Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 1324 (Cy.137)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) 2008

Gwnaed

16 Mai 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

20 Mai 2008

Yn dod i rym

13 Mehefin 2008

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) 2008 a deuant i rym ar 13 Mehefin 2008.

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

3.  Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2008” (“the 2008 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2008(3).

Diwygio Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2008

4.  Diwygir Rheoliadau 2008 fel a ganlyn.

5.  Yn rheoliad 18(3), yn lle'r ffigur “25,580”, rhodder y ffigur “27,115”.

6.  Yn lle paragraffau 8(1)(b) ac 8(1)(c) o Atodlen 2 rhodder—

(b)a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac wedi ymsefydlu yn y Deyrnas Unedig yn union cyn gadael y Deyrnas Unedig i arfer hawl i breswylio;

(c)sydd yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y dyddiad perthnasol;.

7.  Ym mharagraff 4(2)(a) o Atodlen 3 hepgorer y geiriau “a delir gan y myfyriwr” ac “y myfyriwr”.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

16 Mai 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2008 (“Rheoliadau 2008”).

Mae Rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 18 o Reoliadau 2008 er mwyn cynyddu'r grantiau ar gyfer ffioedd sy'n daladwy i fyfyrwyr sy'n mynychu Canolfan Bologna o 25,580 ewro i 27,115 ewro.

Mae Rheoliad 6 yn diwygio paragraffau 8(1)(b) ac 8(1)(c) o Atodlen 2 o Reoliadau 2008 er mwyn galluogi myfyrwyr sydd wedi ymsefydlu yn y DU ac sy'n arfer hawl i breswylio yn yr UE ac yna'n dychwelyd i'r DU i astudio i fod yn gymwys i gael y cymorth ariannol i fyfyrwyr yn llawn o dan y Rheoliadau hyn.

Mae Rheoliad 7 yn diwygio paragraff 4 o Atodlen 3 o Reoliadau 2008 o ran cyfrifo incwm gweddilliol rhiant myfyriwr.

(1)

1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147 a Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adran 42. Diwygiwyd adran 42 ac adran 43 gan Ddeddf Addysg 2002 (p. 32), Atodlen 12.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149)(C.79)) fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1660 (Cy.159)(C.56)). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).