehefin 2008
Yn dod i rym
1 Awst 2008
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Ieithoedd Tramor Modern) (Cymru) 2008 a daw i rym ar 1 Awst 2008.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Dirymir Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Ieithoedd Tramor Modern) (Cymru) 2000(3).
3. At ddibenion adran 105 o Ddeddf Addysg 2002 ystyr “iaith dramor fodern” yw unrhyw iaith dramor fodern.
4.—(1) Mae unrhyw gwestiwn ynghylch a yw iaith dramor benodol yn iaith dramor fodern at ddibenion adran 105 o Ddeddf Addysg 2002 i'w benderfynu gan Weinidogion Cymru.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru wneud dyfarniad o dan baragraff (1) yn sgil cais gan unrhyw berson neu o'u hysgogiad eu hunain.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
30 Mai 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae “iaith dramor fodern” yn bwnc sylfaen yn y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru yn y trydydd cyfnod allweddol. Mae'n ofynnol i'r ieithoedd hynny sydd i'w cyfrif yn ieithoedd modern at ddibenion y Cwricwlwm Cenedlaethol gael eu pennu mewn Gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru, neu, fel arall, caiff Gorchymyn o'r fath ddarparu bod unrhyw iaith dramor fodern yn iaith dramor fodern at y cyfryw ddibenion. Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu bod unrhyw iaith dramor fodern yn iaith dramor fodern, a bod unrhyw gwestiwn ynghylch a yw iaith dramor yn iaith dramor fodern i'w benderfynu gan Weinidogion Cymru.
Cafodd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: